Aerial view across the CAT site

CyDA yn Tanio Ysbrydoliaeth byd go-iawn ar gyfer Peirianwyr Cynaliadwy Byd-eang 

Pob blwyddyn, mae grŵp o fyfyrwyr ôl-raddedig rhyngwladol o Brifysgol Caergrawnt yn cyfnewid eu theatrau darlithio am labordy byw Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA). Dyma ni’n sgwrsio â Dr Dai Morgan, Darlithydd yng Nghaergrawnt, am eu hymweliad diweddar. 

Wedi’i amgylchynu gan goetiroedd, gerddi organig, systemau ynni adnewyddadwy, a phrosiectau adeiladu cynaliadwy, mae CyDA yn cynnig cyfle unigryw i ysgolion, prifysgolion a grwpiau eraill ymweld â chynaliadwyedd ar weithred, tu hwnt i’r hyn y gall yr ystafell ddosbarth ei gynnig. 

I Dai Morgan, darlithydd hirdymor ar yr MPhil mewn Peirianneg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy, mae’r ymweliad blynyddol yma wedi dod yn gonglfaen o brofiad y myfyrwyr – gan gynnig nid yn unig mewnwelediad ymarferol i gynaliadwyedd ond hefyd ysbrydoliaeth a phersbectif ffres.

Cambridge lecturer visiting CAT
Dr Dai Morgan, darlithydd ar yr MPhil mewn Peirianneg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caergrawnt

Cysylltu gydag arferion cynaliadwy byd go-iawn  

“Mae’r ymweliad â CyDA yn dod ar amser perffaith,” medd Dai. “Mae ein myfyrwyr wedi cwblhau dau dymor o ddarlithoedd dwys. Maen nhw ar fin dechrau eu traethodau hir, ac mae hwn yn amser i gamu i ffwrdd o’r ystafell ddosbarth, cysylltu ag arferion cynaliadwyedd yn y byd go iawn, ac adlewyrchu ar eu dysgu.” 

Mae’r cwrs un-blwyddyn yn denu grŵp amrywiol o beirianwyr sy’n gynnar yn eu gyrfeydd o bob cwr o’r byd, gyda myfyrwyr yn cynrychioli hyd at 20 o genhedloedd gwahanol. 

 Mae eu cefndiroedd academaidd a phroffesiynol yn amrywiol hefyd, gan ymestyn o beirianneg fecanyddol, sifil, trydanol, a chemegol, gan ddod a hwy arbenigeddau a phersbectifau eang.  

“Fe gynigir CyDA rywbeth unigryw,” esbonia Dai. “Mae’n trochi ac yn integreiddio – yn enghraifft wirioneddol o gynaliadwyedd yn cael ei weithio allan mewn amser go iawn. Mae bod yn yr amgylchedd hwnnw, o gwmpas pobl sy’n gwneud pethau’n wahanol ac yn dangos beth sy’n bosib, yn creu gofod i adlewyrchu ac ailgysylltu gyda’r hyn sy’n wirioneddol bwysig.” 

Profi cynaliadwyedd ar waith  

Yn ystod eu hymweliad, mae myfyrwyr yn archwilio safle a systemau CyDA, gosodiadau ynni adnewyddadwy, technegau adeiladu isel eu heffaith, rheolaeth goed, dŵr, a mwy. Maent yn dysgu gan arbenigwyr sydd wedi treulio degawdau yn arbrofi, addasu, a rhannu gwersi o flaen gad newid. 

Yn bwysicaf, mae’r gwersi hynny’n cynnwys nid yn unig yr hyn sydd wedi gweithio ond hefyd yr hyn sydd heb weithio. 

“Beth rwy’n ei werthfawrogi am CyDA yw’r gonestrwydd,” medd Dai. “Mae yna awydd i rannu’r pethau sydd ddim wedi gweithio yn ogystal â’r rhai sydd wedi – I ddweud, ‘roedd hwn yn anodd’ neu ‘ni weithiodd hyn fel y gobeithion y byddai.’ Mae’r math yna o agoredrwydd yn brin, ac mae’n hynod o werthfawr i fyfyrwyr sy’n mynd i mewn i wirionedd gwaith cynaliadwyedd.” 

Mae nifer yn gadael y profiad nid yn unig yn fwy gwybodus ond wedi’u hysbrydoli o ddifrif. Fe ddychwela rhai i wirfoddoli ac mae eraill yn dod o hyd i bwrpas wedi’i adfywio yn eu gwaith neu eu hastudiaethau. 

“Fe orffennodd un myfyriwr ei thraethawd hir yn gynnar er mwyn dychwelyd i CyDA fel gwirfoddolwr am ddwy wythnos ychwanegol,” cofia Dai. “Dywedodd un arall, a oedd yn arweinydd sgowtiaid, ei bod wedi newid y ffordd y bu’n gweithio gyda phobl ifanc yn ei chartref. Mae’n ysbrydoledig gweld sut mae’r profiadau hyn yn lledaenu, wrth i fyfyrwyr gymryd yr hyn maent wedi’i ddysgu a’i roi ar waith yn eu cymunedau.” 

Cambridge University students learning about water filtration at CAT
Myfyrwyr Caergrawnt yn edrych ar ein System Ddŵr 

Ysbrydoli gobaith ar gyfer dyfodol cynaliadwy  

Nawr yn aelod o CyDA ei hun, mae Dai’n bwriadu dychwelyd ar gyfer Cynhadledd CyDA. Iddo ef, fel llawer o rai eraill sy’n dod â grwpiau i CyDA, nid taith yn unig yw’r ymweliad – mae’n le sy’n tanio syniadau newydd, yn meithrin cysylltiadau, ac yn ysbrydoli gobaith ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Cambridge students on a tour of the CAT site
Myfyrwyr Prifysgol Caergrawnt ar daith o safle CyDA 

I ddysgu mwy am gynnig ymweliadau grŵp CyDA ac i wneud ymholiad, ymwelwch â cy.cat.org.uk/dewch-i-cyda/grwpiau-a-dysgu/ neu e-bostiwch education@cat.org.uk.