Aerial view across the CAT site towards hills

Datblygu Canolbarth Cymru fel Cyrchfan Gynaliadwy

Mae Canolbarth Cymru yn rhanbarth lle y gwelir harddwch naturiol eithriadol, treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, ac arwyddocâd amgylcheddol dwfn. Wrth i ni edrych i’r dyfodol, mae ganddi y potensial i fod yn esiampl o dwristiaeth gyfrifol, arloesedd carbon isel ac arweinyddiaeth amgylcheddol – nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y DU a thu hwnt.

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA), sydd wedi’i lleoli ar gyrion Machynlleth, wedi bod yn gonglfaen y symudiad cynaliadwyedd ers dros 50 mlynedd.  Fe’i sefydlwyd fel canolfan i ddangos ffyrdd o fyw mwy cynaliadwy, ac erbyn hyn, mae CyDA yn un o sefydliadau addysg amgylcheddol mwyaf blaenllaw Ewrop. 

Yn ogystal â chroesawu grwpiau o bob cwr o’r DU a thu hwnt i fynychu cyrsiau byr ac ymweliadau addysgol neu brofiadol pwrpasol, caiff Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd CyDA ei chydnabod fel un o ddarparwyr gorau cyrsiau ôl-raddedig ym maes cynaliadwyedd.  Mae’n denu myfyrwyr o bob cwr o’r byd i’r cornel bendigedig hwn o Ganolbarth Cymru, lle y maent yn dod i ddysgu, arloesi, a chydweithio ar ddatrysiadau i’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth.

Aerial view across the CAT site

Mae Biosffer Dyfi UNESCO wrth wraidd y weledigaeth gynaliadwy hon ar gyfer Canolbarth Cymru, sef ardal a gaiff ei chydnabod ar lefel fyd-eang, ac sy’n dathlu’r berthynas gytûn rhwng pobl a natur.  Mae dynodiad y Biosffer yn fwy na bathodyn anrhydedd yn unig, mae’n ymrwymiad i gynaliadwyedd, cydnerthedd cymunedol, a stiwardiaeth ecolegol.  Mae’n addewid y gall Canolbarth Cymru gynnig rhywbeth hollol unigryw i ymwelwyr:  profiad sydd wedi’i ymwreiddio mewn gofal ar gyfer y tir, ei phobl a chenedlaethau’r dyfodol.

Adlewyrchir yr ethos hwn yn y prosiectau a’r sefydliadau arloesol niferus sydd wedi’u lleoli yng Nghanolbarth Cymru.  Er enghraifft, Dulas Engineering, cwmni arloesol ym maes datrysiadau ynni adnewyddadwy, a anwyd o CyDA, ac sydd wedi ymrwymo i rymuso cymunedau a diogelu’r blaned.  O gynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol, megis prosiect Adnewyddadwy Cymunedol Bro Dyfi, y cyflawnodd CyDA rôl allweddol wrth ei sefydlu, i arferion ffermio atgynhyrchiol lleol, mae’r rhanbarth yn ferw o arloesi.  Mae ffermwyr a chynhyrchwyr lleol yn arwain y ffordd o ran systemau bwyd cynaliadwy, gan gynnig cynnyrch o ansawdd uchel a bach ei effaith sy’n cynorthwyo bioamrywiaeth ac sy’n cryfhau economïau lleol.  Nid yn unig y mae’r ymdrechion hyn yn dda i’r blaned – maent yn dda ar gyfer busnes, creu swyddi a denu ymwelwyr sy’n gwerthfawrogi dilysrwydd, ansawdd a chynaliadwyedd.

Mae Cymru mewn sefyllfa unigryw i arwain yn y gofod hwn, diolch i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n torri tir newydd.  Mae’r ddeddfwriaeth hon, y cyntaf o’i bath yn y byd, yn mynnu bod cyrff cyhoeddus yn ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau ar bobl ac ar y blaned.  Mae’n fframwaith pwerus sy’n cyd-fynd mewn ffordd berffaith â gwerthoedd twristiaeth gyfrifol ac arweinyddiaeth amgylcheddol.  Mae’r cynnig twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru yn cyd-fynd yn berffaith â hyn, o weithgareddau yn yr awyr agored sy’n hyrwyddo cerdded a beicio, i dwristiaeth sy’n seiliedig ar fyd natur, sy’n annog cysylltiadau dyfnach gyda’r tirlun a rhywogaethau arbennig y mae Canolbarth Cymru yn gartref iddynt.

Y tu hwnt i’r byd academaidd, mae CyDA yn parhau i gyflawni rôl hanfodol ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd a meithrin sgiliau.  Mae ein cyrsiau byr, ein hymweliadau grŵp, a’n rhaglenni hyfforddi yn grymuso unigolion a sefydliadau i gymryd camau ystyrlon mewn perthynas â’r hinsawdd.  Rydym yn paratoi adroddiadau ac adnoddau hygyrch sy’n helpu cymunedau a busnesau i ddelio â’r newid i ddyfodol di-garbon.  A thrwy ein Labordy Arloesi, rydym yn cynorthwyo datblygiad arloesi cymdeithasol a dulliau sy’n gallu cyflymu newid.

Un o’n mentrau presennol mwyaf cyffrous yw Prosiect Cynefin, a fydd yn trawsnewid y profiad i ymwelwyr â CyDA ac yn dyfnhau ein cysylltiad â’r rhanbarth.  Mae Cynefin yn air sy’n ysgogi ymdeimlad o berthyn ac ymwreiddio, gan grisialu ysbryd yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni.  Bydd y prosiect yn creu profiad ymdrochol, dilys ac ysbrydoledig i ymwelwyr, a fydd yn archwilio rhyng-ddibyniaeth pobl, lle a’r blaned – lle y bydd ymwelwyr yn gadael gydag ymdeimlad o uchelgais o’r newydd er mwyn gwireddu datrysiadau, ac wedi’u hysbrydoli gan ddiwrnod ym myd natur.

Mae’n bwysig nodi hefyd y bydd Cynefin yn cryfhau rôl CyDA fel canolfan ranbarthol ar gyfer dysgu amgylcheddol a sgiliau gwyrdd hefyd.  Trwy gyfrwng arddangosiadau newydd, cyfleusterau wedi’i huwchraddio a rhaglenni hyfforddiant wedi’u hehangu, byddwn yn gallu croesawu mwy o grwpiau ysgolion, colegau, prifysgolion a grwpiau cymunedol a gweithwyr proffesiynol sy’n dymuno dyfnhau eu dealltwriaeth o ddatrysiadau hinsawdd.  Wrth gwrs, ni fyddai unrhyw ran o hyn yn bosibl heb y tirlun ei hun.  Mae Canolbarth Cymru yn cynnig rhai o’r profiadau awyr agored mwyaf bendigedig yn y DU – o gopaon garw Cadair Idris i aberoedd llonydd Dyffryn Dyfi.  Mae’n baradwys i gerddwyr, beicwyr, ceufadwyr a’r rhai sy’n caru byd natur.  Ond mae hefyd yn fan lle y gall pob antur fod yn rhan o daith ehangach tuag at gynaliadwyedd.

Wrth i ni ddatblygu Canolbarth Cymru fel cyrchfan, rhaid i ni wneud hynny mewn ffordd ofalus.  Gall twristiaeth fod yn rym daioni pwerus, ond dim ond os yw’n parchu anghenion ecosystemau a chymunedau lleol.  Mae hynny yn golygu buddsoddi mewn seilwaith bach ei effaith, cynorthwyo busnesau lleol, a sicrhau bod twf yn gynhwysol ac yn deg.  Mae hefyd yn golygu annog ymwelwyr i ymgysylltu â’r tirlun mewn ffordd sy’n ei feithrin, yn hytrach na chamfanteisio arno, gan feithrin gwerthfawrogiad dyfnach o fioamrywiaeth, treftadaeth ddiwylliannol a hunaniaeth Gymreig gyfoethog y rhanbarth.  Mae twristiaeth gyfrifol yn helpu i feithrin ymdeimlad a rennir o warcheidwaeth, lle y bydd ymwelwyr yn dod yn gynghreiriad wrth ddiogelu’r mannau y maent yn eu harchwilio.

Nid rheidrwydd moesol yn unig yw cynaliadwyedd, mae’n strategaeth fusnes glyfar hefyd

Ar draws Cymru, rydym yn gweld sut y gall arferion amgylcheddol cyfrifol ysgogi cydnerthedd economaidd, gwahaniaethu o ran brand a phroffidioldeb hirdymor.  Mae ymwelwyr yn chwilio am brofiadau go iawn a bach eu heffaith yn gynyddol, ac mae busnesau sy’n cadw at y gwerthoedd hyn yn sicrhau mantais gystadleuol.  Nid yn unig y mae buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd, cadwyni cyflenwi lleol ac arferion atgynhyrchiol yn lleihau’r risg a chostau gweithredol, ond mae hefyd yn meithrin ymddiriedaeth a theyrngarwch ymhlith cwsmeriaid.  Mewn byd lle y mae defnyddwyr a buddsoddwyr sy’n ymwybodol o’r hinsawdd yn ail-siapio marchnadoedd, mae gan Ganolbarth Cymru y cyfle i arwain, gan drawsnewid ei hasedau naturiol a’i gwerthoedd cymunedol yn fantais economaidd ysgogol.

Dilynwch ein taith

Mae CyDA yn esblygu, a byddem wrth ein bodd pe baech yn gallu bod yn rhan o hyn.  Trowch at www.cy.cat.org.uk i glywed y newyddion diweddaraf am ein cynlluniau ailddatblygu, gan gynnwys Prosiect Cynefin, a darganfod sut yr ydym yn siapio dyfodol mwy cynaliadwy i Ganolbarth Cymru.