Prosiect Cydnerthedd Bwyd Sifil Dyfed Powys

Datblygu Cydnerthedd Bwyd Sifil:  Sut y mae Cymru yn Arwain Dull Newydd

Pa mor gydnerth yw ein cyflenwad bwyd?  Pa gamau ymarferol y gallwn ni eu cymryd er mwyn bod yn fwy cydnerth wrth ymdopi ag amhariadau i’r cyflenwad bwyd?  Mae Rachel Tuckett yn sôn wrthym am y ffordd y mae Prosiect Cydnerthedd Bwyd Sifil Dyfed Powys yn cydweithio gyda phobl ar draws y rhanbarth er mwyn ateb y cwestiynau hyn.

Beth yw Cydnerthedd Bwyd?

Am ddegawdau, mae cwestiynau ynghylch y cyflenwad wedi llywio dealltwriaeth y DU o gydnerthedd bwyd. Mae ystyriaethau ar lefel y Llywodraeth wedi tueddu i ganolbwyntio ar y cwestiwn ynghylch a yw cadwyni cyflenwi yn gadarn, sut y mae modd lleddfu meysydd cyfyng o ran logisteg ac a fydd mewnforion yn parhau i gyrraedd ar amser.

Ond yn gynyddol, caiff y ffocws hwn ar yr ochr gyflenwi ei gydnabod fel rhan o’r stori yn unig. Yn ystod pandemig COVID-19, gwelsom yn glir bod cydnerthedd bwyd yn ymwneud â’r galw hefyd: efallai nad oes amhariad o ran y cyflenwad bwyd, ond gallai mynediad i’r bwyd hwnnw gael ei beryglu gan y ffaith na ellir teithio ‘y filltir olaf’ i’r bwyd hwnnw, gweithgarwch prynu mewn panig, neu wrth i brisiau bwyd newid yn gyflym. Mae gwaith a gyflawnwyd yn ddiweddar gan Athro Tim Lang yn herio’r ffocws ar yr ochr gyflenwi yn uniongyrchol. Mae ei adroddiad yn 2025 i Gomisiwn Parodrwydd Cenedlaethol y DU yn cyflwyno’r achos dros gael ‘cydnerthedd bwyd sifil’, sef cydnerthedd sy’n ymwneud â phobl yn bennaf. Mae’n archwilio cwestiynau ynghylch mynediad, dosbarthiad, a gallu cymunedau eu hunain i wrthsefyll siociau bwyd.

Mewn geiriau eraill, mae cydnerthedd bwyd yn systemig ac yn sifil. Mae’n cynnwys:

  • Cadwyni cyflenwi – sut y caiff bwyd ei dyfu, ei brosesu, ei gludo a’i stocio.
  • Dosbarthu a logisteg – sut y mae bwyd yn cyrraedd siopau, ysgolion, ysbytai, banciau bwyd, ac aelwydydd.
  • Pobl a chymunedau – pa mor barod ydym ni, yn unigol ac ar y cyd, i addasu pan fydd siociau yn digwydd.

Mae’r newid hwn o ran meddylfryd yn newid cydnerthedd bwyd i fod yn her system gyfan sy’n cynnwys pawb – y llywodraeth, cynhyrchwyr, cyflenwyr, grwpiau cymunedol, ac aelwydydd.

Cyflwr Presennol Cydnerthedd Bwyd yn y DU

Mae system fwyd y DU yn seiliedig ar fodel bregus mewn-union-bryd. Ar unrhyw adeg, amcangyfrifir bod canolfannau trefol mawr fel Llundain yn dal cyn lleied â gwerth 24 awr o fwyd. Er y gallai rhanbarthau gwledig edrych yn wahanol, maent yn parhau i fod yn ddibynnol iawn ar gadwyni cyflenwi canoledig, hir.

Fel rheol, mae’r DU yn mewnforio tua 60% o’i bwyd, ac mae cryn dipyn ohono yn dod o ranbarthau sydd eisoes yn profi amhariad i’w hinsawdd. Mae’r ddibyniaeth hon yn golygu bod cyfnodau o sychder, llifogydd, plâu ac amseroedd tymhorau tyfu sy’n newid, yn trosi yn gyflym i fod yn fylchau ar ein silffoedd a chodiadau mewn prisiau gartref.

Ac un math o risg yn unig yw newid hinsawdd. Mae ein system fwyd yn wynebu nifer o elfennau sy’n ei gwneud yn agored i niwed:

  • Ymosodiadau seiber ar rwydweithiau logisteg
  • Prinder llafur, fel a ddangoswyd yn glir yn ystod pandemig COVID-19
  • Amhariadau ynni sy’n effeithio ar oeri, cludiant a phrosesu
  • Effeithiau tywydd eithafol ar gnydau, llwybrau cludiant a mynediad
  • Digwyddiadau diogelwch bwyd y mae gofyn ymateb iddynt yn gyflym

Mae gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn disgrifio’r system yn gyson fel un “sy’n fwy bregus nag yr ydym yn cyfaddef”. Mae ymchwil Tim Lang, sy’n seiliedig ar gyfweliadau ar draws y sector bwyd, yn amlygu sut y mae ymwybyddiaeth o’r breuder hwnnw wedi tyfu, ond bod y gweithredu yn ei gylch ymhell ar ei hôl hi.

Pa Risgiau y mae Systemau Bwyd Heddiw yn eu Hwynebu?

Nid rhywbeth damcaniaethol yw risg mwyach. Mae pobl ar draws y DU eisoes wedi profi:

  • Llifogydd yn rhwystro llwybrau trafnidiaeth
  • Toriadau pŵer o ganlyniad i stormydd yn amharu ar brosesau oeri a mynediad
  • Cadwyni cyflenwi yn methu oherwydd pandemig  
  • Dylanwad y cyfryngau a chyfryngau cymdeithasol yn cynyddu’r tebygolrwydd bod pobl yn prynu mewn panig
  • Anwadalrwydd prisiau o ganlyniad i densiwn gwleidyddol ac effeithiau hinsawdd

Nid yw’r rhain yn ddigwyddiadau eithafol nac yn ddigwyddiadau annhebygol.  Maent yn digwydd dro ar ôl tro, gan ddwysáu weithiau, ac maent wedi’u dosbarthu mewn ffordd anghyson ar draws rhanbarthau.  Yr hyn nad yw’n hysbys o hyd yw nid a fydd siociau pellach yn dod, ond ble, pryd a sut y byddant yn croestorri.

Felly, rhaid bod system fwyd gydnerth yn gallu ymdopi ag elfennau o straen lluosog sy’n gorgyffwrdd – nid digwyddiadau unigol yn unig.

Floods in Crickhowell caused by Storm Dennis, 2020 – climate change is causing increased flooding and storm damage across the UK. Credit: Peter Rhys Williams / Shutterstock.
Llifogydd yng Nghrucywel a achoswyd gan Storm Dennis, 2020 – mae newid hinsawdd yn achosi mwy o lifogydd a difrod o stormydd ledled y DU. Gyda chydnabyddiaeth i: Peter Rhys Williams / Shutterstock.

Y Sefyllfa Leol: Cydnerthedd Bwyd yn ardal Dyfed-Powys

Mae rhanbarth Dyfed-Powys (Powys, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin) yn dangos hunaniaeth ddwbl unigryw yn y system fwyd. Rydym ar ddechrau ac ar ddiwedd y gadwyn gyflenwi.

Ar un llaw, mae cymunedau ym Mhowys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn eistedd ar ddiwedd cadwyni cyflenwi hir iawn. Rhaid i fwyd ddod i mewn i’r DU, cyrraedd canolfannau dosbarthu cenedlaethol, ymdopi â rhwydweithiau logisteg rhanbarthol, ac yna, teithio pellteroedd sylweddol i gyrraedd siopau gwledig – ac ar ôl hyn, bydd yn rhaid i nifer o breswylwyr deithio gryn bellter i’w gasglu hefyd.

Ar y llaw arall, mae’r rhanbarth yn ardal gyfoethog o ran cynhyrchu bwyd, o dda byw i arddwriaeth. Ond mae cryn dipyn o’r bwyd hwn a gynhyrchir yn lleol, yn enwedig cig a chynnyrch llaeth, yn cael ei allforio, a dim ond ychydig bach sy’n cael ei gadw ar gyfer defnyddwyr lleol. Mae hyn yn dechrau ysgogi trafodaethau difrifol o fewn Llywodraeth Cymru a phartneriaethau lleol ynghylch byrhau cadwyni cyflenwi a chadw mwy o fwyd a gynhyrchir yn lleol a sicrhau ei fod ar gael i bobl leol.

Yn ystod y pandemig, gwelwyd grwpiau cydgymorth yn cael eu sefydlu ar draws y rhanbarth. Aeth cymunedau ati i symud cyflenwadau bwyd, gan gynorthwyo cymdogion agored i niwed a dyfeisio sianelau dosbarthu newydd. Roedd y profiadau hyn yn dangos gwendidau’r system bresennol a grym gweithredu sifil a gaiff ei drefnu.

Cyfle i Gymru: Partneriaethau Bwyd Rhanbarthol a Buddsoddiad Newydd gan y Llywodraeth

Mae Cymru mewn sefyllfa dda ac unigryw i arwain trawsnewidiad o ran cydnerthedd bwyd. Mae gan bob sir, 22 ohonynt, bartneriaeth fwyd leol, sef strwythurau ffurfiol sy’n dwyn tyfwyr, dosbarthwyr, mudiadau cymunedol, cynghorau a dinasyddion ynghyd i gydweithio ar newid y system fwyd.

Yn 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Fwyd Gymunedol Cymru, gan nodi gweledigaeth ar gyfer system fwyd sy’n decach, sy’n fwy cydnerth ac sy’n fwy cynaliadwy. I gynorthwyo ei gweithrediad, lansiodd y Cynllun Grant Cydweithredol ar gyfer Partneriaethau Bwyd Lleol, gan alluogi partneriaethau i gydweithio ar heriau a chyfleoedd ar y cyd.

Er bod y cyllid wedi deillio o danwariant yn rhannol, mae ei effaith wedi bod yn arwyddocaol. Yn hanfodol, mae wedi grymuso rhanbarthau i:

  • Ddatblygu prosiectau cydweithredol
  • Rhannu dysgu ac arloesedd
  • Cryfhau seilwaith lleol
  • Archwilio modelau newydd cydnerthedd bwyd lleol

Manteisiodd rhanbarth Dyfed-Powys ar y cyfle hwn, gan ffurfio trefniant ar cyd rhwng Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, a Sir Benfro. Wedi’u hysbrydoli gan waith Tim Lang, holont ‘Sut allwn ni droi’r canfyddiadau cenedlaethol hyn yn weithredu ymarferol ar lefel ranbarthol?’. 

Prosiect Cydnerthedd Bwyd Sifil Dyfed Powys

Comisiynwyd dau linyn ymchwil mawr gan y trefniant cydweithio rhanbarthol:

  1. Ymchwil gan Miller Research – dadansoddiad cyflym, ond eang, o gydnerthedd bwyd ar draws y rhanbarth.
  2. Proses arloesi cyfranogol dan arweiniad Labordy Arloesi CyDA – casglu lleisiau amrywiol ar draws y system fwyd er mwyn profi, herio, a dyfnhau canlyniadau’r gwaith ymchwil.

Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd yn CyDA wrth wraidd y dull gweithredu cyfranogol hwn. Roedd tua 70 o gyfranogwyr wedi mynychu dau weithdy (un ar-lein ac un wyneb yn wyneb), gan gynrychioli’r system fwyd gyfan:

  • Tyfwyr a ffermwyr
  • Cyfanwerthwyr a gweithwyr logisteg proffesiynol
  • Manwerthwyr
  • Banciau bwyd a grwpiau bwyd cymunedol
  • Llunwyr polisi ac awdurdodau lleol
  • Ymchwilwyr ac addysgwyr 

Roedd dau nod i hyn:

1. Deall y Cyflwr Presennol

Bu cyfranogwyr yn archwilio canfyddiadau Miller Research, gan drafod lle y mae’r mannau agored i niwed heddiw a pha grwpiau y byddent yn cael eu heffeithio fwyaf.

2. Archwilio Sefyllfaoedd yn y Dyfodol

Gan ddefnyddio methodoleg Labordy Arloesi CyDA, bu’r cyfranogwyr yn gweithio trwy sefyllfaoedd o sioc credadwy – y pŵer yn methu, tywydd eithafol, amhariadau i’r cyflenwad, prinder llafur – gan asesu sut y mae parodrwydd (neu ddiffyg parodrwydd) yn edrych ar lawr gwlad.

Roedd yr egni yn yr ystafell yn bwerus. Dywedodd nifer o gyfranogwyr mai hwn oedd y tro cyntaf yr oeddent wedi gallu siarad yn agored am y risgiau go iawn y mae’r system fwyd yn eu hwynebu. Roedd y broses wedi dangos: 

  • Lefelau uchel o arbenigedd lleol
  • Pryderon a rennir ar draws sectorau
  • Gwir ddymuniad i weld gweithredu rhanbarthol wedi’i gydlynu
  • Enghreifftiau o gyfleoedd a gollwyd i gysylltu gweithgarwch cynhyrchu lleol gyda’r angen lleol
  • Rhwystrau gwirioneddol y mae cymunedau yn eu hwynebu wrth fanteisio ar fwyd yn ystod siociau

Yn bwysicaf oll efallai, roedd yn amlygu potensial aruthrol o ran cydnerthedd bwyd sifil – y capasiti sydd eisoes yn bodoli mewn cymunedau, os caiff ei gynorthwyo a’i gysylltu.

Attendees of the Dfyed Powys Food Resilience Innovation Lab in CAT's rammed earth lecture theatre

Yr hyn a ddigwyddodd yn dilyn y gweithdy yn CyDA

Ar 16 Mawrth, cyfarfu y bedair partneriaeth fwy leol mewn Uwchgynhadledd Diogelwch Bwyd yn Aberystwyth i rannu canfyddiadau’r gwaith ymchwil a gweithdai’r labordy cyfranogi, casglu mewnbwn ehangach, a dechrau siapio llwybr ar gyfer gweithredu rhanbarthol.

Er y bydd y prosiect presennol yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ceir uchelgais gref i sicrhau buddsoddiad ychwanegol. Y gobaith yw:

  • Gweithredu argymhellion o’r gwaith ymchwil
  • Cryfhau rhwydweithiau dosbarthu bwyd lleol
  • Meithrin cydweithio dros y tymor hir rhwng siroedd
  • Profi dulliau cydnerthedd newydd ar draws mwy o ranbarthau
  • Datblygu strategaethau parodrwydd dan arweiniad sifil
  • Parhau gweithgarwch cynllunio ac arloesi ar sail sefyllfaoedd

Pam oedd CyDA mewn sefyllfa mor dda i gynorthwyo gyda’r gwaith hwn?

Roedd ein cyfuniad unigryw o arbenigedd yn golygu bod CyDA yn gynullydd delfrydol.

1. Methodoleg y Labordy Arloesi

Mae gan CyDA brofiad dwfn o gynllunio prosesau cyfranogol ar draws systemau cyfan, sy’n helpu grwpiau amrywiol i ddelio â chymhlethdod. Hwn oedd y prif reswm pam bod y partneriaid wedi troi at CyDA: am y gallu i ddwyn pobl ynghyd mewn ffordd adeiladol a strwythuredig, ac sy’n grymuso.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am Labordy Arloesi CyDA

2. Hanes o Fwyd yng Ngweledigaeth CyDA ynghylch Cynaliadwyedd 

Ers amser hir, mae bwyd wedi cyflawni rôl yn y ffordd y mae CyDA yn meddwl – o’r gymuned gynnar a oedd yn byw ac yn tyfu bwyd ar y safle, i ddatblygu rhaglenni ôl-raddedig mewn systemau bwyd a chynaliadwyedd.

Dysgwch fwy am raglen MSc CyDA mewn Bwyd Cynaliadwy ac Adnoddau Naturiol

3. Lle Ffisegol a Gynlluniwyd ar gyfer Cydweithio

Mae safle CyDA yn cynnig amgylchedd lle y gall pobl feddwl mewn ffordd wahanol, camu allan o bwysau dydd i ddydd, a chydweithio ar heriau dros y tymor hir.

Dysgwch fwy am y cynnig addysgol ar safle CyDA

Looking across the CAT site