Wrth i’r sefydliad ddechrau ei bennod nesaf, ar ôl mwy na phedair blynedd yn y swydd, mae arweinyddiaeth Cyd-Brif Swyddogion Gweithredol CyDA, Eileen Kinsman a Paul Booth, yn dod i ben.
Mae Eileen a Paul wedi arwain CyDA mewn partneriaeth trwy amryw o flynyddoedd heriol, gan gynnwys effaith COVID a phwysau ehangach ar draws y sectorau twristiaeth, addysg ac elusenol. Gan gyd gamu i’w rolau yn ystod cyfnod hollbwysig i weledigaeth hirdymor CyDA, fe wnaethant chwarae rhan allweddol mewn cryfhau ein sylfeini sefydliadol a chefnogi datblygiad ein prosiect ailddatblygu cyfalaf Cynefin. Roedd eu harweinyddiaeth yn hanfodol ar gyfer sicrhau £13.1m o fuddsoddiad i’r dyfodol o Fargen Twf Canolbarth Cymru ac arwain CyDA trwy gyfnod o ansicrwydd economaidd ehangach.

Wrth i CyDA gyrraedd diwedd ei strategaeth pum mlynedd presennol a pharatoi ar gyfer ei pennod nesaf, mae’r Bwrdd yn rhoi arweinyddiaeth dros dro yn ei lle. Bydd Prif Swyddog Gweithredol dros dro yn cael ei benodi i arwain yr elusen trwy’r trawsnewidiad hwn. Tan hynny, bydd Bwrdd Ymddiriedolwyr CyDA yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Rheoli Uwch i sicrhau parhad. Mae gwaith ar strategaeth pum mlynedd nesaf CyDA ar y gweill, dan arweiniad tîm trawsadrannol gyda chefnogaeth lawn y Bwrdd, ac edrychwn ymlaen at rannu diweddariadau ar hyn maes o law.
Diolchwn i Eileen a Paul am eu cyfraniad at daith CyDA. Bydd Paul yn symud yn ôl i’w rôl fel Cyfarwyddwr Cyllid, a bydd Eileen yn gadael y sefydliad.
Wrth i ni edrych ymlaen, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ein cenhadaeth elusennol gan sicrhau bod CyDA yn parhau i ysbrydoli, hysbysu, a galluogi newid ar gyfer dyfodol cynaliadwy ac yn cael ei bywiogi gan y cyfleoedd y bydd pennod nesaf gwaith CyDA yn eu gynnig.
Edrychwn ymlaen at roi diweddariadau pellach i chi maes o law a hoffem ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus.

