Bu 180 o raddedigion cynaliadwyedd yn dathlu eu cyflawniadau yn ystod Diwrnod Graddio 2026 CyDA yng Nghanolbarth Cymru, gan gofnodi’r cam nesaf tuag at ddilyn gyrfa werdd a fydd yn gwneud gwahaniaeth.
Ar ddydd Sadwrn 27 Mehefin, croesawom raddedigion, teuluoedd, ffrindiau a staff i ddigwyddiad cynnes ac ysbrydoledig i ddathlu cyflawniad, cymuned a gobaith ar gyfer y dyfodol.
Cynhaliwyd Seremoni Raddio 2026 yn safle bendigedig canolfan-eco CyDA yng nghanolbarth Cymru, fel carreg filltir arwyddocaol i 180 o fyfyrwyr ôl-raddedig a oedd yn cwblhau graddau ym maes cynaliadwyedd. Gyda’r haul yn gwenu ac ymdeimlad cryf ar y cyd o ddiben, bu’n ddiwrnod llawn balchder, myfyrio a straeon am drawsnewid.

Dathlu Cenhedlaeth Nesaf yr Arweinwyr Cynaliadwyedd
Teithiodd graddedigion CyDA o bob cwr o’r DU a thu hwnt i ddathlu eu cyflawniadau mewn meysydd a oedd yn cynnwys cynaliadwyedd ac addasu, ynni adnewyddadwy, pensaernïaeth gynaliadwy, systemau bwyd, ac ecoleg.
Gan agor y seremoni, bu Tim Brewer, Ymddiriedolwr CyDA, yn myfyrio am yr ymroddiad a fu’n ofynnol er mwyn cyrraedd yr eiliad hon, gan bwysleisio effaith unigryw a hirhoedlog astudio yn CyDA:
“Nid cyflawniad bach yw cyrraedd y pwynt hwn. Mae’n cynrychioli ymroddiad, dyfalbarhad ac ymrwymiad dwfn, nid yn unig i’ch astudiaethau, ond i’r heriau mwy yr ydym oll yn eu hwynebu… Dylech deimlo’n hynod o falch. Mae’r hyn yr ydych yn ei ddysgu yma yn mynd ymhell y tu hwnt i werslyfrau neu ddarlithoedd. Mae’n ymwneud â deall systemau, creu datrysiadau, a bod yn rhan o rywbeth sy’n wirioneddol bwysig.”
Mae graddedigion eleni eisoes yn rhoi’r hyn y maent wedi’i ddysgu ar waith, mewn ffyrdd ymarferol ac sy’n ysbrydoli. Yn eu plith y mae:
- Amy Isted, sydd wedi lansio ymgynghoriaeth ôl-osod, Sustain Change, ac sy’n cyfrannu at waith cenedlaethol i gynyddu cyrhaeddiad datrysiadau ôl-osod.
- Sahrah Wilding, sy’n datblygu gwaith ymchwil ynghylch defnyddio tir trwy greu coetir cnau ym Mhowys.
- Richard Clay, cyd-sylfaenydd sefydliad ynni cymunedol Power Up Casnewydd yng Nghasnewydd.
- Emma Speekenbrink, sy’n gweithio ar brosiectau adeiladu cynaliadwy yn y sector cyhoeddus, gan helpu i ymwreiddio cynaliadwyedd o’r camau dylunio cynharaf.
- Nora Ramakers, sy’n cynorthwyo prosiectau cymunedol ecolegol ar draws Ewrop, gan ddwyn pobl ynghyd trwy gyfrwng mentrau sy’n seiliedig ar dir a bwyd.
- CLAASH, casgliad o raddedigion pensaernïaeth y mae eu gwaith dylunio-adeiladu eisoes wedi cyrraedd miloedd, gan gynnwys prosiect mawr ar gyfer deucanmlwyddiant yr Oriel Genedlaethol.
Mae eu straeon nhw yn amlygu sut y mae’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd a ddatblygir yn CyDA yn cael effaith yn y byd go iawn, trwy gyfrwng cymunedau, cydweithio, a gweithredu ynghylch yr argyfyngau bioamrywiaeth a hinsawdd.

Ysbrydoliaeth gan y Llwyfan Byd-eang
Roedd prif siaradwr eleni, Nick Bridge CMG, wedi dwyn persbectif byd-eang i’r dathliad. Gyda gyrfa nodedig dros 30 mlynedd ym maes diplomyddiaeth, gan gynnwys gwasanaethu fel Cynrychiolydd Arbennig y DU dros Newid Hinsawdd, mae Nick Bridge wedi bod yn flaenllaw ym maes trafodaethau a pholisi hinsawdd rhyngwladol.

Gan annerch y garfan a oedd yn graddio, soniodd am natur frys her yr hinsawdd a rôl hanfodol unigolion ymroddedig a medrus wrth ysgogi newid. Roedd ei neges yn annog graddedigion i symud ymlaen gyda’u gwybodaeth mewn ffordd hyderus, gan weithio ar draws sectorau a ffiniau er mwyn cyflymu gweithredu ystyrlon.
Roedd ei anerchiad yn neges bwerus i’n hatgoffa o’r ffaith, er bod yr heriau yr ydym yn eu hwynebu yn gymhleth, ymdrechion cyfunol unigolion a chymunedau yw un o’r grymoedd mwyaf pwerus ar gyfer sicrhau newid o hyd.
Mwy na Graddio
Roedd y seremoni yn cynnwys areithiau gan staff a myfyrwyr, cyflwyno tystysgrifau yn ffurfiol, gan gynnwys cynrychiolwyr o bartneriaid dilysu CyDA, Prifysgol Dwyrain Llundain a Phrifysgol John Moores Lerpwl, ac eiliadau o ddathlu a rannwyd gydag anwyliaid.


Roedd y gwesteion wedi mwynhau pryd o fwyd wedi’i seilio ar blanhigion, cerddoriaeth fyw, a’r cyfle i archwilio safle unigryw CyDA, sy’n enghraifft fyw a gwirioneddol o ddatrysiadau cynaliadwy ar waith.
Nid yn unig yr oedd y diwrnod yn ddathliad o gyflawniad academaidd, ond roedd hefyd yn ddathliad o’r gymuned gadarn sy’n diffinio profiad myfyrwyr yn Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd.

Siapio’r Dyfodol gyda’n Gilydd
Wrth i Ddosbarth 2026 gamu ymlaen i’r bennod nesaf ar eu taith, maent yn ymuno â rhwydwaith byd-eang o dros 3,000 o raddedigion CyDA sy’n gweithio i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.
Wrth gloi, rhannodd Tim Brewer neges obeithiol:
“Mae’r heriau yr ydym yn eu hwynebu yn gymhleth… ond yr hyn sy’n cynnig gobaith gwirioneddol i mi yw gweld grwpiau fel chi, pobl sy’n meddu ar y wybodaeth, y sgiliau a’r penderfyniad i wneud rhywbeth am hyn.”
Gyda’u creadigrwydd, eu hymrwymiad a’u hegni ar y cyd, mae graddedigion eleni yn ymgorfforiad o’r math o arweinyddiaeth y mae ei angen er mwyn creu dyfodol mwy cyfiawn a chynaliadwy. Llongyfarchiadau i’n holl raddedigion, ac edrychwn ymlaen i weld yr hyn y byddwch yn ei wneud nesaf.
A ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i astudio ar un o gyrsiau yr Ysgol Graddedigion yn CyDA?
Mae modd gwneud cais am le ar ein rhaglenni ôl-raddedig ym mis Medi 2026 o hyd. Cysylltwch neu gofrestrwch i weld recordiad o’n diwrnod agored rhith diweddaraf i ddarganfod sut y gallwch chi fod yn rhan o genhedlaeth nesaf yr ysgogwyr newid.

