Graddedigion CyDA yn Dathlu eu Graddio 2025 

Ar Ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf, croesawodd Ganolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) raddedigion, ffrindiau, teuluoedd a staff i ddathliad llawen o gyflawniad, cymuned a gobaith ar gyfer y dyfodol. 

Roedd Seremoni Graddio 2025 yn garreg filltir arwyddocaol i dros 220 o fyfyrwyr a gwblhaodd raddau ôl-raddedig mewn cynaliadwyedd yn Ysgol Raddedig CyDA. Wedi’i gosod yn erbyn cefndir hardd canolfan eco CyDA yng nghanolbarth Cymru, roedd y digwyddiad yn llawn heulwen, gwênu, a straeon am drawsnewid. 

Dathliad o Weithredwyr Newid 

Daeth graddedigion CyDA ynghyd o bob cwr o’r DU a thu hwnt i ddathlu eu cyflawniadau mewn meysydd fel cynaliadwyedd ac addasiad, ynni adnewyddadwy, pensaernïaeth gynaliadwy, bwyd ac ecoleg. Mae llawer o raddedigion eleni eisoes wedi dechrau rhoi eu dysgu ar waith mewn ffyrdd dyanwadol — o lansio busnesau gwyrdd i ddylanwadu ar bolisi ac arwain prosiectau cymunedol. 

Dechreuodd Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr CyDA, Ben Summers, y seremoni drwy dynnu sylw at rai o’r straeon hyn. 

“Er bod pob un ohonoch wedi cymryd eich llwybr eich hun i gyrraedd yma, wedi’i siapio gan wahanol leoedd, proffesiynau, angerddau a phrofiadau, heddiw, rydych chi’n sefyll gyda’ch gilydd fel rhan o rywbeth mwy: cymuned CyDA. 

Yr hyn sy’n gwneud graddedigion CyDA yn arbennig yw’r hyn sy’n digwydd ar ôl eich astudiaethau ac ymchwil yma. Chi sy’n cario ymlaen effaith wirioneddol ein gwaith – yn y prosiectau rydych chi’n eu harwain, y cymunedau rydych chi’n eu cefnogi, a’r systemau rydych chi’n helpu trawsnewid.” 

Ben Summers
Ben Summers – Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr yn siarad yn ein seremoni Graddio

Mae rhai o’r myfyrwyr sy’n graddio ddydd Sadwrn yn cynnwys: 

  • Justina Raggett, a gyflwynodd ei thraethawd hir yn ddiweddar yn y Culinary Institute of America ac sydd bellach yn gweithio i ehangu bwydlenni cynaliadwy ac iach ar gyfer arlwyaeth prifysgolion. 
  • Fran Graham, sy’n Rheolwr Allgymorth i’r Woodland Trust, ac yn defnyddio’r wybodaeth o’i MSc i weithredu newid cymdeithasol, cyfleu gwleidyddiaeth, a chanolbwyntio ar waith grŵp a hwyluso. 
  • Liam Rickard, mae llawer o fyfyrwyr wedi mwynhau ei gerddoriaeth yn CyDA yn ystod wythnosau astudio ar y safle, ac bellach mae’n defnyddio ei berfformiadau a’i lwyfannau i rannu atebion hinsawdd mewn sawl iaith. 
  • Rocey Belandria, fel Swyddog Newid Hinsawdd ac Amgylchedd Naturiol yng Nghyngor Cherwell mae Rocey yn gweithio tuag at gefnogi gwellhad natur o safbwynt strategol trwy fentrau i ddiogelu, amddiffyn a gwella’r amgylchedd naturiol. 
  • Peter O’Toole yw un o sylfaenwyr Rhwydwaith Gweithredu ar Newid Hinsawdd, Milton Keynes, ac mae’n gweithio ar ymgysylltu’r gymuned a’r cyngor ar faterion newid hinsawdd lleol, cynaliadwyedd, yr amgylchedd a chydraddoldeb, tra hefyd yn gweithio ar brosiect arferion cynaliadwy yng Nghenia gyda chymuned Maasai. 
  • Ac yma yn CyDA, astudiodd Rachel Tuckett tra’n gweithio yn yr Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig mewn polisi gwyrdd, ac mae hi bellach yn arwain Labordai Arloesi Prydain Di- Garbon CyDA. 

Mae dau o’n graddedigion hefyd wedi ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr CyDA yn ddiweddar: 

  • Mae Megan McGrattan yn arloesi ymchwil i dai cost isel, a’r gallu i’w ehangu’n gyflym gan ddefnyddio argraffu 3D a deunyddiau clom traddodiadol. 
  • Ac mae Andy Baylis yn defnyddio gwybodaeth o gwrs Adeiladu Gwyrdd CyDA i leihau effaith amgylcheddol adeiladu trwy ei gwmni Jenga Design ac mae’n cefnogi’n strategol gyda phrosiectau ailddatblygu CyDA. 

Mae eu straeon yn ein hatgoffa’n bwerus o’r rôl y mae’r sgiliau a’r wybodaeth y mae myfyrwyr yn eu hennill ar ein cyrsiau ôl-raddedig yn ei chwarae wrth gyfarparu pobl i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth.

Rachel Tuckett
Rachel Tuckett yn graddio

Geiriau Ysbrydoledig gan Judy Ling Wong 

Y siaradwr gwadd eleni oedd yr ysbrydoledig Judy Ling Wong, Llywydd Anrhydeddus o’r Black Environment Network ac eiriolwr gydol oes dros gyfiawnder a chynhwysiant amgylcheddol. Roedd ei hanerchiad yn ysmudiadol ac yn ysgogol, gan rymuso graddedigion i feddwl am sut y gallant greu dyfodol gwell gyda’i gilydd a phwysigrwydd cyfiawnder hinsawdd wrth lunio hyn. 

“Mae cynaliadwyedd yn dibynnu ar berthynas pobl â natur, a pherthynas pobl â’i gilydd – pobl yw’r grym eithaf dros newid; trwy ddod â meddwl, teimlo a gweithredu at ei gilydd. 

Mae Cyfiawnder Cymdeithasol, Cyfiawnder Amgylcheddol a Chyfiawnder Hil yn dod at ei gilydd i ffurfio Cyfiawnder Hinsawdd a gall llywodraethau, sefydliadau, grwpiau cymunedol ac unigolion gydweithio ar draws gwahanol sectorau ac ar wahanol lefelau gan ddefnyddio gwybodaeth, sgiliau ac angerdd i lunio ein dyfodol.” 

Judy Ling Wong
Judy Ling Wong, Llywydd Anrhydeddus o’r Black Environment Network

Fe wnaeth ei chyflwyniad a’i hanerchiad hefyd annog ein graddedigion i barhau â’u hangerdd a’u pwrpas, ac i barhau i adeiladu byd mwy cyfiawn a chynaliadwy. 

Diwrnod i’w Gofio 

Roedd y seremoni hefyd yn cynnwys areithiau gan staff CyDA, cyflwyniad tystysgrifau, a digon o amser i ddathlu a chysylltu. Mwynhaodd y graddedigion a’u gwesteion bryd o fwyd blasus, cerddoriaeth fyw, a’r cyfle i archwilio safle hardd CyDA — enghraifft fyw o atebion cynaliadwy ar waith.

Yn ystod y seremoni, fe wnaethom hefyd ddathlu darlithydd hirhoedlog yr Ysgol Graddedigion, Dr Frances Hill, a ymddeolodd ym mis Ebrill ar ôl 15 mlynedd o gefnogi myfyrwyr CyDA gyda’u hastudiaethau.

Dr Frances Hill
Dr Frances Hill yn derbyn blodau

Wedi’ch ysbrydoli i ddysgu mwy am astudio ar gwrs Graddedig yn CyDA? 

Mae amser o hyd i wneud cais am ein mynediad mis Medi 2025. Cysylltwch â ni neu cofrestrwch i wylio recordiad o’n diwrnod agored ar lein ddiweddaraf

Lluniau o’r Seremoni Graddio gan Celfach Photography