Bold future workshop

Grymuso’r genhedlaeth nesaf

Mae Amanda Smith, Pennaeth Dysgu ac Addysg, yn archwilio rhai o’r heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu heddiw, a sut y mae CyDA yn gweithredu.

Yng Nghymru, rydym yn ffodus i gael ymrwymiad cenedlaethol i feddwl dros y tymor hir. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi anghenion yfory wrth wraidd y penderfyniadau a wneir heddiw. Mae’n ffordd bwerus o’n hatgoffa mai’r byd yr ydym yn ei siapio nawr, yn amgylcheddol, yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol, yw’r un y bydd pobl ifanc yn ei etifeddu.

Yn CyDA, credwn bod y genhedlaeth nesaf yn haeddu mwy na sedd wrth y bwrdd. Maent yn haeddu cael eu clywed, eu cefnogi a chael yr offerynnau er mwyn helpu i siapio’r dyfodol eu hunain.

Realiti i bobl ifanc heddiw

Mae pobl ifanc heddiw yn tyfu i fyny mewn cyfnod o ansicrwydd a newid cyflym. Teimlir effeithiau yr hinsawdd yn methu ar draws y byd, a disgwylir i bethau waethygu gryn dipyn.

Bellach, caiff gorbryder am yr hinsawdd ei gydnabod yn eang fel mater difrifol. Mae nifer gynyddol o blant a phobl ifanc yn eu harddegau yn adrodd am y ffaith bod maint y problemau amgylcheddol, a’r ffaith na allant wneud gwahaniaeth, yn eu llethu. Gall y faich emosiynol hon effeithio ar eu hiechyd meddwl, eu haddysg, a hyd yn oed ar eu dewisiadau gyrfa.

Ond law yn llaw â’r gofid a’r gwrthdyniad, ceir egni, angerdd a dymuniad cryf i wneud gwahaniaeth hefyd. Yn fwy nag erioed, mae pobl ifanc yn ymgysylltu’n fawr. Maent yn gofyn cwestiynau, yn mynnu bod gweithredu yn digwydd, ac yn dychmygu ffyrdd newydd o fyw. O streiciau hinsawdd mewn ysgolion i brosiectau cymunedol, maent yn dangos eu bod yn ymboeni a’u bod yn barod i arwain y sgwrs.

Ond ni all pobl ifanc wneud hyn ar eu pen eu hunain. Mae angen cymorth arnynt er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ac er mwyn paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd a’u bywydau yn y dyfodol.

Cynorthwyo pobl ifanc yn CyDA

Mae CyDA wastad wedi bod am ddatrysiadau ymarferol a newid cadarnhaol.  Mae ein gwaith gyda phobl ifanc yn datblygu’r sylfaen honno, ac yn eu helpu i archwilio syniadau, meithrin sgiliau a chanfod gobaith wrth weithredu. 

Bob blwyddyn, mae CyDA yn croesawu myfyrwyr ysgol a phrifysgol i’n Canolfan Ymwelwyr yng Nghanolbarth Cymru.  Mae’r ymweliadau hyn yn brofiadau dysgu ymdrochol sy’n dangos datrysiadau ymarferol ar waith.  Mae myfyrwyr yn archwilio systemau ynni adnewyddadwy, adeiladau gwyrdd, gerddi organig a choetir a reolir mewn ffordd gynaliadwy.  Maent yn dysgu am wyddor hinsawdd, technolegau carbon isel a dylunio sy’n ymwybodol o ecoleg.  Mae’r holl ddysgu hwn yn digwydd mewn ecosystem fyw, lle y cânt eu hamgylchynu â natur, enghreifftiau ymarferol o ddatrysiadau cynaliadwy, a thystiolaeth 50 mlynedd o arloesi amgylcheddol.

I nifer, mae’n brofiad trawsnewidiol.  Byddant yn gadael gyda gwybodaeth newydd, syniadau ffres ac ymdeimlad o obaith o’r newydd.  Byddant yn gweld bod datrysiadau yn bodoli ac y gallant fod yn rhan o sicrhau eu bod yn digwydd. Disgrifiodd un athro a oedd wedi ymweld o Ysgol Solefield yng Nghaint sut yr oedd “Un myfyriwr wedi dychwelyd ataf flynyddoedd ar ôl y daith hon i ddweud ei fod wedi ei ysbrydoli i ganlyn peirianneg gynaliadwy.”  Ers hynny, mae wedi mynd ymlaen i astudio Peirianneg Gynaliadwy yn y brifysgol ac mae bellach wedi cymhwyso ac yn gwneud yn dda yn y maes.

Getting creative on a CAT workshop

Dyfodol Mentrus: Dychmygu yr hyn sy’n bosibl

Un o raglenni mwyaf trawiadol CyDA ar gyfer pobl ifanc yw Dyfodol Mentrus, sef gweithdy a gynlluniwyd er mwyn helpu cyfranogwyr i ddychmygu dyfodol cynaliadwy a deall y rôl y gallant ei chyflawni wrth wireddu hynny.

Mae’r gweithdy yn tywys pobl ifanc trwy broses greadigol a myfyriol. Byddant yn archwilio sut y gallai byd di-garbon edrych, gan ystyried y newidiadau y mae angen eu gwneud er mwyn cyrraedd y fan honno, a nodi’r sgiliau a’r camau y gallent helpu i’w wneud yn realiti.

Mae’n wych gweld plant yn llawn gobaith am ddyfodol eu cartrefi, eu hysgolion a’u cymunedau. Maent yn dychmygu mannau gwyrdd, yn llawn chwarae ac sy’n ffynnu gyda byd natur.

Nid rhaglen sy’n dweud wrth bobl ifanc yr hyn i’w feddwl yw Dyfodol Mentrus, mae’n ymwneud â rhoi lle iddynt feddwl dros eu hunain. Rhoddir y pwyslais ar alluogedd, dychymyg a phosibilrwydd. Yn aml, bydd cyfranogwyr yn gadael wedi cael eu grymuso yn fwy, yn fwy cysylltiedig ac yn meddu ar fwy o gymhelliant i weithredu yn eu bywydau a’u cymunedau.

POP25: Cyrraedd cynulleidfa ehangach

Ym mis Tachwedd, cynhaliodd CyDA POP25 (Diwrnod Diogelu Ein Planed), digwyddiad partneriaeth mawr gyda Dysgu STEM, asiantaethau y gofod y DU ac Ewropeaidd a sefydliadau eraill. Darlledwyd y digwyddiad hwn yn fyw o CyDA i dros 200,000 o fyfyrwyr ysgol ac athrawon ar draws y DU, gan arddangos datrysiadau ymarferol i newid hinsawdd a dathlu rôl pobl ifanc yn y dasg o greu dyfodol gwell.

Roedd POP25 wedi dwyn ynghyd addysgwyr, gwyddonwyr, ymgyrchwyr a myfyrwyr i rannu syniadau, tanio sgyrsiau ac ysbrydoli gweithredu. Law yn llaw â darllediad byw o CyDA, aeth y digwyddiad yn fyw i long ymchwil amgylcheddol yn yr Arctig hefyd, ac i feysydd anhygoel eraill lle y gwneir y gwaith ymchwil diweddaraf. Roedd yn enghraifft hyfryd o’r hyn sy’n gallu digwydd pan fydd sefydliadau yn cydweithio i gefnogi addysg yr hinsawdd ac ymgysylltu â phobl ifanc.

Bu cynnal POP25 yn gyfle i ymhelaethu neges CyDA, gan gyrraedd cynulleidfa ehangach wrth fod yn rhan o rywbeth gwirioneddol ysbrydoledig i bobl ifanc.

Sgiliau ar gyfer y dyfodol

Wrth i’r byd symud tuag at ddyfodol di-garbon, mae’r galw am sgiliau gwyrdd yn cynyddu. Bydd angen i bobl ifanc feddu ar wybodaeth, ond hefyd, ar allu ymarferol, o adeiladu cynaliadwy ac ynni adnewyddadwy i ddylunio ecolegol a meddwl ar ffurf systemau. Mae CyDA yn cyflawni rôl bwysig yn y pontio hwn. Trwy ein rhaglenni ôl-raddedig, ein cyrsiau byr, ein rhaglenni gwirfoddoli preswyl a’n partneriaethau gydag ysgolion a cholegau, rydym yn helpu pobl ifanc i feithrin y sgiliau y bydd eu hangen arnynt er mwyn ffynnu mewn byd sy’n newid.

Nid rhywbeth sy’n ymwneud â swyddi yn unig yw hwn, mae’n ymwneud â diben. Mae nifer o bobl ifanc yn dymuno gweithio mewn ffyrdd sy’n cyd-fynd â’u gwerthoedd a chyfrannu at newid cadarnhaol. Mae rhaglenni addysg CyDA yn eu helpu i wneud hynny.

Mae cyfuniad unigryw CyDA o addysgu ac enghreifftiau ffisegol o ddatrysiadau ar waith yn cynnig profiad dysgu ysbrydoledig. Mae Dr Dai Morgan yn dod â’i fyfyrwyr o Brifysgol Caergrawnt i CyDA bob blwyddyn er mwyn eu hysbrydoli ac mae’n nodi bod “CyDA yn cynnig rhywbeth unigryw. Mae’n ymdrochol ac yn integreiddiol – yn esiampl go iawn o gynaliadwyedd ar waith yn y fan a’r lle. Mae bod yn yr amgylchedd hwnnw, o gwmpas pobl sy’n gwneud pethau mewn ffordd wahanol a dangos yr hyn sy’n bosibl, yn creu lle i fyfyrio ac i ailgysylltu â’r hyn sy’n wirioneddol bwysig.”

Gwrando a dysgu gyda’n gilydd

Credwn bod lleisiau pobl ifanc yn bwysig. Nid ydym yma i addysgu yn unig, ond i wrando, dysgu a chael ein hysbrydoli gan y bobl ifanc y byddwn yn eu croesawu i CyDA.

Boed hynny trwy weithdai, ymweliadau safle, paneli ieuenctid neu ddigwyddiadau cenedlaethol, rydym wedi ymrwymo i greu mannau lle y gall pobl ifanc archwilio, cysylltu a thyfu. Rydym yn gwybod bod dyfodol gwell yn bosibl. Ac rydym yn gwybod bod pobl ifanc yn allweddol er mwyn sicrhau bod hynny yn digwydd.

Queen Mary Students on our Wind Power Workshop

Sut y gallwch chi helpu

Mae’r argyfwng hinsawdd yn fater cenedliadol sy’n effeithio ar bob un ohonom. Trwy gefnogi CyDA, rydych chi’n helpu i roi gobaith, cysylltiad a chyfeiriad i bobl ifanc, fel y gallant sicrhau bod newid yn digwydd heddiw ac yfory. Rydych chi’n buddsoddi mewn addysg, grymuso a dyfodol gwell i bawb.

Os ydych chi’n rhan o ysgol neu grŵp ieuenctid, a fyddech chi’n gallu dod â nhw i CyDA am brofiad ymdrochol a thrawiadol? Dysgwch fwy am ymweliadau grŵp â CyDA trwy droi at
cat.org.uk/groupslearning.

Am yr awdur

Mae Amanda Smith – Pennaeth Dysgu ac Addysg yn teimlo’n angerddol am rym addysg i newid bywydau a chanlyniadau plant ac oedolion, trwy eu hannog i ddeall y dewisiadau y maent yn eu gwneud yn eu bywydau bob dydd, fel unigolion, fel llunwyr polisi neu bobl fusnes.

Mae gan Amanda dros 20 mlynedd o brofiad addysgu, arwain ysgolion, hyfforddi oedolion a gwella sefydliadau. Mae’n addysgwr profiadol a chymwys iawn, sy’n meddu ar statws Athro Cymwys a’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol i Benaethiaid ac mae’n Arweinydd Addysg Arbenigol. Mae ei harbenigedd yn cynnwys dylunio a datblygu deunyddiau addysg o ansawdd uchel, asesu’r effaith ar ddysgwyr, a darparu amgylchedd i gynorthwyo dysgu a chadw sgiliau allweddol, yn ogystal â monitro a sicrhau ansawdd rhaglenni.

Amanda Smith