Aerial view across the CAT site towards hills

Gweledigaeth CyDA ar gyfer y dyfodol

Rydym wrth ein bodd i gyflwyno Prif Swyddog Gweithredol dros dro newydd CyDA, Rhiannon Turner, a’n Prif Swyddog Gweithredu dros dro, Megan McGrattan, ac i lansio ein strategaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Bu Rhiannon a Megan yn gwasanaethu ar Fwrdd Ymddiriedolwyr CyDA am sawl blwyddyn ac maent yn adnabod y sefydliad yn dda. Wrth i CyDA edrych tua’r dyfodol, mae Rhiannon yn myfyrio ar hanes arloesol y sefydliad, y cyfleoedd sydd o’n blaenau a’n huchelgeisiau ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Clywch gan Rhiannon isod.

Wedi’i ysgrifennu gan Rhiannon Turner
Wedi’i ysgrifennu gan Rhiannon Turner

Rwy’n falch iawn o gyflwyno fy hun fel Prif Swyddog Gweithredol dros dro CyDA ar adeg gyffrous a hollbwysig yn hanes CyDA.

Fel sy’n wir i gynifer o bobl, dechreuodd fy nhaith gyda CyDA pan oeddwn i’n blentyn. Rwy’n cofio ymweliad yn gynnar yn yr 80au lle cefais fy swyno, o bob peth dan yr haul, gan y toiledau compostio – a rhyfeddu at y syniad y gallai’r gwelyau cors lanhau’r dŵr yn a chaniatáu iddo lifo yn ôl i’r ecosystem yn y pen draw. Bron i 45 mlynedd yn ddiweddarach rwy’n dal i gofio’r ymdeimlad hwnnw o ryfeddod a dyna ddaeth â mi yn ôl i CyDA.

Mae’n fraint enfawr camu mewn i’r rôl yma a gweithio ochr yn ochr â’r staff, myfyrwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr talentog ac ymroddedig sy’n ffurfio cymuned CyDA.

Credaf fod yr argyfwng amgylcheddol ac ecolegol yn bennaf yn fater o gyfrifoldeb: i dir, i gymunedau, ac i genedlaethau a fydd yn byw gyda chanlyniadau penderfyniadau heddiw. Mae fy ngwerthoedd wedi’u seilio ar stiwardiaeth, y gred bod rhaid gofalu am asedau naturiol, pobl, sefydliadau ac ymddiriedaeth y cyhoedd gyda gostyngeiddrwydd, disgyblaeth a rhagwelediad.

Ar ôl gwasanaethu fel Ymddiriedolwr CyDA ers 2022, rwy’n gwybod beth sy’n gwneud CyDA mor arbennig. O’n dulliau unigryw o addysgu cynaliadwyedd a sgiliau ymarferol, i’n hanes hir o arloesi ffyrdd newydd o fyw a gweithio, mae CyDA wedi treulio dros 50 mlynedd yn arwain y ffordd ym maes addysg cynaliadwyedd. Mae ein pwrpas yn parhau i fod mor berthnasol ag erioed, ac mae gennym gyfle i adeiladu ar yr etifeddiaeth ryfeddol honno, gan ddatblygu ffyrdd newydd o rannu ein gwybodaeth, cyrraedd mwy o bobl a chynyddu ein dylanwad.

Wrth fy ochr, rwyf hefyd yn falch o’ch hysbysu bod Megan McGrattan, arweinydd gweithrediadau strategol profiadol, a raddiodd o CyDA, bellach wedi’i phenodi gan y Bwrdd yn Brif Swyddog Gweithredu dros dro CyDA. Byddwn yn cydweithio’n agos i ddarparu arweinyddiaeth sefydlog, yn ystod y cyfnod interim yma.

Megan

Rydym yn ymuno â’r tîm yn ystod cyfnod heriol o newid sylweddol. Fel llawer o elusennau, yn enwedig y rhai sy’n gweithio ym maes addysg, rydym yn wynebu pwysau ariannol cynyddol ac amgylchedd allanol sy’n fwyfwy anodd. Ar yr un pryd, mae’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth yn galw am weithredu brys. Nid yw’r angen am y wybodaeth, y sgiliau a’r datrysiadau ymarferol y gall CyDA eu cynnig wedi diflannu.

Ond mae hefyd gennym gryfderau enfawr i dynnu arnynt, gan gynnwys ein pobl, ein harbenigedd a’n safle unigryw. Ac rydym ni eisoes yn rhoi’r cryfderau hynny ar waith. Mae ein strategaeth pum mlynedd newydd yn adeiladu ar lansiad Troi’r Llanw / Turning the Tide, prosiect gweithredu hinsawdd cymunedol ledled Cymru wedi’i gefnogi gan bron i £1.5 miliwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ochr yn ochr â chynlluniau i gyflwyno rhaglenni ôl-raddedig newydd yn 2027. Mae’r ddau yn dangos sut mae CyDA yn datblygu ei gynnig addysgol, yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac yn meithrin partneriaethau i gefnogi gweithredu ymarferol ar yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae sefydliadau gwydn yn barod i ddysgu, addasu a gwneud penderfyniadau meddylgar am eu dyfodol. Yn CyDA, mae hynny’n golygu tynnu ar ein profiad a’n harbenigedd rhyfeddol, cofleidio syniadau newydd a gweithio ar y cyd i gael y dylanwad fwyaf y gallwn. Bydd eglurder, cywirdeb a pharodrwydd i wrando yn ganolog i sut rydym yn gweithio. Os ydym am helpu i greu byd mwy cynaliadwy, teg a chynhwysol, rhaid inni fod yn barod i adlewyrchu’r gwerthoedd hynny yn y ffordd rydym yn gweithredu fel sefydliad.

Blaenoriaethau Strategol CyDA 2026 – 2031

Ymunodd Megan a minnau â thîm CyDA mewn pryd i lansio strategaeth pum mlynedd newydd CyDA ar gyfer 2026 – 2031. Dyma gyfle i adeiladu ar hanes rhyfeddol CyDA wrth fod yn glir ynghylch yr heriau sydd o’n blaenau, yr hyn sydd angen i ni ei amddiffyn, yr hyn sydd angen i ni ei newid a ble gallwn gael y dylanwad fwyaf. Mae’r strategaeth yn rhoi fframwaith inni ar gyfer canolbwyntio ein hymdrechion, dysgu wrth i ni fynd ac ar gyfer gwneud dewisiadau bwriadol ynghylch ble gall CyDA gyfrannu fwyaf.

Mae yna chwe blaenoriaeth bydd yn arwain ein gwaith dros y pum mlynedd nesaf:

  • CyDA fel addysgwr a darparwr sgiliau: datblygu ein cynnig addysgol, cyrraedd cynulleidfaoedd newydd a rhoi’r wybodaeth, y sgiliau ymarferol a’r hyder i fwy o bobl i helpu i greu dyfodol cynaliadwy.
  • CAT fel arddangoswr a maes profi ar gyfer gwneud a dysgu: gwneud gwell defnydd o’n safle a’n gweithrediadau fel labordy byw, arbrofi a syniadau, dysgu o brofiad a rhannu’r hyn sy’n gweithio.
  • Rôl CyDA mewn dod â phobl ynghyd i wneud newid: cryfhau ein rôl fel man ar gyfer cydweithio, trafod a chyfnewid syniadau, cysylltu pobl na fyddai’n gweithio gyda’i gilydd fel arall.
  • Safle CyDA a’i ddefnydd ar gyfer ein cynulleidfaoedd: adfywio ein safle, gweithio tuag at ailagor y Ganolfan Ymwelwyr a gwneud y gorau o’r lle unigryw hwn fel adnodd ar gyfer dysgu, ysbrydoliaeth a gweithredu ymarferol.
  • Ein diwylliant sefydliadol, strwythur a ffyrdd o weithio: adeiladu sefydliad mwy cydweithredol, cynhwysol a gofalgar, gwella sut rydym yn cyfathrebu ac yn gwneud penderfyniadau, a sicrhau y gall pobl gyfrannu eu gwybodaeth a’u profiad.
  • Ein perfformiad a gweithrediadau ariannol: cryfhau ein gwydnwch ariannol, gwella sut rydym yn cynhyrchu incwm a sicrhau bod y ffordd rydym yn gweithio yn ein galluogi i gyflawni ein cenhadaeth elusennol dros y tymor hir.
Blaenoriaethau Strategol CyDA 2026 - 2031

Mae’r blaenoriaethau hyn wedi’u cysylltu’n agos. Dylai ein haddysg gael ei llywio gan yr hyn y dysgwn drwy wneud, a dylai ein safle ddangos yr egwyddorion rydym yn addysgu. Dylai pobl, diwylliant a phrosesau mewnol CyDA hefyd wasanaethu fel tŵl dysgu ac arddangoswr, gan helpu i fodelu’r arferion sefydliadol blaengar sydd eu hangen arnom wrth i ni drawsnewid i’r dyfodol.

Yn bwysicaf oll, maent yn adlewyrchu symudiad tuag at ddod yn sefydliad mwy agored a chydweithredol, sy’n gwerthfawrogi dysgu gan ei gymuned ar yr un pryd a rhannu ei arbenigedd ei hun.

Dros y 6-12 mis nesaf, bydd grŵp newydd o staff o ar draws CyDA yn gweithio ar gamau cyntaf gweithredu’r strategaeth, gan drosi ein blaenoriaethau yn gynlluniau a chamau gweithredu ymarferol. Bydd hyn yn cynnwys gwneud dewisiadau ynghylch ble rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion, sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd a beth sydd angen i ni ei wneud yn wahanol.

Rwyf am inni ddynesu’r bennod nesaf hon gyda gonestrwydd, cydweithrediad a dewrder. Mae angen inni fod yn barod i arbrofi, dysgu o’n camgymeriadau ac addasu. Mae angen inni hefyd gydnabod y wybodaeth, yr ymrwymiad a’r profiad sydd eisoes yn bodoli ar draws CyDA, a chreu ffyrdd gwell i bobl weithio gyda’i gilydd.

Mae ein strategaeth yn nodi cyfeiriad uchelgeisiol, ond bydd ei llwyddiant yn dibynnu ar yr hyn a wnawn nesaf.

Cynlluniau Datblygu Cyfalaf CyDA

Mae ein strategaeth newydd yn darparu cyfeiriad clir ar gyfer dyfodol CyDA, gan arwain sut rydym yn datblygu ein safle unigryw a gwireddu ein huchelgeisiau yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. 

Yn dilyn adolygiad, mae CyDA a’r Bwrdd o Tyfu Canolbarth Cymru wedi cytuno na fydd prosiect ailddatblygu ‘Cynefin’ yn mynd ymlaen fwyach fel rhan o raglen Bargen Twf Canolbarth Cymru. 

Mae’r penderfyniad yn adlewyrchu cydnabyddiaeth nad oedd graddfa, amserlen a gofynion ariannu Bargen Twf Canolbarth Cymru bellach yn addas ar gyfer CyDA a’n cynlluniau datblygu ar gyfer y safle. 

Dyma’r cyllid a dderbyniwyd, gyda chefnogaeth hael ein harianwyr cyfatebol, yn caniatai inni ddatblygu a chyflawni gwaith paratoadol hynod bwysig sydd wedi gosod y sylfeini ar gyfer ein cynlluniau cyfalaf parhaus. Mae’r hwn yn cynnwys, ymhlith gwaith arall, arolygon topograffig, arolygon ecolegol, gwaith cynllunio busnes, cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer bythynnod y chwarel a datblygu cynllun safle sy’n amlinellu gweledigaeth a chyfeiriad ar gyfer holl safle CyDA. Rydym yn hynod ddiolchgar i Fargen Twf Canolbarth Cymru a’n harianwyr am ein helpu ar hyd y daith hon. 

Yn edrych ymlaen, byddwn yn dynesu ein cynlluniau cyfalaf mewn ffordd sy’n wirioneddol adlewyrchu CyDA – gan dynnu i’r eithaf ar brofiad ac angerdd ein staff a’n myfyrwyr, ochr yn ochr â chefnogaeth arbenigwyr eraill yng Nghymru a ledled y DU, wrth ddefnyddio datblygiadau fel labordy byw a tŵl addysgu.

Rydym yn edrych ymlaen at rannu’r wybodaeth ddiweddaraf i chi gyd am ein cynlluniau cyfalaf wrth iddynt barhau i ddatblygu yn y misoedd nesaf.

Prosiect Troi’r Llanw / Turning the Tide

Ochr yn ochr â’n cynlluniau datblygu cyfalaf, bydd Troi’r Llanw / Turning the Tide yn ffocws mawr i CyDA dros y tair blynedd nesaf. Wedi’i lansio ym mis Mehefin 2026 diolch i £1.5 miliwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae’r prosiect ledled Cymru yma yn dod a CyDA,  Cwmpas, Youth Cymru, Mentrau Iaith Cymru, a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST) ynghyd i gefnogi gweithredu hinsawdd dan arweiniad cymunedau. Bydd yn sicrhau bod pobl sydd â lleisiau sy’n aml wedi’u tangynrychioli yn helpu i lunio penderfyniadau amgylcheddol ac yn cefnogi mwy o bobl i deimlo’n hyderus wrth gymryd camau i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd.

I CyDA, mae hwn yn gyfle pwysig i adeiladu ar ein profiad mewn addysg gynaliadwyedd wrth weithio mewn partneriaeth dyfnach gyda mwy o bobl. Mae’n adlewyrchu’r cyfeiriad a nodir yn ein strategaeth newydd, gan ddod â phobl ynghyd, dysgu trwy gydweithio a helpu i greu dyfodol cynaliadwy y gall pobl ei lunio’n weithredol yn eu cymunedau eu hunain.

Rydym yn gyffrous i weld beth allwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd dros y tair blynedd nesaf, ac i rannu’r hyn a ddysgwn ar hyd y ffordd.

Cyrsiau MSc Newydd

Rydym yn gyffrous i lansio nifer o raglenni ôl-raddedig newydd ar gyfer derbyniadau 2027, gyda manylion ar gael yr Hydref hwn. Mae adolygu a diweddaru ein portffolio cyrsiau yn rheolaidd yn sicrhau bod ein rhaglenni cynaliadwyedd yn parhau i fod yn berthnasol, yn ymatebol i anghenion sy’n dod i’r amlwg yn y diwydiant, ac yn cyd-fynd â diddordebau darpar fyfyrwyr. Drwy gyflwyno meysydd astudio newydd a gwella’r ddarpariaeth bresennol, gallwn barhau i gynnig y wybodaeth, y sgiliau a’r arbenigedd sydd eu hangen ar raddedigion i ffynnu mewn byd sy’n newid yn gyflym, gan sicrhau bod ein cynnig ôl-raddedig yn parhau i fod yn arloesol, yn gystadleuol ac yn ddeniadol i ddysgwyr y dyfodol.

Mae CyDA wedi treulio dros pum degawd yn dangos bod dyfodol mwy cynaliadwy yn bosibl. Ein tasg nawr yw adeiladu ar yr etifeddiaeth honno, gan ddod ag arloesedd ymarferol, addysg a chydweithio ynghyd i wynebu heriau’r blynyddoedd i ddod. Fel y Prif Swyddog Gweithredol dros dro, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda thîm CyDA a’r rhwydwaith ehangach wrth i ni gymryd y camau nesaf gyda’n gilydd.

Looking across the CAT site