Mae Paul Martin, graddedig CyDA, yn rhannu ei daith tuag at sicrhau statws sero net yn ei dŷ pâr tair ystafell wely a adeiladwyd yn y 1960au, gan ddangos bod ffordd o fyw modern sy’n cael effaith fach yn bosibl i aelwyd gyffredin yn y DU.

Yn 2010, ar ôl cael fy nghymell gan fy ymweliadau a’m hastudiaethau yn CyDA, penderfynais ei bod hi’n bryd i mi gymryd camau i leihau fy nghyfraniad personol i newid hinsawdd. Yn ystod fy nghwrs BSc, rydw i’n cofio gweld astudiaeth achos o dŷ yn y DU a oedd yn cael ei bweru gan baneli ffotofoltaidd (PV) solar, gyda’r pŵer dros ben yn gwefru cerbyd trydan (EV), a meddyliais, “Hoffwn i wneud hynny!”
Cymryd y cam cyntaf
Y cam cyntaf oedd deall fy nefnydd o ynni. Gwneuthum hyn trwy roi mwy o sylw i’m biliau cyfleustodau a chymryd darlleniadau mesurydd ar gyfer trydan, nwy a dŵr. Euthum ati i gyfrifo faint o danwydd yr oeddwn yn ei ddefnyddio a faint o filltiroedd yr oeddwn yn eu teithio yn fy nghar bob blwyddyn. Gyda chymorth cyfleuster cyfrifo ôl troed carbon, amcangyfrifais gyfanswm yr allyriadau CO2 yr oedd modd eu priodoli i’m ffordd o fyw (e.e. fy niet a’r pethau yr oeddwn yn eu prynu) a hefyd, fy nghyfran o seilwaith y DU (gwasanaethau, ffyrdd, ysbytai ac ati). Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, dechreuais amcangyfrif fy ôl bys CO2 – dadansoddiad manwl o’m hallyriadau ar draws gwahanol gategorïau (Ffig.1) – a chyfanswm fy ôl troed (Ffig.2), a oedd wedi fy nghaniatáu i olrhain fy nghynnydd tuag at sero net dros y blynyddoedd.
Prynais fy nhŷ ym 1995. Roedd gennyf set lawn o ddata ar gyfer 1998 cyn i mi wneud unrhyw newidiadau i’r eiddo, felly dewisais hon fel y flwyddyn a fyddai’n waelodlin er mwyn mesur gwelliannau yn ei herbyn. Ym 1998, ôl troed carbon fy aelwyd oedd 10.7 tunnell o CO2e y flwyddyn.
Newidiadau ffordd o fyw
Yn gyntaf, dechreuais ystyried effaith fy newisiadau ffordd o fyw, gan bod y rhain yn gallu cynnig y ffordd gyflymaf o sicrhau newid. Gan ddefnyddio’r cyfleuster cyfrifo ôl troed carbon, cefais ffigwr gwaelodlin o 1tCO2e y flwyddyn.
Er mwyn lleihau allyriadau ffordd y fyw, roedd angen i mi wneud rhai newidiadau. Newidiais fy niet i fod yn ddiet llysieuol (a newidiais i ddiet figan yn nes ymlaen) a phrynais fwyd organig, ffres a thymhorol o siopau fferm lleol pan oedd modd. Symudais fy nghyfrifon ariannol i fanciau moesegol, sy’n cael eu cefnogi gan elusennau amgylcheddol (gan gynnwys CyDA) a dechreuais fyw yn unol â thair egwyddor – lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.
Roedd y dewisiadau hyn wedi lleihau fy allyriadau ffordd o fyw gymaint â 50% neu 0.5tCO2e y flwyddyn. Yn gyffredinol, gwelais y newidiadau hyn yn hawdd i’w gweithredu, heb fawr o effaith o ran y gost.

Defnydd fy aelwyd o drydan
Gan feddwl am leihau fy allyriadau yn y cartref, dechreuais gyda fy nefnydd o drydan. Tan 2012, darparwyd yr holl drydan ar gyfer fy nghartref gan y Grid Cenedlaethol.
- Yn 2012, gosodais aráe PV solar 1.8kWp (cilowat brig) ar fy nho sy’n wynebu y de-ddwyrain. Manteisiais ar gynllun Tariff Cyflenwi Trydan (FiT) llywodraeth y DU ar y pryd (a ddisodlwyd erbyn hyn gan y Gwarant Allforio Clyfar (SEG)).
- Yn 2018, gosodais fatri storio trydan plwm-asid 4kWh i gynyddu cyfran y pŵer solar yr oeddwn yn ei ddefnyddio yn bersonol o 25% i 75% a lleihau’r swm yr oeddwn yn ei allforio i’r grid (ar ôl y rhychwant oes disgwyliedig o chwe blynedd, penderfynais uwchraddio i un lithiwm-ion 13.5kWh).
- Yn 2022, ychwanegais aráe solar eilradd 1kWp ar do fy ngarej sy’n wynebu’r de-orllewin. Ychwanegais fwy o allu cynhyrchu pŵer adnewyddadwy o gyfran ym Mhrosiect Tyrbin Gwynt Graig Fatha.
Talais am yr holl fesurau hyn fy hun. Ond roedd yr hyn a gefais yn ôl ar ffurf arbedion mewn costau ynni a refeniw gan FiT a’r tyrbin wedi rhoi arian ar gyfer mwy o fesurau.

O ganlyniad i’r newidiadau hyn, mae defnydd ynni trydan blynyddol fy aelwyd o’r grid wedi lleihau 34%, ac mae allyriadau fy nhŷ wedi lleihau gymaint â 0.8tCO2e y flwyddyn.
Gwresogi
Ym 1998, roedd y gwres ar gyfer fy nhŷ a’r dŵr yn cael ei ddarparu gan foeler nwy aneffeithlon o’r 1970au a chan reiddiaduron. Nid oedd unrhyw ddeunydd inswleiddio yn y llofft na’r waliau ceudod. Roedd gen i ffenestri gwydr dwbl a drysau patio o’r 1980au a drysau pren allanol a oedd yn gollwng dŵr.
Yn 2005, cyn i mi ddechrau gwneud ymdrech ymwybodol i leihau fy ôl troed carbon, euthum ati i wneud rhai gwelliannau i’r cartref. Gosodais ddrws ffrynt a drysau patio newydd a llenwais ddrws ochr â brics. Disodlais do gwastad. Gosodais ddeunydd inswleiddio ffeibr gwlân 150mm yn y prif llofft. A gosodais foeler cyddwyso nwy a oedd yn 90% o ran ei effeithlonrwydd yn lle’r hen foeler, ynghyd â phibellau a rheiddiaduron newydd.
Yn nes ymlaen, gan fanteisio ar grant gan Lywodraeth Cymru, euthum ati i sicrhau gwelliant o ran y gwres a oedd yn cael ei golli o ffabrig yr adeilad a thrwy ymdreiddiad, trwy osod deunydd inswleiddio yn y waliau ceudod, ychwanegu at y deunydd inswleiddio yn y llofft i 300mm, a selio mannau lle’r oedd aer yn dianc. Disodlais y ffenestri gydag unedau gwydr dwbl allyriadau isel, wedi’u llenwi ag Argon ac a oedd yn sicrhau safon A, gan ddal gwres i mewn a manteisio i’r eithaf ar ynni haul goddefol.
Yna yn 2023, disodlais y boeler nwy a oedd yn 18 oed gyda phwmp gwres o’r aer 5kW, a oedd yn golygu bod fy ngofod a’m dŵr yn cael eu gwresogi gan drydan. Er mwyn gwneud hyn, manteisiais ar grant* o £7,500 gan Lywodraeth y DU. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, roedd hwn wedi rhoi cyfernod perfformiad (COP) o 4.01. Yn ei hanfod, mae pob uned o fewnbwn trydanol yn darparu pedair uned o wres, effeithlonrwydd o 400%, o’i gymharu â 90% ar gyfer boeler nwy newydd.
Roedd y mesurau hyn wedi lleihau fy nefnydd o ynni blynyddol er mwyn gwresogi’r gofod a’r dŵr gymaint ag 84%, a lleihau fy allyriadau gymaint â 2.7tCO2e y flwyddyn.
Teithio
Fel defnyddiwr cadair olwyn, byddaf yn gwneud fy holl deithio personol mewn car. Ar ddiwedd 2011, newidiais fy nghar petrol i gar hybrid ysgafn, gan arbed 1.4tCO2e y flwyddyn. Dair blynedd yn ddiweddarach, llwyddais i uwchraddio unwaith eto, gan brynu cerbyd trydan batri 100%, gan arbed 0.5tCO2e pellach y flwyddyn.
Yn 2024, gan bod cyfran uwch o drydan y grid yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, sef gwynt yn arbennig, lleihawyd fy allyriadau blynyddol trwy deithio mewn car gymaint â 79% neu 2.2tCO2e y flwyddyn. Mae hyn er gwaethaf y ffaith fy mod wedi teithio 4,000 o filltiroedd yn fwy yn ystod y flwyddyn.
Mae modd gwefru’r cerbyd trydan gan bŵer solar yn gyfan gwbl yn ystod yr haf hefyd gan fy mod wedi ychwanegu’r aráe solar eilradd – dim cost, dim allyriadau.
Defnydd dŵr
Rydw i wedi lleihau cyfanswm y dŵr yr wyf yn ei ddefnyddio trwy gynaeafu dŵr, gosod teclynnau llif isel ar arllwysfeydd, defnyddio amserydd ar y gawod, cael cawod yn lle bath, a defnyddio peiriant golchi llestri yn hytrach na llenwi’r sinc. Mae cyfanswm y dŵr yr wyf yn ei ddefnyddio bob blwyddyn wedi gostwng 80%, gan arwain at ostyngiadau o
0.04tCO2e y flwyddyn o ran allyriadau.
Seilwaith
Caiff allyriadau eu priodoli i’r seilwaith yr ydym yn ei ddefnyddio, fel gwasanaethau, ffyrdd, ysbytai ac ati. Nid oes modd rheoli’r rhain yn bersonol, felly maent wedi aros yr un fath yn ystod y cyfnod.
Cefais y ffigwr o’r cyfleuster cyfrifo ôl troed carbon a ddefnyddiais – 2.75tCO2e y flwyddyn ar gyfer pob dinesydd yn y DU.
Er mwyn gwrthbwyso rhai o’r allyriadau hyn, defnyddiais secwestriad naturiol trwy roi rhodd flynyddol i Goed Cadw i blannu gwerth 25m2 o goetir. Plannais 14 o goed brodorol ar y safle, creais ddau bwll, tyfais wal werdd a rhoddais do gwyrdd bywlys helaeth ar fy estyniad sydd â tho gwastad. Rydw i’n ffodus bod gennyf ardd fawr, sy’n caniatáu i mi wneud y pethau hyn.
Effaith gyffredinol
O ganlyniad i’r mesurau a ddisgrifiwyd uchod, erbyn 2024, roedd cyfanswm fy allyriadau carbon wedi lleihau 79% neu 8.5tCO2e y flwyddyn o’i gymharu â gwaelodlin 1998, o 10.7tCO2e i 2.2tCO2e.
Ymhellach, roedd fy allyriadau i y gallwn eu rheoli yn bersonol, heb gynnwys y seilwaith, wedi creu ffigwr negyddol o
-0.5tCO2 e yn 2024. Mae Ffig. 2 yn dangos y gostyngiad o ran allyriadau carbon yn ystod y cyfnod, gan gymharu cyfanswm fy ôl troed, allyriadau y gallaf eu rheoli yn bersonol, a’r targed y pen ar gyfer y DU.

Bellach, mae fy nghartref a’m ffordd o fyw yn rhydd rhag tanwydd ffosil, ac mae’r tŷ yn un o’r SuperHomes, rhwydwaith o gartrefi effeithlon o ran ynni ac y gwnaethpwyd gwaith ôl-osod arnynt, a aseswyd gan y Sefydliad Ynni Cenedlaethol. Erbyn hyn, mae gennyf dŷ sy’n cael ei bweru gan ynni solar ac mae’r ynni dros ben yn gwefru cerbyd trydan – rydw i wedi llwyddo i gyrraedd y nod!
Am yr Awdur
Ar ôl astudio gradd BSc mewn Astudiaethau Amgylcheddol a Diploma mewn Polisi Amgylcheddol, yna gradd MSc mewn Cynaliadwyedd mewn Darpariaeth Ynni a Rheoli’r Galw yn CyDA, mae Paul bellach yn ysgrifennu erthyglau a blog ar ecofuturist.net ynghylch sicrhau ei ffordd o fyw net sero o ran carbon. Mae hefyd yn gyd-sylfaenydd ac yn gyfarwyddwr EVA Cymru, corff cynrychioliadol cenedlaethol Cymru ar gyfer perchnogion a gyrwyr cerbydau trydan.

