Power Plant

Osgoi mynd tu hwnt– ras y pwyntiau tipio  

Mae degawdau o weithredu annigonol wedi mynd â dynoliaeth, a’r blaned yr ydym i gyd yn dibynnu arni, i le heriol iawn. Mae Paul Allen yn archwilio’r angen brys am weithredu i gyfyngu ar, a gwrthdroi mynd tu hwnt tymereddau byd-eang, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn gyflym a thrawsnewid ein systemau i gynyddu addasiad.

Pob blwyddyn, yn arwain at drafodaeth hinsawdd, Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, COP, mae UNEP – Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig yn cyhoeddi adroddiad wedi’i ddiweddaru ar ble rydym ni, a’r hyn rydym ni wedi’i gyflawni. Mae eu hadroddiad 2026 “Limiting Overshoot: Navigating exceeding of 1.5°C and pathways towards return” yn ei gwneud hi’n glir bod cynnydd tymheredd byd-eang cyfartalog bellach ar fin croesi 1.5°C yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol, gan gynyddu’r risg o effeithiau hinsawdd i lefelau peryglus. 

Flood

Mae Erthygl 2 o’r Cytundeb Paris, cytundeb newid hinsawdd sy’n rhyngwladol-rwymol, yn ei gwneud hi’n glir y gallwn “leihau effeithiau newid hinsawdd yn sylweddol” drwy ymdrechu i gyfyngu’r cynnydd i 1.5°C. Mae adroddiad UNEP yn dadlau, os ydym am ddychwelyd rhagolygon i islaw 1.5°C a mynd ar lwybr o ‘fynd tu hwnt, cyrraedd uchafbwynt ac yna gostwng’ rhaid i ni weithredu nawr.

Mae’r nod o gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5°C wedi’i atgyfnerthu ymhellach gan gyfraith ryngwladol. Mae’r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol yn ystyried y trothwy o 1.5°C fel y tymheredd amcanol sydd wedi cytuno arno ar gyfer cyfyngu ar y cynnydd mewn tymheredd cyfartalog byd-eang o dan Gytundeb Paris. Dyma benderfyniad Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig a fabwysiadwyd yn 2026 yn cadarnhau’r ymrwymiad cyfreithiol hon ymhellach. 

Mae’r pwynt yma o fynd tu hwnt yn aml yn cael ei drafod fel croesiad o drothwy ffisegol. Mewn gwirionedd, mae’n rhan o broses ddeinamig a fydd yn datblygu dros y degawdau nesaf. Mae risgiau hinsawdd yn cael eu llunio gan sut mae tymereddau uchel yn codi, pa mor hir y maent yn parhau’n uchel a sut mae ecosystemau a chymdeithasau’n ymateb. 

Mae’r adroddiad yn alwad glir am gamau gweithredu byd-eang sy’n cyfuno gostyngiad cyflym mewn allyriadau yn y dyfodol ag addasiad trawsnewidiol. Elfen allweddol o’r her hon yw cydnabod, os ydym yn croesi ystod o bwyntiau tipio, y bydd yr effeithiau yn effeithio’n ôl ar eu hunain. Er enghraifft, bydd dadmer rhew parhaol, yn rhyddhau methan, nwy tŷ gwydr pwerus bydd yn cynyddu cynnydd tymheredd ymhellach, neu, mae toddi llenni iâ a rhewlifoedd yn lleihau ardaloedd adlewyrchol gwyn y Ddaear, felly mae’r blaned yn cynhesu’n gyflymach trwy amsugno mwy o olau’r haul. 

View of the planet from space

Sut mae angen i ni wynebu’r realiti hwn a chanolbwyntio ar weithrediadau

Er bod llawer o bwyntiau tipio y mae angen i ni eu hosgoi, mae ein gwyddoniaeth yn cydnabod y cyfle i sbarduno pwyntiau tipio bositif. Wrth i ddynoliaeth groesi trothwyon datrysiadau allweddol, gall cynnydd ddod yn gyflym ac hunan-atgyfnerthu. Er enghraifft, gall gynyddu ynni adnewyddadwy helpu i leihau costau trwy greu arbedion maint, gall yna helpu i gynyddu’r defnydd ymhellach ledled y byd, a’i gwneud hi’n haws i wneud yr achos dros y polisïau ynni glân sydd eu hangen arnom.

Ond wrth i mi ymchwilio i’r wyddoniaeth i gymharu’r gwahanol bwyntiau tipio yn y ras, daeth yn amlwg, uwch 1.5C, mae effeithiau o ecosystemau wedi’u chwalu neu iâ sy’n toddi yn ei gwneud hi’n anoddach i leihau cynnydd cyfartalog tymheredd byd-eang. Fodd bynnag, mae creu pwyntiau tipio bositif yn dibynnu ar systemau dynol sy’n newid yn gyflym ac sy’n esblygu’n barhaus trwy newidiadau gwleidyddol a diwylliannol.

Mewn byd lle mae mynd y tu hwnt i 1.5C am gyfnod dros dro bellach yn ymddangos yn anosgoadwy, mae pob ffracsiwn o radd sy’n cael ei osgoi, pob blwyddyn ble mae mynd tu hwnt yn cael ei fyrhau a phob buddsoddiad mewn gostyngiad, addasiad a gwydnwch yn helpu i gadw nodau Cytundeb Paris o fewn cyrraedd ac yn amddiffyn iechyd dynol, economaidd a phlanedol.

Manteision y tu hwnt i leihau allyriadau carbon

Er mwyn cynyddu cyflymder newid positif, dull allweddol sydd ar gael i ni yw’r hyn y mae llawer bellach yn ei alw’n aml-ddatrysiad, sy’n cynnwys mynd at bolisïau, camau gweithredu a buddsoddi gyda’r bwriad o ddatrys nifer o broblemau a chreu manteision ar draws y system.

Drwy gynyddu ynni adnewyddadwy, gallwn leihau costau gosod a chynhyrchu ac ar yr un pryd gostwng costau egni uchel i ddefnyddwyr, gan wneud achos pellach dros fwy o ynni adnewyddadwy.

Gall trafnidiaeth werdd helpu i greu aer glanach ac annog symudoldeb mwy egnïol, sydd ag effeithiau cadarnhaol ar iechyd pobl, gan helpu i leihau costau gofal iechyd yn y pen draw.

Drwy rannu mwy o straeon sy’n tynnu sylw at y manteision ychwanegol o gymryd camau gweithredu ar yr hinsawdd, rydym yn gwneud cymryd camau gweithredu pellach yn fwy tebygol.

Offshore Windfarm

Mae straeon datrysiadau yn tyfu 

Wedi’i gyhoeddi ym mis Medi eleni, mae ymchwil newydd hanfodol gan dîm Datrysiadau Dyfodol Gwyrdd Prifysgol Caerwysg a Gwobr Earthshot yn tynnu sylw at 51 o atebion amgylcheddol a all sbarduno newid cyflym a thrawsnewidiol i atgyweirio ein planed o fewn y pum mlynedd nesaf. Er enghraifft, mae costau egni solar wedi gostwng tua 90% yn y degawd diwethaf, ac wrth i’r defnydd dyfu, mae costau ei roi mewn lle yn parhau i ostwng.  

The new solar project begins to take shape – Project Manager Tim Brewer (far left) with some of the installer team.

Yn yr adroddiad hwn, mae’r Athro Tim Lenton, arbenigwr mewn Newid Hinsawdd a Gwyddor Systemau’r Ddaear, ym Mhrifysgol Caerwysg, yn cyflwyno achos clir: “Er mwyn gwrthdroi difrod i’n hecosystemau cyn iddi fod yn rhy hwyr, mae angen i ni ddatgloi pwyntiau tipio bositif, lle mae cynnydd yn adeiladu arno’i hun, costau’n gostwng gyda graddfa, ac adferiad yn cae; yn hunan-yrrol. Dyma pam mae’r ymchwil hon mor berthnasol ac angenrheidiol, gan ei bod yn nodi’r pwyntiau tipio sydd gyda’i gilydd yn cynrychioli’r cyfle gorau i atgyweirio ein planed a sut y gallwn eu cyrraedd.”

Mae pob ffracsiwn o radd sy’n uwch na 1.5°C yn bwysig, felly mae pob cam gweithredu ar ddatrysiadau yn bwysig

Bydd camau gweithredu a gymerir nawr yn dylanwadu ar ba mor uchel y mae cynhesu yn codi, pa mor hir y mae’n aros yn uwch na lefelau diogel, a gallu cenedlaethau’r dyfodol i fyw’n llesol. Nid yw mynd tu hwnt i 1.5°C yn rheswm i ostwng uchelgais. Mae’n rheswm i weithredu’n gynharach, dysgu’n gyflymach a chynnal cydweithrediad cadarnhaol. 

I gael y sgiliau a’r wybodaeth sydd ei angen i ddod yn rhan fwy rhagweithiol o’r datrysiad, ymwelwch â cy.cat.org.uk/. 

Looking across the CAT site