Mae Jonathon Porritt yn awdur blaenllaw ac yn ymgyrchydd arweiniol dros ddatblygiad cynaliadwy. Ers dros bum degawd, mae wedi darparu arweiniad strategol i’r ‘mawr a’r da’, gan barhau i gymryd rhan weithredol mewn gwleidyddiaeth werdd a llawer o ymgyrchoedd gwahanol. Yn y blog hwn, mae’n rhannu darn o’i lyfr sydd ar ddod.
Love, Anger & Betrayal
Ym mis Gorffennaf eleni, bydd yn cyhoeddi ei lyfr diweddaraf, ‘Love, Anger & Betrayal’, wedi’i gyd-awduro gyda 26 o ymgyrchwyr ifanc angerddol.
Mae Jonathon wedi ymrwymo’n frwd tuag at rymuso’r genhedlaeth nesaf, ac mae’n hyrwyddo lleisiau a gweithredoedd pobl ifanc wrth iddynt wynebu dyfodol sydd wedi’i lunio gan yr argyfwng deuol o newid hinsawdd a cholled bioamrywiaeth.
Mae ‘Love, Anger & Betrayal’ yn alwad glir am gyfiawnder hinsawdd sy’n pontio’r cenedlaethau ac yn sialens feiddgar i amgylcheddaeth brif ffrwd, yn ogystal ag archwiliad personol o straeon a chymhelliant y rheini a’i henwir gan rai fel ymgyrchwyr ‘radicalaidd.’
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi y bydd Jonathon, ynghyd ag un o’i gyd-awduron ifanc ysbrydoledig, yn ymuno â ni fel siaradwyr gwadd yng Nghynhadledd Flynyddol CyDA, eleni, ym mis Awst. Peidiwch â cholli’r cyfle unigryw hwn i glywed gan ddwy genhedlaeth o arweinwyr hinsawdd sydd ar flaen y gad ar gyfer y symundiad dros ddyfodol cynaliadwy. Mae’n anrhydedd i ni gynnig rhagolwg byr cyffrous o’r llyfr yma.
Detholiad
“A word about the title of this book. Before opting for ‘Love, Anger & Betrayal’, my favourite working title was ‘For the Love of God, Pay Attention!’ – as a rather blunt way of capturing the incomprehension felt by these young campaigners as we hurtle towards a world ravaged by climate breakdown. Yet so few people really seem to care. Because of that, there’s an undeniable element of desperation in the choices they make about campaigning tactics, in a world where the old model of political engagement has gone and ‘spectacle beats argument every time’. As Chris Hayes puts it in his excellent book, The Sirens’ Call: How Attention Became the World’s Most Endangered Resource

Working with young activists has forced me to confront the full extent of today’s ongoing intergenerational injustice – in effect, the whole notion of Intergenerational Justice has been turned on its head. Instead of older generations doing everything they can to ensure a better, more secure future for all those who come after them, today’s younger generation finds itself doing a lot of the heavy lifting to secure a still liveable future not just for themselves, but for their parents and grandparents.
Which is why I hope, almost against all hope, at this very late stage, that all those parents, grandparents and citizens deeply concerned about the future, will find their own way of stepping up – moving from concern to action. When Martin Luther King said that ‘the arc of the moral universe is long, but it bends towards justice’, he sure as hell didn’t mean that justice will simply arrive, so sit back and wait for the happy outcome! As he said: ‘Social progress never rolls in on the wheels of inevitability. It comes through the tireless efforts and persistent work of dedicated individuals.’
“Ar ei symlaf, rwy’n cymryd rhan gan fy mod wrth fy modd â bywyd: pobl a phopeth ar y blaned sy’n gwneud y byd yn werth ymladd drosto. Mae hanes yn dweud wrthym fod yn rhaid i ni dderbyn fel ymgyrchwyr y bydd rhai pobl yn ein casáu ni, mae ceisio codi ymwybyddiaeth yn y modd yma yn gwneud rhai pobl yn grac iawn. Ond hyd yn oed pan fyddant yn anghytuno, mae sgwrs yn parhau. Efallai y byddan nhw’n dechrau teimlo rhywfaint o’r ofn hwnnw?”’ – Jacob
“Mae llawer o bobl yn esgus nad yw’r argyfwng hinsawdd yn digwydd, a bydd popeth yn iawn. Rwy’n gwybod y gall fy nghyfranogiad fy hun wneud i lawer o ffrindiau a theulu deimlo’n anghyfforddus – bron fel pe bawn i’n ymgorfforiad o’r holl bryderon hynny! Dydy rhai ffrindiau wir ddim eisiau gwybod. ‘Mae’n fraint bod yn rhan o hyn, ond gall hefyd bod yn faich – gwneud y gwaith bob dydd, boed hynny o flaen fy meddwl ai peidio, rwy’n ei wneud oherwydd bydd cannoedd o filiynau o bobl yn dioddef yn y dyfodol. Gall fod yn anodd bod o gwmpas pobl sydd ddim yn deall hynny –ac sydd ddim eisiau gorfod meddwl amdano.”- Olive
Ymunwch â Jonathon yng Nghynhadledd Flynyddol CyDA yr haf hwn, o 15 i 17 Awst, i archwilio’r pwnc yn fanylach a dod â’ch syniadau a’ch meddyliau eich hun fel aelod o CyDA.

