Mae Dr Alan Owen, Uwch-Ddarlithydd CyDA a Thiwtor Cyrsiau Byr yn archwilio sut y gall ein cyrsiau byr Ynni Adnewyddadwy i Aelwydydd helpu pobl i arbed amser, arian a rhwystredigaeth wrth ddarganfod pa ddewisiadau ynni adnewyddadwy fydd yn gweithio iddyn nhw.
Rydw i wedi bod yn addysgu yn CyDA er 2017, fel rhan o Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd ac ar gyrsiau byr CyDA. Un o’r pethau yr wyf yn eu mwynhau fwyaf am addysgu yw helpu pobl i ddeall sut y gall ynni adnewyddadwy weithio iddyn nhw.
Cychwynnodd fy nhaith i wrth wneud prentisiaeth fel peiriannydd yn y 1970au, a dros y blynyddoedd, rydw i wedi gwisgo sawl het – saer maen, töwr, ymchwilydd, a darlithydd. Yn nes ymlaen yn fy mywyd, llwyddais i sicrhau fy ngradd a’m gradd PhD mewn peirianneg mecanyddol a bûm yn rhedeg canolfan ymchwil yn Aberdeen, gan weithio ar brosiectau ynni adnewyddadwy ar gyfer cymunedau anghysbell yn Nigeria, Ghana, Togo ac Indonesia. Rydw i hefyd wedi gwneud gwaith ôl-osod mewn cartrefi niferus fy hun, gan leihau’r galw am ynni gymaint â hyd at 80%.
Mae’r gymysgedd hon o brofiad ymarferol ac academaidd yn siapio’r ffordd yr wyf yn addysgu heddiw. Mae’n bwysig peidio dwyn damcaniaethau i addysgu yn unig, ond dwyn addysgu sy’n seiliedig ar ddigon o brofiad o’r byd go iawn.

Helpu Pobl i Wneud Penderfyniadau Gwybodus
Mae’r rheswm pam yr wyf yn addysgu’r cyrsiau hyn yn syml: mae gwybodaeth yn arbed amser, arian a rhwystredigaeth i bobl. Mae nifer o gyfranogwyr yn dod i CyDA oherwydd eu bod yn dymuno gosod paneli solar, tyrbinau gwynt, neu bympiau gwres, ond nid ydynt yn siŵr beth fydd yn gweithio ar gyfer eu cartref nhw mewn gwirionedd. Mae’r rhyngrwyd yn llawn cyngor, ond mae hwn yn aml yn anghyson, neu’n cael ei gynllunio i ysgogi gwerthiant.
Mae ein cyrsiau yn cynnig yr offer i bobl wneud synnwyr o’r holl sŵn hwnnw. Byddwn yn cychwyn gyda’r hanfodion, gan archwilio sut y mae systemau yn gweithio, pa ffactorau sy’n bwysig ar gyfer eich safle chi, a sut i ddehongli’r rhifau. Nid yw’n ymwneud â throi pawb yn beiriannydd, ond cynnig digon o ddealltwriaeth er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus.
Un stori sy’n aros yn y cof i mi yw cyfranogydd a ddaeth i ddysgu am ynni gwynt. Roedd yn awyddus i osod tyrbin ar gyfer ei eiddo. Ar ôl y cwrs, sylweddolodd nad oedd ei safle yn addas ar gyfer ynni gwynt, ond sylweddolodd hefyd ein bod wedi arbed tua £5,000 iddo oherwydd byddai wedi gwastraffu ei fuddsoddiad. Aeth ymlaen i osod PV solar yn lle hynny, sy’n gweithio’n dda iawn iddo.
Cefnogi Cenhadaeth CyDA
Mae CyDA yn bodoli i ysbrydoli, hysbysu a galluogi datrysiadau ymarferol ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Mae addysgu pobl yn rhan fawr o hynny. Mae pob penderfyniad gwybodus yn helpu i gyflymu’r pontio i fyw bywyd carbon isel.
Nid yw’n ymwneud â thechnoleg yn unig, mae’n ymwneud â deall y darlun mawr. Er enghraifft, gall grantiau fel ECO4 yng Nghymru fod o gymorth, ond dim ond os yw’r eiddo yn addas ar gyfer y dechnoleg. Efallai bod pwmp gwres yn swnio’n wych, ond os nad yw ffabrig yr adeilad yn iawn, gallech wynebu biliau uwch a pherfformiad gwael. Mae ein cyrsiau yn helpu pobl i weld y system gyfan: inswleiddio, y galw am ynni, cynhyrchu, a storio.
Rydym hefyd yn trafod dewisiadau y tu hwnt i berchentyaeth. Gall prosiectau ynni cymunedol, buddsoddiadau ar y cyd mewn ffermydd solar neu gwmnïau ynni gwynt cydweithredol, fod yr un mor drawiadol. Hyd yn oes os ydych chi’n rhentu, gallwch gyfrannu at ynni adnewyddadwy o hyd, a chael budd ariannol.

Pam Dysgu yn CyDA?
Mae CyDA yn lle unigryw i ddysgu. Ni fyddwch yn eistedd mewn ystafell ddosbarth yn gwrando ar ddamcaniaethau yn unig, byddwch yn cerdded o gwmpas y safle ac yn gweld systemau ar waith. PV solar, thermol solar, tyrbinau gwynt, hydro, batris, mae pob un ohonynt yma. Gallwch fynd o ddysgu am yr egwyddorion i sefyll wrth ymyl system go iawn mewn munudau.
Mae’r profiad ymarferol hwnnw yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae’n un peth gweld diagram o aráe paneli solar, ond mae’n rhywbeth arall sefyll o flaen un, deall sut y caiff ei wifro, a gweld y data y mae’n ei gynhyrchu.
Yna mae’r bobl. Yn CyDA, bydd ymarferwyr yn eich addysgu. Nid academydd yn unig ydw i – rydw i wedi creu systemau, gwneud gwaith ôl-osod mewn cartrefi, ac wedi gweithio yn rhyngwladol ar brosiectau adnewyddadwy. Mae gan y rhan fwyaf ohonom yma straeon tebyg. Rydym wedi dysgu yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio, ac rydym yn rhannu hynny mewn ffordd onest.
Cyfres a Gynlluniwyd ar gyfer Cartrefi Go Iawn
Cynlluniwyd ein cyfres Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Aelwydydd i fod yn hyblyg. Gallwch ddilyn un cwrs neu’r gyfres gyfan. Rydym wedi cwblhau rhan o’r gyfres hon, sydd fel arfer yn cychwyn gyda chyflwyniad i ynni adnewyddadwy, cyn symud ymlaen i inswleiddio ac atal drafftiau. O’r fan honno, byddwn yn ystyried PV solar, ynni gwynt, pympiau gwres, a mwy.
Mae pob cwrs yn meithrin gwybodaeth fel y gallwch wneud penderfyniadau yn hyderus. Efallai y byddwch yn cyrraedd yma gan feddwl eich bod yn dymuno manteisio ar ynni gwynt, ond byddwch yn darganfod bod ynni solar yn well. Neu efallai y byddwch yn sylweddoli bod angen i chi wella inswleiddio cyn ychwanegu technoleg. Dyma’r union reswm pam bod y cyrsiau hyn yn bodoli.
Mae pobl yn teithio o bob cwr o’r DU i’w mynychu. Pam? Oherwydd eu bod yn dymuno gwneud y peth iawn. A dyna y byddwn yn eu helpu i’w wneud.

A ydych chi’n barod i ddysgu mwy?
Ymunwch â ni yn CyDA i gymryd y cam nesaf tuag at ddyfodol carbon isel.
Gweler ein hamrediad llawn o gyrsiau byr
Am yr awdur
Mae Alan yn Uwch Ddarlithydd yn CyDA, ac mae’n addysgu systemau ynni adnewyddadwy ar nifer o’n graddau meistr a’n cyrsiau byr. Mae’n Beiriannydd Ynni Siartredig, gyda 30 mlynedd o brofiad mewn ynni adnewyddadwy ac mae wedi addysgu mewn nifer o brifysgolion, gan gynnwys Heriot Watt a Robert Gordon.

