Pensaernïaeth Fyw

Bydd Arweinydd y Rhaglen, Dr Carl Meddings, yn rhannu detholiad o brosiectau dylunio terfynol ein myfyrwyr M.Arch Pensaernïaeth Gynaliadwy, gan arddangos dylunio atgynhyrchiol mewn byd sy’n newid.  Mae pensaernïaeth yn bwysig.

Mae’r ffyrdd yr ydym yn dylunio, yn adeiladu ac yn addasu ein cartrefi, ein mannau cyhoeddus a’n seilwaith yn cael effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol dwfn.  Maent yn siapio bywydau, ecoleg, tirluniau a’r dyfodol

Mwy na chymhwyster

Mae’r cwrs M.Arch Pensaernïaeth Gynaliadwy yn CyDA yn her i’r model arfer pensaernïol busnes-fel-arfer.  Fel rhaglen Rhan 2 wedi’i hachredu gan ARB, mae’n gam allweddol tuag at fod yn bensaer cofrestredig yn y DU.  Ond yn wahanol i gyrsiau confensiynol, mae’r argyfwng hinsawdd, colli bioamrywiaeth a dyfodol atgynhyrchiol wrth ei wraidd.  Mae ein myfyrwyr yn dysgu sut i adeiladu a hefyd, sut i ofalu, cwestiynu ac arwain.

Nid diben adeiladu mewn ffordd gynaliadwy yw lleihau niwed yn unig, ond hefyd, gwneud daioni;  trwsio, adfer ac adfywio.  Mae myfyrwyr yn cyrraedd gyda chwestiynau anodd, a radical yn aml, ac maent yn gadael gyda chynigion sy’n gwthio’r terfynau.  Ni cheir ‘eco-olchi’ symbolaidd yma;  mae pob prosiect yn archwilio mewn ffordd feirniadol sut y gall pobl (a mwy na phobl) gyd-fodoli mewn ffyrdd cynhwysol a thrawsnewidiol.

Rydym yn holi:

  • Beth mae dylunio ar gyfer dyfodol ansicr yn ei olygu?
  • Sut allwn ôl-osod meddylfryd, yn ogystal ag adeiladau?
  • Sut all pensaernïaeth gynorthwyo cymuned, cydnerthedd, bioamrywiaeth a harddwch?
  • Ar gyfer pwy yr ydym yn dylunio?

Mae’r ymatebion yn uchelgeisiol:  o waith ôl-osod cymunedol a bach ei effaith i weledigaethau mentrus o bensaernïaeth fel catalydd ar gyfer cydnerthedd.  Mae myfyrwyr yn gweithio gyda deunyddiau naturiol, economïau cylchol, crefftau lleol a meddylfryd systemau byd-eang.  Caiff dyluniadau eu gwreiddio mewn lle, diwylliant a hinsawdd, ond er hyn, maent yn siarad â byd y mae angen ei drwsio.

Archwilio sut y mae’n rhaid i ni fyw, adeiladu a ffynnu

Bob mis, byddwn yn ymgynnull yn ein cartref ysbrydol yn y bryniau uwchben Machynlleth i dreulio wythnos ymdrochol yn astudio ar y cyd. Bydd myfyrwyr, staff a thiwtoriaid sy’n ymweld yn rhannu rhythm o ymholi, trafod, creadigrwydd a darparu cymorth i’w gilydd. Byddwn yn bwyta, yn adeiladu ac yn dysgu gyda’n gilydd; gan ein gilydd a chan y lle. Am yr wythnos honno, mae CyDA yn datblygu i fod yn ficrocosm o’r mathau o gymunedau yr ydym yn gobeithio eu hysbrydoli. Mae’r lleoliad yn encilfa ac yn faes profi.

Mae’r tirlun dramatig a’r tywydd sy’n newid yn creu cefndir ar gyfer archwilio a diben a rennir. Mewn byd sy’n llawn o’r elfen ddigidol a dysgu gwasgaredig, mae ein cyfnod gyda’n gilydd yn hanfodol, gan gynnig gwead i syniadau a dynoliaeth i brosiectau.

Mae carfan eleni wedi dangos angerdd, deallusrwydd a haelioni. Mae eu gwaith yn drylwyr, yn llawn dychymyg ac yn obeithiol, ac wedi’i wreiddio mewn gwaith ymchwil ac yn cael ei gynnal gan undod. Mae pensaernïaeth yn rhywbeth cydweithredol yn ôl ei hanfod, ac mae’r myfyrwyr wedi dangos bod cymuned a gofal yn offerynnau hanfodol i’r proffesiwn.

Yn y prosiectau hyn, byddwch yn gweld medr technegol, arloesedd a myfyrio beirniadol, ond hefyd, ethig gofal, ymgais i sicrhau cyfiawnder, a gweledigaeth am ffordd o fyw sy’n fwy cytbwys. Nid diwedd yw hwn, ond dechrau, ac mae’n gyfraniad at y sgwrs ar fyrder am y ffordd y mae’n rhaid i ni fyw, adeiladu a ffynnu mewn cyfnod o her ecolegol a chymdeithasol ddofn.

Prosiectau myfyrwyr

Amelia Maddox – Desg Gwymon Glannau’r Gorllewin, Llandudno, DU

Mae Desg Gwymon Glannau’r Gorllewin yn brosiect adfywio arfordirol yn Llandudno, Gogledd Cymru, sy’n cyfuno gweithgarwch tyfu gwymon gydag addysg ar gyfer y cyhoedd a stiwardiaeth amgylcheddol.  Gan gwmpasu dau safle ar hyd promenâd Glannau’r Gorllewin, mae’r cynllun yn eu cysylltu trwy gyfrwng ymyriadau tirlun sy’n sensitif ar lefel ecolegol.

Mae tyfu gwymon a morwellt, rhywogaethau sy’n hanfodol ar gyfer bioamrywiaeth, dal carbon a chydnerthedd arfordirol, yn rhan ganolog o’r prosiect, a chânt eu gwneud yn weladwy ac yn hygyrch fel offerynnau ar gyfer addysg yr hinsawdd.  Ar lefel bensaernïol, mae’n cyfuno ailddefnyddio addasol gyda strwythurau newydd.  Mae Desg Gwymon Glannau’r Gorllewin yn lasbrint ar gyfer datblygiad arfordirol cynaliadwy.

Hannah Maxey – Desg Gwymon Glannau’r Gorllewin, Llandudno, Leeds, DU

Mae Llyfrgell Gwasg Fechan Holbeck yn brosiect cymunedol a leolir rhwng Holbeck a Phentref Trefol Holbeck, i’r de o ganol dinas Leeds.  Mae’r prosiect yn ymateb i’r tlodi yn yr ardal, yr amodau byw gwael a’r datgysylltiad wrth ganol y ddinas sy’n fwy cefnog, trwy drawsnewid hen lyfrgell yn ganolfan ddiwylliannol ar lawr gwlad. 

Yn hytrach nag adlewyrchu’r ffordd y mae’r Lyfrgell Brydeinig gerllaw yn ehangu, sy’n canolbwyntio ar ymchwil a busnes, mae’r Lyfrgell Gwasg Fechan yn cynnig lle sy’n canolbwyntio ar hunan-gyhoeddi, creadigrwydd a chyfranogiad cymunedol.  Trwy gwestiynu pwy y mae adfywio yn eu gwasanaethu mewn gwirionedd, mae Llyfrgell Gwasg Fechan Holbeck yn cyflwyno ei hun fel safle o wrthsafiad, dychymyg a gobaith yn wyneb allgáu, anghydraddoldeb ac argyfwng amgylcheddol.

Callum Lawlor – Acle Bridge Visitor Centre, Norfolk, DU

Lleolir y prosiect hwn ym Mharc Cenedlaethol Llynnoedd Norffolc, ac mae’n cynnig canolfan ymwelwyr ac ymchwil sy’n ymateb mewn ffordd uniongyrchol i heriau ecolegol dybryd yr ardal, sy’n cynnwys llygredd maethynnau, dirywiad mawndir a cholli bioamrywiaeth.

Mae’r ganolfan yn cynorthwyo gweithgarwch adfer cynefin, niwtraliaeth maethynnau ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o werth diwylliannol ac ecolegol unigryw y Llynnoedd.  Caiff yr adeilad ei integreiddio mewn ffordd sensitif i’r tirlun a chaiff nodweddion ecolegol eu plethu i’r bensaernïaeth, gan annog bywyd gwyllt trwy gynefinoedd nythu a chynlluniau plannu bioamrywiol.

Ar lefel weithredol, mae’r ganolfan yn cyfuno addysg ar gyfer y cyhoedd gydag ymchwil wyddonol, gan weithredu fel canolfan ar gyfer dysgu, cydweithredu a gofal ecolegol hirdymor wedi’i ymwreiddio mewn gwybodaeth leol a meddwl ar ffurf systemau holistig.

Millie Bush – Dowr Kernow, Water, Wellness and Knowledge, Cernyw, DU

Mae Dowr Kernow (sy’n golygu ‘Dŵr Cernyw’) yn brosiect sy’n ail-ddychmygu ein perthynas gyda dŵr mewn byd sydd wedi’i ddatgysylltu yn gynyddol wrth rythmau naturiol.  Mae’n herio naratif llygredd, niwed diwydiannol ac esgeulustod ecolegol, gan gynnig stori o adnewyddu, gofal ac ailgysylltu yn lle hynny.

Mae Dowr Kernow yn creu mannau lle y gall pobl ryngweithio mewn ffordd ystyrlon gyda dŵr:  mannau nofio gwyllt glân;  mannau gorffwyso ac adfer;  ac amgylcheddau dysgu sy’n canolbwyntio ar ymwybyddiaeth ecolegol, diogelwch dŵr a hunan-ofal.  Mae’r prosiect yn argymell dyfodol lle y caiff dŵr ei drin â pharch, lle y caiff ei ddiogelu, ei rannu a’i ddathlu.

Thea Brooman – The Centre for Environment and Humanity, Kodaikanal, India

Lleolir y prosiect hwn yn nhref Kodaikanal yn Ne India, tref sydd yn uchel yn y mynyddoedd, ac mae’n gatalydd ar gyfer datblygu cynaliadwy i’r dref, ei chymuned leol a’r tirlun o amgylch.

Y nod yw ailgysylltu pobl gyda’u hamgylchedd lleol a hyrwyddo stiwardiaeth bioamrywiaeth.  Datblygwyd y cynnig ar safle sy’n eiddo i ysgol ryngwladol leol, ac mae’n rhan o fenter ehangach i drawsnewid campws presennol yn ganolfan addysg ecolegol, cadwraeth ac ymgysylltu cymunedol.  Mae adfer ecosystem frodorol Shola yn rhan ganolog o’r weledigaeth, sef coedwig fynyddig unigryw ac sydd mewn perygl, a arferai ffynnu yn y rhanbarth.

Darganfod mwy am ein M.Arch mewn pensaernïaeth

Gall weld mwy o brosiectau ein myfyrwyr drwy bori drwy Flwyddlyfr 2025 ein Myfyrwyr M.Arch.

Darganfyddwch mwy am ein M.Arch mewn Pensaernïaeth Gynaliadwy drwy edrych ar ddisgrifiad y rhaglen neu drwy ymuno diwrnod agored sydd ar ddod.