Ben Summers – Cadeirydd

Ben Summers – Cadeirydd

Mae Ben yn cyfuno cefndir ym maes technoleg ac arloesi gyda diddordeb brwd mewn cynaliadwyedd amgylcheddol.

Fel datblygwr meddalwedd ac entrepreneur, sefydlodd Ben gwmni i greu meddalwedd gweinyddu ymchwil prifysgol i academyddion ac ysgolion graddedig.

Ers y cam o gaffael y cwmni, mae bellach yn gweithio gyda sefydliadau sydd â diben amgylcheddol a chymdeithasol.  Mae’n aelod o fwrdd Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Llywodraeth Cymru.

Ymwelodd â CyDA am y tro cyntaf i fynychu cwrs byr wrth iddo gyflawni prosiect eco-adnewyddu, ac roedd y datrysiadau ymarferol a gynigir gan CyDA er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd wedi gwneud cryn argraff arno.

Mae Ben yn byw yng Nghymru gyda’i wraig a’i ferch, ger arfordir Sir Benfro.