Claire Quartermaine – Ymddiriedolwr

Claire Quartermaine – Ymddiriedolwr

Mae Claire yn arweinydd masnachol gyda dros 20 mlynedd o brofiad ar draws yr economi ymwelwyr, digwyddiadau byw, elusennau, a’r sectorau corfforaethol ac eiddo.

Yn fwyaf diweddar, roedd hi’n Bennaeth Masnachol ar gyfer yr ‘Eden Sessions’, cyfres o gyngherddau awyr agored uchel ei proffil wnaeth gynnwys rhai o’r enwau mwyaf ym myd cerddoriaeth. Cyn hynny, roedd ganddi uwch-rolau masnachol o fewn yr Eden Project.

Mae ei chyrfa wedi canolbwyntio ar strategaeth fasnachol, gyrru twf refeniw a datblygu a rheoli partneriaethau cryf.

Mae Claire wedi’i hatynnu’n benodol i sut mae CyDA yn mynd i’r afael â chynaliadwyedd mewn modd ymarferol a’i ffocws ar arddangos datrysiadau i’r heriau amgylcheddol rydym yn ei wynebu.

Mae hi wrth ei bodd i ymuno a CyDA fel ymddiriedolwr ac yn edrych ymlaen at gyfrannu ei phrofiad masnachol i waith CyDA.