Clara Humphries – Yn Raddedig o CyDA

Clara Humphries – Yn Raddedig o CyDA

Mae Clara Humphries yn Rheolwr Prosiectau Ôl-osod yn Retrofit West, cwmni buddiant cymunedol a grëwyd gan y Centre for Sustainable Energy (CSE) ym Mryste, mudiad a sefydlwyd yn wreiddiol gan aelodau o dîm CyDA fel chwaer-sefydliad trefol.

Mae ei gwaith yn cefnogi perchnogion tai i drawsnewid eu cartrefi tuag at garbon sero net, tra hefyd yn helpu uwchsgilio masnachwyr lleol.

“Rwy’n credu bod ôl-osod cartrefi yn agwedd hanfodol o fynd i’r afael â newid hinsawdd o fewn yr amgylchedd adeiledig,” eglura Clara. “Mae’n werth chweil cymhwyso gwybodaeth dechnegol i gefnogi cymunedau a helpu datgyfrinio y broses ôl-osod.”

Gyda chefndir mewn Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu a phrofiad ymarferol mewn technegau adeiladu traddodiadol ac ymgynghori yng nghylch cynaliadwyedd, daeth Clara i astudio yn CyDA i ddyfnhau ei hystyriaeth feirniadol ac integreiddio egwyddorion adeiladu gwyrdd i brosiectau byd go iawn.

Dyma CyDA yn rhoi’r gobaith ac ysgogiad i fynd i’r afael a heriau hinsoddol cymhleth” medd Clara. “Treuliais rai o fy nyddiau mwyaf cofiadwy yn rhannu syniadau mewn lleoliad hardd ac ysbrydoledig.”

Heddiw, mae Clara yn defnyddio ei gwybodaeth o CyDA bob dydd, o adroddiadau ar effeithlonrwydd ynni i waith cydweithredol gyda Mission Net Zero Bryste. Mae hi hefyd yn adeiladu stiwdio o goncrit-cywarch ac yn cynllunio gweithdy plastro clai gydag aelod arall o rwydwaith graddedig CyDA er mwyn trosglwyddo’r sgiliau a enillon nhw ymlaen.

Dyma ei hymchwil yn ystod ei hastudiaeth ôl-raddedig yn CyDA yn archwilio
cydweddoldeb morter calch gydag adeiladau carreg Cernyw, gan adlewyrchu ei hymrwymiad i ddatrysiadau ymarferol sy’n seiliedig ar leoliad.

Mae stori Clara yn dangos effaith ehangach CyDA, nid yn unig trwy ei raddedigion ond hefyd trwy’r effaith y caiff y sefydliadau y mae wedi helpu i’w hysbrydoli, fel CSE. Gyda’n gilydd, rydym yn llunio amgylchedd adeiledig mwy cynaliadwy o’r gwaelod i fyny.