Damien Short – Ymddiriedolwr

Damien Short – Ymddiriedolwr

Mae Damien yn Athro Hawliau Dynol a Chyfiawnder Amgylcheddol, mae wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o gyrff anllywodraethol a sefydliadau eraill, ac mae wedi gwneud ymrwymiad cadarn i gynaliadwyedd amgylcheddol.

Mae Damien Short (Ymddiriedolwr) yn Athro Hawliau Dynol a Chyfiawnder Amgylcheddol ac mae’n Gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil y Dyniaethau Amgylcheddol yn yr Ysgol Astudio Uwch, Prifysgol Llundain.  Mae wedi treulio ei holl yrfa broffesiynol yn gweithio ym maes hawliau dynol a chyfiawnder amgylcheddol, fel ysgolor ac eiriolwr. 

Mae Damien wedi gweithio gydag amrywiaeth o gyrff anllywodraethol gan gynnwys Amnest Rhyngwladol, Survival International, Cyfeillion y Ddaear a Greenpeace.  Mae’n ymgynghori ar gyfer llywodraethau lleol a chenedlaethol, a sefydliadau rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig yn rheolaidd ynghylch niwed cymdeithasol ac amgylcheddol prosesau echdynnu ynni anghynaliadwy. 

Mae wedi gwneud ymrwymiad cadarn i gynaliadwyedd amgylcheddol a phwysigrwydd addysg wrth ganlyn y nod honno.  Felly, mae wrth ei fodd i fod yn un o Ymddiriedolwyr CyDA!

Am ragor o wybodaeth am Damien, gweler damienshort.org