Dr Rhiannon Turner – Is-Gadeirydd 

Dr Rhiannon Turner – Is-Gadeirydd 

Y tro cyntaf yr ymwelodd Rhiannon â CyDA oedd pan oedd yn blentyn ifanc yn y 1980au.  Arhosodd yr atgofion o’r gweithgareddau a’r lleoliad anarferol hwn gyda hi, ac roedd wrth ei bodd i gael y cyfle i ymuno â’r Bwrdd.  Mae Rhiannon yn gweithio fel Rheolwr Uwch yn yr Ymddiriedolaeth Carbon, ar ôl treulio 20 mlynedd yn gweithio fel twrnai patentau yn flaenorol.

Mae gan Rhiannon gefndir gwyddonol, ar ôl astudio Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Caergrawnt a sicrhau gradd PhD yno hefyd.  Treuliodd 20 mlynedd yn gweithio fel twrnai patentau, yn arbenigo mewn gwyddorau bywyd a dyfeisiau biodechnoleg, gan gynnwys 11 mlynedd fel partner mewn cwmni BBaCh yng Ngwlad yr Haf.

Yn 2021, penderfynodd adael maes Eiddo Deallusol, gan ei bod yn dymuno defnyddio ail hanner ei gyrfa i ganolbwyntio ei hymdrechion ar oresgyn newid hinsawdd.  Yn 2022, dechreuodd weithio fel Rheolwr Arloesi yn yr Ymddiriedolaeth Carbon, ac er 2024, mae wedi bod yn Rheolwr Rhaglen ar gyfer rhaglen Grymuso Cyfleoedd Ynni Adnewyddadwy (PREO).  Rhaglen defnydd cynhyrchiol o ynni adnewyddadwy yw hon, a arweinir gan y galw, sy’n darparu grantiau catalytig a chymorth technegol i entrepreneuriaid yn Affrica Is-Sahara a Gwledydd Ynysoedd y Môr Tawel.  Mae’r rhaglen yn galluogi busnesau i fanteisio ar ynni adnewyddadwy er mwyn gwella incymau, datblygu cydnerthedd hinsawdd a lleihau’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil.

Fel un o Ymddiriedolwyr CyDA, mae Rhiannon yn teimlo’n gyffrous i fod yn cynorthwyo’r sefydliad gyda’i waith yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn cyn 2030.  Yn ogystal â’r prif Fwrdd, mae Rhiannon yn eistedd ar y Pwyllgor Cyllid ac mae’n cadeirio Grŵp Llywio Cynefin hefyd. Mae Rhiannon yn mwynhau treulio cymaint o amser ag y gall yn yr awyr agored, yn enwedig yn y coedwigoedd.

Mae gan Rhiannon gefndir gwyddonol ar ôl astudio y Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Caergrawnt, a sicrhau gradd PhD yno hefyd. Treuliodd 20 mlynedd fel atwrnai patentau yn arbenigo mewn gwyddorau bywyd a dyfeisiau biodechnoleg, gan gynnwys 11 mlynedd fel partner mewn cwmni bach yng Ngwlad yr Haf.

Yn 2021, penderfynodd adael y byd Eiddo Deallusol, ac roedd yn dymuno defnyddio ail hanner ei gyrfa i ganolbwyntio ar ymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Yn 2022, dechreuodd weithio fel Rheolwr Arloesi yn yr Ymddiriedolaeth Carbon, gan weithio gyda chwmnïau sydd â thechnoleg arloesol er mwyn cynorthwyo’r newid i Sero Net, gyda’r nod o sicrhau bod eu technoleg yn cyrraedd y farchnad yn gyflymach.

Fel un o Ymddiriedolwr CyDA, mae Rhiannon yn teimlo’n gyffrous i fod yn cefnogi’r sefydliad gyda’i waith yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn sy’n arwain at 2030. Yn ogystal â bod ar y prif Fwrdd, mae Rhiannon yn eistedd ar y Pwyllgor Cyllid. Mae Rhiannon yn mwynhau treulio cymaint o amser ag y gall yn yr awyr agored, yn enwedig yn y goedwig.