Elizabeth Adams – Ymddiridolwr

Elizabeth Adams – Ymddiridolwr

Mae Elizabeth Adams wedi gweithio ym meysydd ynni a seilwaith ers dros ugain mlynedd ac mae hi’n gefnogwr hirdymor o CyDA.

Mae Elizabeth Adams yn Bartner yn FTI Consulting, yn arwain ei hymgynghoriaeth ar drawsnewid ynni byd-eang ym maes cyfathrebu strategol. Mae bod yn ddaearyddwr o ran cefndir wedi llunio ei hawydd i gysylltu pobl a gwybodaeth yn well ar draws disgyblaethau eang a lleihau meddwl mewn seilos. Mae gan Elizabeth hefyd radd Meistr mewn Cyfraith Economaidd Ryngwladol gyda ffocws ar raglenni addysg fyd-eang.

Mae hi wedi gweithio ym meysydd cyfathrebu ynni a seilwaith ers dros ugain mlynedd – fel newyddiadurwr ynni ac economeg ac fel arweinydd a chynghorydd materion corfforaethol.

Mae ei chleientiaid yn cynnwys datblygwyr ynni glân rhyngwladol adnabyddus a chwmnïau diwydiannol a defnydd uchel o ynni, yn ogystal â buddsoddwyr sefydliadol a buddsoddwyr a gefnogir gan y wladwriaeth y mae hi’n eu cefnogi wrth iddynt lywio cymhlethdod marchnadoedd a rheoleiddio ynni rhyngwladol. Mae meysydd ffocws yn cynnwys digarboneiddio, trydaneiddio, cysylltiadau grid, dylunio marchnadoedd, y cadwyn gyflenwi ac ymgysylltu cymunedol. Mae Elizabeth yn rhoi cyngor ar strategaeth, codi cyfalaf, rheoli materion, adrodd straeon ac arweinyddiaeth feddwl.

Mae hi’n credu mewn dulliau pragmatig o ymdrin â heriau mwyaf cymhleth cymdeithas, yn enwedig i gyflymu newid. Yn ganolog i hynny efallai yw’r angen i dderbyn cyfaddawdau er mwyn symud ymlaen, yn hytrach na cheisio sicrhau consensws ynghylch canlyniadau ‘delfrydol’ sydd yn aml yn begynol. Mae cyfathrebu effeithiol yn galluogi symudiad trwy rannu ffeithiau a chwalu ffuglen, pontio safbwyntiau ar werth sy’n amrywio, a dod â phobl ar deithiau gyda’i gilydd.

Mae Elizabeth wedi bod yn gefnogwr hirdymor o CyDA ac o’r diwedd, cafodd y cyfle i ymweld â’r ganolfan yn 2022 pan ddaeth â’i thîm am ddau ddiwrnod o weithdai ble profodd teimladau o chwilfrydedd ac ysbrydoliaeth, rhywbeth y mae’n gobeithio defnyddio fel Ymddiriedolwr.