Julia Chesney-Roberts – Ymddiridolwr

Julia Chesney-Roberts – Ymddiridolwr

Mae Julia yn arbenigwr ym maes cynaliadwyedd a llywodraethu yng Nghanolbarth Cymru, gan weithio i gynorthwyo sefydliadau i ehangu mewn ffordd gyfrifol a phwrpasol trwy gyfrwng ei chwmni ymgynghorol, Optiroute. Mae gan Julia radd yn y gyfraith ac MBA, gan arbenigo mewn cynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol, gan Ysgol Busnes Warwick.

Ar ôl gweithio ym maes ynni glân yng Nghanolbarth Cymru am sawl blwyddyn, roedd hi wedi bod yn ymwybodol o’r gwaith da a gyflawnir yn CyDA ers amser hir, ond trwy fynychu cwrs byr yn gynnar yn 2026, rhoddwyd y cyfle iddi weld hyn dros ei hun. Roedd hanes, diben a threftadaeth gymunol CyDA wedi gwneud cryn argraff arni, ac o ganlyniad, ymgeisiodd i fod yn ymddiriedolwr ychydig fisoedd yn ddiweddarach.

Cyn sefydlu Optiroute, bu Julia yn gweithio yn Riversimple am wyth mlynedd fel rheolwr masnachol a chyfreithiol mewn cwmni ceir cynaliadwy gyda model busnes cylchol a llywodraethu gyda rhanddeiliaid lluosog. Yma, cynlluniodd ac arweiniodd y Chwyldro Cylchol, canolfan arloesi economi gylchol gyntaf Cymru, rhaglen amlddisgyblaethol a oedd yn werth miliynau ar filiynau o bunnoedd, ac a ariannwyd yn rhannol gan UE gyda chymorth Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerwysg.

Mae Julia wedi gweithio ar draws sawl diwydiant (gweithgynhyrchu, eiddo tirol, gwasanaethau ariannol, ac ati) ac mewn gwahanol wledydd, ond y llinyn aur fu cynorthwyo a gweithredu newid sefydliadol cadarnhaol.

Mae Julia yn gefnogwr brwd yr hyn y mae’n ei alw yn ‘llywodraethu bwriadol’, sef cynllunio a datblygu ar lefel systemau ar draws y tirlun llywodraethu cyfan er mwyn ymwreiddio diben a chynaliadwyedd ystyrlon (yn hytrach na pherfformiadol) yn esgyrn sefydliad. Mae hon yn grefft y mae’n teimlo’n gyffrous am wneud defnydd da ohoni yn CyDA.