Julian Mills – graddedig CyDA

Julian Mills – graddedig CyDA

Mae Julian yn raddedig CyDA a raddiodd yn 2013 gyda Diploma Proffesiynol mewn pensaernïaeth gynaliadwy. Fe ydy cyfarwyddwr ar stiwdio bensaernïol fach â sefydlodd yng Nghernyw sy’n arbenigo mewn pensaernïaeth gynaliadwy o’r enw STUDIO/gather.

Ar ôl astudio pensaernïaeth a mynd i weithio i bractisau mawr pensaernïol cynaliadwy, teimlai Julian fod elfen ar goll o’r ffordd yr oedd yn creu a chyflawni gwaith dylunio. Arweiniodd hyn at sefydlu’r practis pensaernïol ar arfordir Cernyw.

Ar hyn o bryd mae STUDIO/gather yn gwneud tonnau mawr yn y gymuned bensaernïol yn lleol ac yn ehangach ac mae’n dod yn enwog am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Gan weithio ar brosiectau sy’n bodloni’r awydd pensaernïol i greu rhywbeth newydd, maen nhw hefyd yn gweithio’n helaeth yn y sector ôl-osod dwfn sy’n golygu eu bod nhw’n cael trawsdoriad go iawn o brosiectau a chleientiaid.

Mae’r tîm yn STUDIO/gather hefyd yn cynnwys cyn-fyfyrwyr CyDA sydd i gyd wedi dod i weithio i’r practis sydd ag ethos o gyffwrdd â’r ddaear yn ysgafn ac mae’r tîm hefyd yn tyfu i gynnwys mwy o ddylunwyr a thechnegwyr i ganolbwyntio ar egwyddorion pensaernïaeth gynaliadwy ac i ddylunio gyda phwrpas.

“Un o’r darlithoedd cyntaf ar gynaliadwyedd yn fy nhymor cyntaf o’m cwrs Rhan 1 yng Nghaergaint oedd gan ddarlithwr o Canolfan y Dechnoleg Amgen ac roeddwn i’n gwybod o’r eiliad honno ymlaen fod yn rhaid i mi fynd (i CyDA). Mae’r stori hon wedi’i throsglwyddo i nifer fawr o gydweithwyr dros y blynyddoedd gyda llawer hefyd yn astudio neu ymweld a CyDA. Mae CyDA a’r cwrs pensaernïaeth gynaliadwy wedi bod yn sylfaen i bwy rydw i wedi dod yn Bensaer, dylunydd ac yn ôl pob tebyg yn berson. Nid cwrs yn unig yw CyDA, mae’n gymuned ac, dros y 10 mlynedd diwethaf, mae’n dal i fod yn bwynt cyswllt dyddiol i mi.”