Mae Mark yn angerddol am helpu pobl a sefydliadau gyflawni eu potensial.
Gyda bron i ddau ddegawd o brofiad mewn arwain timau codi arian ac ymgysylltu, fe ddaw Mark i CyDA gyda hanes o lwyddiant blaenorol mewn twf strategol, arloesedd, a chydweithredu ar draws sectorau elusennol ac addysgiadol.
Cyn ymuno â CyDA, gweithiodd Mark ym Mhrifysgol Abertawe, lle datblygodd fentrau ymgysylltu gyda chyn-fyfyrwyr,
gan adeiladu ar ei brofiad helaeth o godi arian wrth weithio i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae Mark, ar ei gyffes ei hun yn frwdfrydig dros ddata, wedi cynghori elusennau ar weithredu CRM (Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid) ac wedi ymgynghori ar y defnydd o fewnwelediad i wneud y mwyaf o ymgysylltiadau cefnogwyr a rhoddwyr. Mae hefyd yn siaradwr rheolaidd mewn digwyddiadau cyhoeddus a sector, gan rannu ei arbenigedd mewn arweinyddiaeth, trawsnewidiad digidol, a phrofiadau cefnogwyr.
Mae Mark yn un o ymddiriedolwyr Sefydliad Beicio Cymru ac mae’n hyfforddwr a mentor gweithredol i arweinwyr ar draws sectorau. Y tu allan i’r gwaith, mae’n mwynhau rhedeg, beicio a rygbi (rygbi cyffwrdd y dyddiau hyn), ac mae wedi’i ysbrydoli gan bŵer cymuned i greu newid cadarnhaol a pharhaol.

