Enillodd Sonya radd MSc mewn Ynni Adnewyddadwy yn CyDA yn 2018 ac mae hi bellach yn Bennaeth Ynni ym Mhartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig Stephens Scown ac yn un o ymddiriedolwyr CyDA.
Graddiodd Sonya gydag MSc mewn Ynni Adnewyddadwy o CyDA yn 2018 ac mae bellach yn Bennaeth Ynni ym Mhartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig Stephens Scown. Mae Sonya’n arwain tîm o gyfreithwyr sy’n arbenigo mewn polisi a chyfraith ynni. Mae’n cynghori diwydiant ar ofynion cyfreithiol datblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr, gan gynnwys grid, isadeiledd, polisi, trwyddedu a materion cyflenwi.
Hefyd yn 2018, derbyniodd Sonya MBE am ei gwasanaeth i ynni cymunedol, ynghyd â nifer o wobrau amgylcheddol eraill. Yn 2020 penodwyd Sonya i fwrdd ymddiriedolwyr CyDA. Mae hi hefyd yn eistedd ar fyrddau pum grŵp ynni cymunedol ac mae’n un o sylfaenwyr grŵp arloesol ac uchelgeisiol Wedmore Di-garbon.
“Deuthum i CyDA y tro cyntaf pan oeddwn yn saith oed (yn fuan ar ôl ei sefydlu) ac arhosodd y profiad gyda mi. Ar ôl cwpwl o gyrsiau byr, cofrestrais ar y cwrs MSc a threulio pedair blynedd anhygoel yn dysgu a chael fy herio ar bopeth yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy.
Roedd yr MSc yn CyDA yn un o’r ymdrechion mwyaf heriol a gwerth chweil yr wyf wedi eu cyflawni. Bellach mae dimensiwn newydd i’m gwaith fel cyfreithiwr yn y diwydiant ynni oherwydd yr hyn a ddysgais yn CyDA. Rwyf yn awr yn wirioneddol ddeall technolegau adnewyddadwy a gallaf ddefnyddio’r hyn a ddysgais i wneud fy ngwaith yn llawer mwy gwerthfawr ym mhob ystyr. Diolch i CyDA, rwyf hefyd wedi datblygu fy ngwaith yn helpu i gyflawni prosiectau di-garbon. Graddedigion CyDA yw’r rhai mwyaf llwyddiannus i mi eu cyfarfod yn y byd cynaliadwy/ynni ac rwy’n meddwl mai’r cyfuniad o wybodaeth dechnolegol a hud CyDA sy’n gyfrifol am hynny!
Yn sgil fy mhrofiad fel myfyriwr a gwybodaeth ac ymroddiad llwyr tîm CyDA, rwyf am barhau i fod yn rhan o ddyfodol CyDA.”

