Rydym yn falch o rannu straeon ysbrydoledig aelodau cymuned CyDA sy’n rhoi cynaliadwyedd ar waith. Dyma sut y mae Raddon Stephenson, graddedig CyDA, yn gwneud gwahaniaeth.
Mae Raddon yn gweithio ym maes garddwriaeth drefol ym Mhantri Bwyd a Rhandir Cymunedol Canolfan Caritas Lalley ym Manceinion, sydd wedi’i hymwreiddio’n ddwfn mewn mynd i’r afael â materion cymdeithasol ac amgylcheddol. Yn ei rôl fel Rheolwr y Ddarpariaeth Fwyd a’r Rhandir, mae Raddon yn canolbwyntio ar gau’r ddolen gwastraff bwyd, gan helpu pobl i dyfu eu cynnyrch eu hunain yn y ddinas, a chydnabod y cysylltiad rhwng lles cymdeithasol, ein systemau bwyd a’r amgylchedd naturiol.

Dywedodd Raddon, “Mae cael swydd sy’n fy ngalluogi i dyfu bwyd, gwella iechyd meddwl pobl trwy gyfrwng sesiynau lles garddio, a mynd i’r afael â gwastraff bwyd mewn ffordd uniongyrchol yn rhoi cryn foddhad. Rydw i wastad yn dysgu sut i fod yn dyfwr gwell a’r ffordd fwyaf effeithiol o annog cyfranogiad cymunedol yn eu lle gwyrdd lleol trwy arsylwi’r hyn yr ydym yn ei dyfu a sut y mae pobl yn ymateb i’r safle. Mae hefyd yn wych dysgu gan bobl sydd wedi symud i’r DU o fannau eraill, sydd â gwybodaeth a sgiliau tyfu amrywiol i’w rhannu hefyd.”
Trwy’r gwaith hwn, mae Raddon yn defnyddio’r hyn a ddysgodd yn ystod ei radd Meistr mewn Adnoddau Naturiol a Bwyd Cynaliadwy yn CyDA. Yn ystod ei gyfnod yn astudio yn CyDA, fe’i ysbrydolwyd gan y dysgu ymarferol, megis adnabod planhigion, ond hefyd, gan y sgiliau cysyniadol a feistrolodd, megis dulliau meddwl ar ffurf systemau.
Yn 2022, sefydlodd brosiect compostio gydag ysgol gynradd leol. Ar ôl adnabod nad oedd yr ysgol yn gwahanu gwastraff bwyd, nad oedd y plant yn defnyddio eu rhandir, a bod angen compost ar y darn o dir 1,400m2 yn gyson, aeth Raddon ati i fynd i’r afael â’r diffyg cysylltiad rhwng y tri mater. Trefnodd bod y disgyblion yn compostio eu bwyd dros ben o’u ffreutur, ac yna, eu bod yn tyfu bwyd ar gyfer y gymuned trwy gyfrwng y pantri, gan gau’r bwlch gwastraff bwyd. Llwyddodd y prosiect i sicrhau cyllid ar gyfer system gompostio Ridan. Bellach, mae’n cynhyrchu 9.5 tunnell o gompost di-fawn ar gyfer y rhandir bob blwyddyn!
Cyn dod i CyDA, roedd Raddon yn canlyn gyrfa fel cerddor, ond yn fuan ar ôl iddo gychwyn ar hyn, daeth y pandemig, gan ganslo unrhyw waith ar yr adeg honno. Fodd bynnag, bu’r cyfnod clo yn gyfle iddo gael amser i fyfyrio. Ar ôl gwneud gwaith ar fferm organig, penderfynodd Raddon ganlyn ei ddiddordeb angerddol mewn byd natur, gan ddilyn llwybr academaidd yn CyDA. Roedd wedi adnabod bod yr hyn a dyfwn a sut yr ydym yn ei dyfu yn cael effaith sylweddol ar ein ecosystemau a bod yr angen cyffredinol i fwyta yn gallu cysylltu pobl gyda datrysiadau amgylcheddol mewn ffordd uniongyrchol.

Roedd astudio yn CyDA wedi cynnig y cyfle i Raddon barhau i greu a rhannu ei gerddoriaeth hefyd, gan gynnwys Y Gân Gompost a ysgrifennwyd yn ystod ei draethawd estynedig, ac y mae bellach yn ei chynnwys yn ei waith garddio cymunedol er mwyn ymgysylltu â phlant i leihau a chompostio gwastraff bwyd.
“Mae astudio yn CyDA wedi caniatáu i mi ganolbwyntio ar faes gwaith sydd wir o fudd i les cymdeithasol ac ecolegol y gymuned, ac sy’n cynnig cryn foddhad i mi. Mae’r cwrs ôl-raddedig, y gymuned fyfyrwyr a safle CyDA ei hun wir wedi bod yn ysbrydoledig, gan fy nhywys at swydd lle y gallaf ddefnyddio fy ngwybodaeth a’m sgiliau ym maes tyfu bwyd ac ymgysylltu cymunedol bob dydd.”
A yw CyDA wedi ysbrydoli eich taith cynaliadwyedd chi?
Byddem wrth ein bodd yn clywed sut yr ydych chi’n sicrhau newid. Rhannwch eich stori ar cy.cat.org.uk/am-cyda/straeon-cyda/ er mwyn cael cyfle i fod mewn rhifyn o Clean Slate, ar wefan CyDA neu ar gyfryngau cymdeithasol yn y dyfodol.

