Yn ddiweddar, rhoddodd Sarah Woods ddarlith i’n myfyrwyr ôl-raddedig ac i aelodau’r cyhoedd, lle y bu’n archwilio grym straeon – sut y maent yn cyfrannu at y ffordd yr ydym yn cyfathrebu a hefyd, y ffordd yr ydym yn meddwl yn ein byd sy’n gynyddol gymhleth. Yma, mae hi’n ein gwahodd i ystyried rôl y stori yn ddyfnach yn ein bywydau ni, ac fel offeryn trawsnewidiol ar gyfer cymdeithas.
Mae’r athronydd Ffrengig, Roland Barthes, yn dweud bod naratif ‘yn bresennol bob amser, ym mhob man, ym mhob cymdeithas… ni fu unrhyw le nac unrhyw bobl heb naratif; mae gan bob dosbarth, pob grŵp dynol, eu straeon’.
Rydym yn gwneud synnwyr o’r byd trwy gyfrwng stori. Rydym yn ei ddefnyddio i fodelu a wynebu’r wybodaeth amrywiol ac anghyson sy’n ffurfio ein bywydau. Mae stori yn ein helpu i uniaethu a chysylltu â’r byd a gyda’n gilydd, delio â chymhlethdod, cynnal ein hunaniaeth, ymarfer ffyrdd newydd o fod, rheoli newid, rhoi ein hunain mewn amser, a symud trwyddo. Gall stori fod yn thermomedr, gan gymryd tymheredd diwylliannol amser neu grŵp. Byddwn yn dadlau nad yw stori yn rhywbeth yr ydym yn ei darllen neu’n gwrando arni yn unig, mae’n ffordd o feddwl, yn iaith yr ydym yn rhugl ynddi. Fel unrhyw iaith, nid yw stori yn dda neu’n ddrwg ynddi ei hun – mae hynny yn dibynnu ar y stori unigol a’r sawl sy’n ei hadrodd.
Rydym yn byw mewn oes gymhleth, ac yn wynebu’r hyn a elwir yn ‘broblemau enbyd’ yn aml, fel yr argyfwng hinsawdd a thlodi ac anghydraddoldeb byd-eang, sy’n systemig, sy’n gwrthod datrysiadau llinol ac sy’n gofyn i ni feddwl a gweithredu mewn ffordd wahanol.
Dylai stori fod yn gallu ein helpu i weithio ein ffordd drwyddynt, ond er hyn, mae’n teimlo fel pe bai stori yn offeryn di-awch ar gyfer ymosod ac amddiffyn. Gall sylwi mewn ffordd weithredol ar y straeon yr ydym yn eu hadrodd ac sy’n cael eu hadrodd i ni, ac archwilio ein perthynas gyda nhw, helpu.
Deall straeon
Rydym yn tueddu i feddwl am stori fel rhywbeth unigol, fel rhywbeth yr ydym yn ei gwylio neu’n ei darllen, ond daw stori o nifer fawr o wahanol leoedd yn ein bywydau, felly ar unrhyw adeg, ceir sawl naratif gwahanol yn gweithredu ac yn croestorri ar ein cyfer ni. Fodd bynnag, gan eu bod gymaint yn rhan o ffabrig ein bywydau, rydym yn aml yn llai ymwybodol ohonynt – a’u grym – nag y gallem fod efallai. Gall cael dealltwriaeth well ohonynt ein galluogi i wneud dewisiadau mwy clir, i ddadfachu ein hunain o naratifau cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol a phersonol blaenllaw. Y cam cyntaf y gallwn ei gymryd tuag at hynny yw nodi topograffeg stori ynom ac o’n cwmpas, y credaf bod modd eu rhannu yn bum math o stori (gweler y blwch drosodd).
Fel y dywedodd yr athronydd o’r Alban, Alasdair MacIntyre:
‘Yr unig ffordd y gallaf ateb y cwestiwn “Beth wyf yn mynd i’w wneud?” yw os byddaf yn ateb y cwestiwn “Pa stori neu straeon yr wyf yn rhan ohonynt?”’
Credaf bod cyfres o gwestiynau y tu ôl i’r ail gwestiwn hwn, sy’n gallu ein helpu i sicrhau ateb i’r cyntaf, er mwyn ein dwyn yn ôl i berthynas gyda’r straeon yr ydym yn nofio ynddynt.
- Pwy sy’n adrodd y stori hon?
- Pwy y maent yn dymuno iddynt wrando arni?
- Pam eu bod yn ei hadrodd?
- A yw’r stori hon yn ceisio rhannu neu gysylltu? A beth neu bwy y mae’n dymuno eu rhannu neu eu cysylltu?
- A yw’n dymuno gwneud gelynion neu ffrindiau? Pwy?
- A beth mae’r stori hon yn dymuno i mi ei feddwl neu ei wneud, a pham?
Wrth fynd ar y daith hon gyda stori, rydym yn creu lle a’r posibilrwydd ar gyfer straeon newydd a mathau newydd o stori. Fel y mae David Loy, yr athro a’r awdur o America yn ein hatgoffa: ‘Nid trwy drosesgyn y byd hwn yr ydym yn cael ein trawsnewid, ond trwy ei adrodd fel stori mewn ffordd newydd.’

Topograffeg stori
Straeon yr ydym yn eu hadrodd i’n hunain
Rydym oll yn cario tirlun mewnol o straeon gyda ni, straeon yr ydym yn eu hadrodd i’n hunain i wneud synnwyr o’n bywydau, am bwy ydym ni a beth yw ein profiadau. Caiff yr hyn sy’n bosibl i ni ei siapio gan y stori bywyd yr ydym yn ei chreu ar gyfer ein hunain a’r sgyrsiau yr ydym yn eu cael gyda’n lleisiau mewnol, ond yn aml, nid ydym yn ymwybodol o’r ddau.
Straeon yr ydym yn eu rhannu
Rydym yn rhannu straeon gyda’n ffrindiau, ein teulu a’n cymunedau (os ydynt yn rhai go iawn neu’n rhai ar-lein). O’r bydoedd byrlymol hyn, gall fod yn anodd gweld amrediad y safbwyntiau a’r safleoedd y gallent ein helpu i ddeall cymhellion a phrofiadau eraill yn well, a darganfod ffyrdd allan o begynedd.
Straeon a adroddir i ni
Daw naratifau blaenllaw o bob math o asiantaeth, gan gynnwys corfforaethau a phleidiau gwleidyddol. Maent yn ein hamgylchynu ac fel arfer, cânt eu normaleiddio i’r pwynt lle y byddant yn anweledig, ac yn rhan o ffabrig disgwyliedig ein bywydau.
Straeon yr ydym yn eu gwybod
Rydym oll yn cario straeon gyda ni o’n magwraeth ddiwylliannol: mythau, chwedlau, straeon crefyddol a chwedlau gwerin, fersiynau o hanes ein gwlad a’r byd. Yn aml, mae’r rhain yn tywys ein fframwaith moesol a diwylliannol ac maent yn sylfaenol ar gyfer y straeon y byddwn yn eu hadrodd nesaf.
Straeon i’n tywys
Ar wahanol adegau mewn hanes, rydym wedi adrodd gwahanol straeon am ein dyfodol. Am genhedlaeth, mae ein gweledigaeth am y dyfodol wedi cael ei rheoli gan ddystopiâu a thrychinebau, sy’n gallu ei gwneud yn anos i ni ddychmygu’r byd gwell y mae angen i ni symud ymlaen iddo.

Am yr awdur
Mae Sarah Woods yn awdur ac yn feddylwraig sydd wedi ennill gwobrau. Roedd hi’n rhan o’r Hwb Prydain Di-garbon cynnar yn CyDA ac mae bellach yn ddarlithydd gwadd rheolaidd ar ein modiwl ôl-raddedig Cyfathrebu Newid Cymdeithasol Trawsnewidiol. Mae Sarah yn gydymaith ymchwil yn Stofnun Árna Magnússonar, Sefydliad Árni Magnússon ar gyfer Astudiaethau Gwlad yr Iâ yn Reykjavik.
Ar hyn o bryd, mae hi’n ysgrifennu llyfr a chyfres podlediadau o’r enw The Story Crisis: how story makes and changes the world. Darlledir ei dramodiad o The Origin of Species Charles Darwin, Origin, ar BBC Radio 4 ar 24 Awst.

