Teithiau Rhyngweithiol a Rhannu Gwybodaeth 

Ymwelodd gweithwyr proffesiynol yr amgylchedd adeiledig ac adeiladu â Chanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) ar ddydd Mercher 11 Chwefror 2026 ar gyfer digwyddiad arbennig traws-sector a ddaeth ag aelodau o The Association for Environment Conscious Building, Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru (RSAW), y UK Passivhaus Trust, a Chymdeithas Diogelu Adeiladau Hynafol (SPAB) at ei gilydd.  

Wedi’i gynnal ar safle unigryw CyDA yn Chwarel Llwyngwern, cynigiodd y prynhawn gyfle i’r mynychwyr archwilio adeiladau carbon isel arloesol y  ganolfan, ymchwilio’i threftadaeth a’i thirwedd gyfoethog,a dysgu am ein prosiect ailddatblygu, Cynefin, sy’n llunio dyfodol addysg ac arloesedd cynaliadwyedd yn y ganolfan.

CAT student and built environment professionals in CAT's rammed earth lecture theatre

Teithiau Rhyngweithiol a Rhannu Gwybodaeth

Dechreuodd yr ymweliad gyda theithiau tywys dan arweiniad arbenigwyr CyDA, gan gynnig cipolwg ar archif fyw’r safle o adeiladau carbon isel arloesol a degawdau o arbrofi amgylcheddol.

Yna ymgasglodd y mynychwyr yn Adeilad WISE am luniaeth a rhwydweithio, lle rhannodd penseiri, ymarferwyr cadwraeth, arbenigwyr Passivhaus, a gweithwyr proffesiynol adeiladu cynaliadwy brofiadau a safbwyntiau o bob cwr o’r sector gyda’i gilydd a chyda myfyrwyr ôl-raddedig CyDA sy’n astudio ar ein MSc mewn Adeiladu Gwyrdd a’n rhaglen Pensaernïaeth Gynaliadwy Rhan 2.

Sgyrsiau ar Ddyfodol CyDA

Un o uchafbwyntiau’r digwyddiad oedd sgwrs gan gyfarwyddwr y prosiect ailddatblygu John Challen, a gyflwynodd y diweddaraf ar brosiect Cynefin, menter i ehangu cyfleusterau CyDA a chryfhau ei rôl wrth hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr amgylcheddol.

“Mae’n ysbrydoledig croesawu cymaint o ymarferwyr angerddol o’r sector amgylchedd adeiledig i CyDA ac i rannu’r weledigaeth y tu ôl i’n prosiect ailddatblygu Cynefin. Mae cydweithio ar draws pensaernïaeth, cadwraeth, dylunio ynni isel ac adeiladu cynaliadwy yn hanfodol os ydym am wynebu’r heriau hinsoddol sydd o’n blaenau, ac mae digwyddiadau fel heddiw yn dyfnhau’r cysylltiadau a dysgu ar y cyd sy’n sbarduno cynnydd.” meddai John Challen, Cyfarwyddwr Prosiect Cynefin, cynlluniau ailddatblygu CyDA.

Tour of the CAT site

I’r rhai oedd yn dymuno ymestyn eu diwrnod, daeth pryd nos opsiynol ag ymwelwyr ynghyd a myfyrwyr o Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd CyDA cyn darlith wadd gan Kate Davies ar y strwythurau pren arbrofol ym Mharc Hooke a daeth â’r digwyddiad i ben gyda thrafodaeth flaengar ar adeiladu cynaliadwy uwch.

Cryfhau Rhwydweithiau

Dywedodd Tabitha Binding, o Ymddiriedolaeth Passivhaus, a fynychodd y digwyddiad “Roedd yn bleser mawr mynychu digwyddiad heddiw, wedi’i osod yn erbyn lleoliad hanesyddol cyfoethog adeiladau cynaliadwy a safle chwarel CyDA. Roeddwn i wrth fy modd â’r cyfle i rwydweithio â chynifer o weithwyr proffesiynol o’r sector amgylchedd adeiledig yng Nghanolbarth Cymru ac roedd yn ysbrydoledig cwrdd â siarad â mynychwyr eraill ochr yn ochr â myfyrwyr egnïol, chwilfrydig a brwdfrydig CyDA.”

Llwyddodd y digwyddiad i feithrin cydweithrediad rhwng sefydliadau, gan yrru dylunio ynni isel, cadwraeth a phensaernïaeth gynaliadwy ledled Cymru. Gyda mwy nag 20 o fynychwyr yn cymryd rhan, dangosodd yr ymweliad yr awydd parhaus am ddysgu ar y cyd ac ymgysylltu traws-ddisgyblaethol wrth lunio amgylchedd adeiledig carbon isel.