Tyfu gwerth pren cartref

Er mwyn rhoi sylw i’r angen dybryd am ddyfodol carbon niwtral ac sy’n atgynhyrchiol yn economaidd, mae gwir angen ailystyried y ffordd yr ydym yn rheoli systemau coetir ac yn gwerthfawrogi pren.  Mae Jemma Ho, un o raddedigion CyDA, yn archwilio camau cynhwysol, holistig ac atgynhyrchiol er mwyn cynnal a datblygu’r defnydd o bren cartref. 

Jemma Ho
Jemma Ho

Amcangyfrifir mai 3.25 miliwn hectar yw maint ardal y coetiroedd yn y DU – 13% o gyfanswm y tir.  Mae Forest Research yn nodi bod 19% o hwn yn yr Alban, 15% yng Nghymru, 10% yn Lloegr a 9% yng Ngogledd Iwerddon.

Yng Nghymru, mae dwy rhan o dair o’r coetiroedd ar dir sydd mewn perchnogaeth breifat, a dim ond un rhan o dair ohono sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd, trwy Lywodraeth Cymru, ac sy’n cael ei reoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru.  Mae hyn yn golygu bod cyfran fawr o goetiroedd Cymru mewn perygl o gael eu rheoli mewn ffordd dameidiog o ran cadwraeth bywyd gwyllt, arwyddocâd bioamrywiaeth a lliniaru clefydau a rhywogaethau goresgynnol.  O ganlyniad i’r sefyllfa dameidiog hon a diffyg diwydrwydd dyladwy ar draws y diwydiant adeiladu, mae cynnal cyflenwad diogel o bren cartref ar gyfer adeiladu mewn perygl.  Heddiw, mae’r DU yn mewnforio 80% o’i phren ar gyfer y diwydiant adeiladu, sy’n golygu mai’r DU yw ail fewnforiwr net mwyaf yn y byd o ran pren.

Ymchwilio i goetiroedd

I ddarganfod sut y mae’r gadwyn gyflenwi pren yn gweithio, teithiais o gwmpas planhigfeydd, coetiroedd a melinau llifio.  Astudiais waith coed strwythurol yn y Ganolfan Technoleg Pren Uwch.  A chofrestrais ar gwrs byr 12 wythnos mewn Technoleg Pren a Dylunio Peirianyddol ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn yr amgylchedd adeiledig yn y Sefydliad Model Newydd ar gyfer Technoleg a Pheirianneg (NMITE) yn Swydd Henffordd.

Trwy gynnal cyfweliadau gyda ‘gweithwyr daear’ profiadol, gweithio gyda choed o’u had, i’w plannu, a’r holl ffordd i dorri’r goeden a’i graddio ar gyfer pren, darganfûm na chaiff miliynau o eginblanhigion a dyfir yn y DU eu plannu oherwydd nad oes gweithlu digon mawr i’w plannu yn ystod y tymor tywydd priodol.  Dywedodd un gweithiwr mewn planhigfa bod diffyg buddsoddiad neu gymorthdaliadau gan y llywodraeth mewn offer coedwigaeth arloesol er mwyn plannu, cynnal a thyfu coed i’r hyn a ystyrir yn gyflwr aeddfed. 

Yn ogystal, cyfwelais sawl melinydd ar draws melinau llifio yng Nghymru, gan amrywio o weithrediadau masnachol prif ffrwd i gwmnïau cydweithredol bychain, gan ddarganfod, er y caiff rhywogaethau coed amrywiol eu mesur a’u graddio yn ôl eu priodolrwydd ar gyfer adeiladu, bod tunelli o deneuon coed yn cael eu rhoi ar “bentwr gwastraff” neu’n cael eu gwerthu fel coed tân.

Ni all y DU fforddio parhau i daflu’r adnoddau naturiol a gwerthfawr hyn i ffwrdd.  Mae angen ailystyried systemau coetir, perchnogaeth tir, hyfforddiant sgiliau ac arloesedd ym maes datblygu pren a’i holl ddefnydd ar y cyd ar fyrder.

Wood thinnings

Cyfle i ailfeddwl am bren

Llywiwyd canfyddiadau fy ngwaith ymchwil ar gyfer fy ngradd Meistr ac o’r cwrs byr am bren gan fy niddordeb mewn gwaith pren ers yr oeddwn yn ifanc, ond hefyd, gan ymwybyddiaeth o’r ffaith bod y diwydiant adeiladu yn y DU wedi cael ei ddylanwadu’n fawr gan gynhyrchu dur yn ystod y ganrif ddiwethaf.  Mae hyn yn gwneud cyfraniad mawr i effaith gyffredinol yr amgylchedd adeiledig, gan allyrru tua 40% o nwyon tŷ gwydr (GHG).  Ond nid oes yn rhaid i bethau fod fel hyn.  Mae’n bryd llywio adeiladu i gyfeiriad mwy cynaliadwy, lle y gellir defnyddio adnoddau sy’n seiliedig ar ddeunyddiau biolegol mewn ffordd adfywiol er lles cymunedau a’r blaned.

Yn ystod fy mlwyddyn astudio olaf ar raglen Pensaernïaeth Gynaliadwy M.Arch yn CyDA, llwyddais i ddatblygu prosiect sy’n ymateb i ac sy’n atgyfnerthu rôl dylunio pensaernïol yn y ddadl amgylcheddol.  Mae fy nghynnig, sy’n dwyn yr enw ‘Diwylliant Pren Cymru’, yn ganolfan gyhoeddus sy’n darparu amgylcheddau dysgu rhyng-ddisgyblaethol a chyfleusterau ymarferol, gan roi sylw i natur dameidiog a’r anghysondebau o fewn y diwydiannau pren yng Nghymru a’r DU.  Y nod yw sbarduno gweithgareddau ar draws y cylch cynhyrchu pren sy’n lleihau ein dibyniaeth ar fewnforion, gan roi hwb i sgiliau a hyrwyddo twf economaidd, a datblygu dyfodol gwirioneddol gynaliadwy ar gyfer cynhyrchu pren yng Nghymru.

Dyfodol newydd ar gyfer hen ffatri wag

Mae fy mhrosiect dylunio terfynol yn cynnwys cynnig dylunio i ddyrchafu hen ffatri Wern Works yn Llansawel, De-orllewin Cymru, a ddefnyddiwyd yn flaenorol er mwyn rholio dalenni alwminiwm ar gyfer awyrennau Concorde British Airways, gan ddwyn budd economaidd arwyddocaol i’r dref fach hon yng Nghymru.

Mae’r cynllun damcaniaethol yn cynnig dathlu ac addasu’r adeilad hanesyddol hwn at ddibenion gwahanol, gan adfywio’r ffrâm dur diwydiannol trwm sydd yno yn barod, gan sicrhau cyn lleied o effaith ag y bo modd ar y cyd-destun sydd yno yn barod trwy gyflwyno strategaethau adeiladu hybrid, ailddefnyddio ac adeiladu o’r newydd sy’n arloesol.

Wern Works Factory-Design by Jemma Ho

Nod y pedwar adeilad newydd a’r ddau adeilad hybrid rhyng-gysylltiedig yw dangos ffyrdd o ddefnyddio pren fel deunydd adeiladu – gan amrywio o ffrâm bren draddodiadol, adeiladwaith pren crynswth modern, a strwythurau fframiau pren ysgafn, i ailddefnyddio deunyddiau adeiladu confensiynol eraill mewn ffordd addasol.  Mae’n ddull gweithredu ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer cynhyrchu diwydiannol ac adfywio cynaliadwy.

Ysgogir y prosiect gan ddatblygiad chwe chysyniad strategol:

  1. Cynyddu’r cyd-destun economaidd
  2. Rhoi sylw i ddirywiad coedwigoedd
  3. Cynyddu gweithgarwch creu coetiroedd a bioamrywiaeth
  4. Arloesi gyda gwastraff
  5. Ysgogi crefftwaith pren
  6. Datblygu a chynnal diwylliant pren i Gymru

Mae’r prif ofodau yn cynnwys:

  • Tri thŷ gwydr rhyng-gysylltiedig lle y caiff yr hinsawdd eu rheoli ynddynt mewn ffordd oddefol, a fydd yn gweithredu fel arddangosfa fyw am y ffordd y gallai ein coed ymddwyn mewn hinsoddau yn y dyfodol
  • Oriel gwneuthurwyr gyda stiwdios y mae modd eu llogi
  • Canolfan gynadledda, safleoedd ymneilltuo, meithrinfa a llety
  • Gweithdy pren seiri dodrefn ar gyfer oedolion a phlant
  • Gweithdy creu cychod arbenigol
  • Adeilad ymwelwyr ar gyfer gweithgareddau hamdden, gan gynnwys caffi ac oriel gyfeiriadu
  • Lle arddangos yn yr awyr agored ar gyfer ymyriadau pren amrywiol
  • Cyfleusterau melin goed (ar gyfer gwasanaethau melino lleol)
  • Iard adfer ar gyfer torion pren a chyfnewid
FDP Visual by Jemma Ho

Mae pob adeilad yn gwasanaethu grwpiau defnyddwyr amrywiol, gan amrywio o blant ifanc i weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant adeiladu, pren a choedwigaeth er mwyn creu amgylchedd rhannu gwybodaeth holistig.

Nod y prosiect hwn yw eirioli dros weithredu arloesol ar fyrder o fewn cadwyni cyflenwi presennol yng Nghymru er mwyn cynyddu gwerth diwydiannol pren trwy greu cyflenwad pren strwythurol sy’n symlach mewn ffordd holistig, a lle y gwneir defnydd gwell o sgil-gynhyrchion ‘gwastraff’ gweithgarwch cynhyrchu.

Greenhouse model - made by Jemma Ho

Mae prosiect Diwylliant Pren Cymru yn amlygu’r angen i weithredu ar fyrder nawr er mwyn defnyddio’r wybodaeth sydd gan ein diwydiannau pren i ysgogi datblygiad deunyddiau adeiladu is o ran carbon. Mae pren yn adnodd sy’n dal carbon ac sydd hefyd yn creu swyddi gwyrddach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Am yr awdur

Mae Jemma Ho yn raddedig o raglen Gradd Meistr Pensaernïaeth Gynaliadwy 2022-24 CyDA. Mae hi’n Ddylunydd Pensaernïol yn
Architype, y cwmni pensaernïol blaenllaw yn y DU ym maes adeiladau cynaliadwy, yn y sectorau addysg a gofal iechyd yn bennaf.

Yn 2025, cydnabuwyd Jemma yn rhestr Talent Newydd AJ100 The Architects’ Journal, gan gydnabod ei dylanwad cynyddol yn y byd pensaernïol yn y DU. Mae hi’n teimlo’n angerddol am hyrwyddo’r defnydd o bren yn y diwydiant adeiladu.

Darganfod mwy am ein M.Arch mewn pensaernïaeth

Darganfyddwch mwy am ein M.Arch mewn Pensaernïaeth Gynaliadwy drwy edrych ar ddisgrifiad y rhaglen neu drwy ymuno diwrnod agored sydd ar ddod.