CyDA

Cydlynydd Prosiect

Mae CyDA yn chwilio am Gydlynydd Prosiect ar gyfer prosiect Troi’r Llanw / Turning The Tide, i gydweithio’n agos gyda Rheolwr y Prosiect, i gyflawni gwaith cydlynu ar gyfer y prosiect tair blynedd hwn, gan sicrhau bod holl weithgareddau’r prosiect yn cael eu cynllunio’n gywir, bod adnoddau cywir yn cael eu neilltuo iddynt a bod y gwaith cyflawni o safon uchel.

Ynghylch CyDA

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, mae’n ganolfan eco flaenllaw ar lefel fyd-eang, ac yn un o ddarparwyr pennaf addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, wedi’i lleoli ger Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru.

Mae CyDA yn cynnig ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant ynghylch datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae’r prif weithgareddau yn cynnwys canolfan ymwelwyr lle y gall grwpiau weld datrysiadau ar waith, cyrsiau preswyl byr, hyfforddiant galwedigaethol a graddau ôl-raddedig mewn ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd, a chynigir cyrsiau a digwyddiadau ar-lein law yn llaw â chyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb.

Ariannir y rôl hon fel rhan o brosiect Troi’r Llanw / Turning the Tide, a ariannir diolch i Gronfa Weithredu yr Hinsawdd, sef ymrwymiad hirdymor gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynorthwyo cymunedau ar draws y DU i weithredu ynghylch newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol cadarnhaol.

The National Lottery Community Fund Logo

Manylion Swydd:

  • Cyfeirnod: PCoord260623
  • Maes Cyfrifoldeb: Prosiect Troi’r Llanw / Turning The Tide
  • Yn gyfrifol i: Rheolwr Prosiect
  • Yn gyfrifol am: Hyfforddwr/Hwylusydd, Gweinyddwr Prosiect
  • Math o gontract: Tymor Penodol – 3 blynedd
  • Lleoliad: Gweithio’n rheolaidd yng nghanolfan eco CyDA, Machynlleth, Canolbarth Cymru, gyda chyfle i wneud rhywfaint o waith hyblyg gartref.
  • Oriau: 37.5 awr yr wythnos (1.0 FTE)
  • Diwrnodau gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener fel arfer, 9am i 5pm. Efallai y bydd gofyn gweithio rhywfaint gyda’r hwyr ac ar benwythnosau. Ystyrir trefniadau gweithio hyblyg.

Cyflog a buddion gweithiwr:

£35,898 y flwyddyn

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn cynnig lwfans gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau banc (7-10 diwrnod fel arfer), a lwfans ychwanegol adeg y Nadolig (3 diwrnod fel arfer), yn ogystal ag 1 diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn a weithir (hyd at 5 diwrnod).

Mae CyDA hefyd yn cynnig pecyn deniadol o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:

  • Cinio poeth am ddim a diodydd poeth am ddim o’r caffi pryd bynnag y byddwch yn gweithio o ganolfan eco CyDA;
  • Gostyngiad o 20% ar nwyddau manwerthu a brynir oddi wrth CyDA;
  • Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant DPP, cymwysterau ac aelodaeth broffesiynol i’w hariannu gan CyDA;
  • Y cyfle i brynu diwrnodau gwyliau ychwanegol;
  • Cyfraniad pensiwn o 5%;
  • Hawliad mamolaeth a thadolaeth hael a budd-dal marw yn y swydd;
  • 2 awr y mis ar gyfer iechyd a lles cyffredinol a 2 awr y mis ar gyfer hyfforddiant yn y Gymraeg.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am 17 Gorffennaf 2026

Cyfweliadau i’w cynnal: yr wythnos yn dechrau 27 Gorffennaf 2026 (ar safle)

Dyddiad cychwyn disgwyliedig: cyn gynted ag sy’n bosib

Trosolwg o’r Rôl

Mae Troi’r Llanw / Turning The Tide yn fenter tair blynedd ar draws Cymru gyfan, sy’n ceisio ysbrydoli, hysbysu a galluogi ymatebion cymunedol ymarferol i newid hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Rydym yn rhagweld dyfodol lle y bydd gweithredu cymunedol am yr hinsawdd yn rhan o’r brif ffrwd, lle y mae lleisiau ar y cyrion yn cael budd o ac yn siapio penderfyniadau amgylcheddol, a lle y mae pobl yn teimlo’n obeithiol ac yn cael eu grymuso yn wyneb yr argyfwng hinsawdd.

Bydd y Cydlynydd Prosiect yn gyfrifol am gydweithio’n agos gyda’r rheolwr Prosiect i gydlynu ac arwain y prosiect tair blynedd hwn.

Prif Ddiben a Chyfrifoldebau’r swydd

Bydd deiliad y swydd yn cydweithio’n agos gyda Rheolwr y Prosiect i gydlynu prosiect tair blynedd Troi’r Llanw / Turning The Tide.

Prif gyfrifoldebau:

  • Gwneud gwaith cydlynu ar gyfer y prosiect tair blynedd, gan sicrhau y caiff holl weithgareddau’r prosiect eu cynllunio yn gywir, bod adnoddau cywir yn cael eu neilltuo iddo ac y bydd yn cael ei gyflawni i safon uchel
  • Cydlynu darpariaeth holl weithgareddau’r prosiect er mwyn cyflawni’r allbynnau gofynnol
  • Cymryd cyfrifoldeb dros reolaeth iechyd a diogelwch, gan gynnwys prif weithgareddau prosiect CyDA
  • Cymryd cyfrifoldeb dros gasglu a choladu data perfformiad
  • Gweithio gyda Rheolwr a Swyddog Cyfathrebu y Prosiect i gasglu a dehongli data gwerthuso
  • Cyfrannu at weithgarwch ysgrifennu adroddiadau a lledaenu’r prosiect
  • Gweithio gyda Swyddog Cyfathrebu y Prosiect i rannu straeon, canlyniadau ac ati y prosiect
  • Nodi cyfleoedd i ddylanwadu ar bolisi a gwaith gyda’r Rheolwr Polisi, Adnoddau ac Ymchwil er mwyn llunio briffiau
  • Gweithio gyda Gweinyddwr y Prosiect i drefnu digwyddiadau hyfforddiant a phrofiadau dysgu ymdrochol ar gyfer ymwelwyr â CyDA
  • Sicrhau gwaith effeithiol mewn partneriaeth ar lefel strategol a gweithredol a pharatoi adroddiadau ar gyfer grwpiau llywio a gweithredol
  • Goruchwylio gweithgarwch cynllunio y prosiect a llywodraethu rheoli risg ac adrodd
  • Gweithio gyda Rheolwr y Prosiect i fonitro sefyllfa ariannol, adnoddau a darpariaeth allbynnau y prosiect, gan sicrhau y caiff cyllidebau’r prosiect eu monitro yn fisol
  • Bod yn rheolwr llinell ar gyfer staff y prosiect – Gweinyddwyr y Prosiect a Hwylusydd Hyfforddiant y Prosiect
  • Goruchwylio gweithgarwch monitro, gwerthuso a dysgu er mwyn dangos effaith a hysbysu polisi
  • Gweithio gyda Rheolwr y Prosiect i weithredu systemau, polisïau a gweithdrefnau effeithiol ar gyfer rheolaeth effeithiol, monitro a gwerthuso y prosiect, er mwyn cyflawni nodau ac amcanion, allbynnau, canlyniadau ac effaith y prosiect
  • Sicrhau aliniad gyda blaenoriaethau Cronfa Weithredu yr Hinsawdd a strategaeth CyDA
  • Unrhyw ddyletswyddau eraill a ddiffinnir gan Reolwr y Prosiect

I ddysgu mwy am y rôl, lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn:

Dylid anfon ceisiadau ymlaen at vacancy@cat.org.uk erbyn y dyddiad cau sy’n nodi teitl y swydd yn y llinell Pwnc.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at vacancy@cat.org.uk

Rhaid llenwi ffurflen gais, ni dderbynnir CV.https://cat.org.uk/vacancies/

Disgrifiad Swydd: Cydlynydd Prosiect

Darllenwch y dogfennau isod cyn cwblhau’ch cais: