Mae CyDA yn chwilio am Gweinyddwr Prosiect ar gyfer prosiect Troi’r Llanw / Turning The Tide, i gynorthwyo wrth sicrhau bod y prosiect yn rhedeg yn esmwyth, gan ymgymryd â’r cyfrifoldeb dros yr holl ddyletswyddau gweinyddol, a gweithio fel aelod o dîm o chwech.
Ynghylch CyDA
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, mae’n ganolfan eco flaenllaw ar lefel fyd-eang, ac yn un o ddarparwyr pennaf addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, wedi’i lleoli ger Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru.
Mae CyDA yn cynnig ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant ynghylch datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.
Mae’r prif weithgareddau yn cynnwys canolfan ymwelwyr lle y gall grwpiau weld datrysiadau ar waith, cyrsiau preswyl byr, hyfforddiant galwedigaethol a graddau ôl-raddedig mewn ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd, a chynigir cyrsiau a digwyddiadau ar-lein law yn llaw â chyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb.
Ariannir y rôl hon fel rhan o brosiect Troi’r Llanw / Turning the Tide, a ariannir diolch i Gronfa Weithredu yr Hinsawdd, sef ymrwymiad hirdymor gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynorthwyo cymunedau ar draws y DU i weithredu ynghylch newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol cadarnhaol.

Manylion Swydd:
- Cyfeirnod: PA260623
- Maes Cyfrifoldeb: Cymorth gweinyddol ar gyfer prosiect tair blynedd Troi’r Llanw /Turning The Tide
- Yn gyfrifol i: Cydlynydd Prosiect
- Yn gyfrifol am: Dim cyfrifoldebau fel rheolwr llinell
- Math o gontract: Tymor Penodol – 3 blynedd
- Lleoliad: Fel arfer, ar safle yr Elusen ger Machynlleth, Canolbarth Cymru
- Ystyrir trefniant gweithio o bell
- Oriau: 0.6 FTE 22.5 awr yr wythnos
- Diwrnodau gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener fel arfer, gwaith ar benwythnosau o bryd i’w gilydd, ystyrir trefniadau gweithio hyblyg.
Cyflog a buddion gweithiwr:
£24,960 y flwyddyn, pro rata (£14,976)
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn cynnig lwfans gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau banc (7-10 diwrnod fel arfer), a lwfans ychwanegol adeg y Nadolig (3 diwrnod fel arfer), yn ogystal ag 1 diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn a weithir (hyd at 5 diwrnod).
Mae CyDA hefyd yn cynnig pecyn deniadol o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:
- Cinio poeth am ddim a diodydd poeth am ddim o’r caffi pryd bynnag y byddwch yn gweithio o ganolfan eco CyDA;
- Gostyngiad o 20% ar nwyddau manwerthu a brynir oddi wrth CyDA;
- Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant DPP, cymwysterau ac aelodaeth broffesiynol i’w hariannu gan CyDA;
- Y cyfle i brynu diwrnodau gwyliau ychwanegol;
- Cyfraniad pensiwn o 5%;
- Hawliad mamolaeth a thadolaeth hael a budd-dal marw yn y swydd;
- 2 awr y mis ar gyfer iechyd a lles cyffredinol a 2 awr y mis ar gyfer hyfforddiant yn y Gymraeg.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9yb 17 Gorffennaf 2026
Cyfweliadau i’w cynnal: yr wythnos yn dechrau 27 Gorffennaf 2026 (ar safle)
Dyddiad cychwyn disgwyliedig: cyn gynted ag sy’n bosib
Trosolwg o’r Rôl
Mae Troi’r Llanw / Turning The Tide yn fenter tair blynedd ar draws Cymru gyfan, sy’n ceisio ysbrydoli, hysbysu a galluogi ymatebion cymunedol ymarferol i newid hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Rydym yn rhagweld dyfodol lle y bydd gweithredu cymunedol am yr hinsawdd yn rhan o’r brif ffrwd, lle y mae lleisiau ar y cyrion yn cael budd o ac yn siapio penderfyniadau amgylcheddol, a lle y mae pobl yn teimlo’n obeithiol ac yn cael eu grymuso yn wyneb yr argyfwng hinsawdd.
Mae hwn yn brosiect Partneriaeth, a’r Partner Arweiniol yw CyDA.
Prif Ddiben a Chyfrifoldebau’r swydd
- Gwneud gwaith manwl i gofnodi gwybodaeth ynghylch ymholiadau, archebu a chyfathrebu a chynnal systemau cofnodi hanfodol a datganiadau data.
- Delio ag ymholiadau i’r prosiect ar-lein, dros y ffôn a wyneb yn wyneb.
- Gwneud gwaith manwl i gofnodi gwybodaeth ynghylch ymholiadau, archebu a chyfathrebu a chynnal systemau cofnodi hanfodol a datganiadau data.
- Cael cyswllt gyda hyfforddwyr/hwyluswyr yn ôl y gofyn ynghylch adnoddau addysgu a hyfforddi.
- Cael cyswllt gyda phartneriaid y prosiect yn ôl y gofyn
- Gweithio gyda chydlynydd y prosiect er mwyn sicrhau bod dogfennaeth iechyd a diogelwch yn ei lle cyn cynnal cyrsiau, gweithdai a digwyddiadau, trwy gael cyswllt gyda thîm y prosiect a gyda Swyddog Iechyd a Diogelwch CyDA.
- Cael cyswllt gyda thîm lletygarwch CyDA ynghylch archebu cyfarfodydd, addysgu, lleoliadau gweithdai a digwyddiadau, llety a gofynion arlwyo.
- Cyfrifoldeb dros bob agwedd ar archebu hyfforddiant, gweithdai a digwyddiadau eraill.
- Cyfrifoldeb dros ddosbarthu ar ôl digwyddiadau (hyfforddiant, gweithdy, gweminar ac ati) ac ymateb i arolygon, gan drefnu cyfweliadau gwerthuso prosiect, dosbarthu sleidiau a ddefnyddiwyd ac ati.
- Cymryd cofnodion manwl mewn cyfarfodydd a’u dosbarthu i gyfranogwyr.
- Cynnal cofnodion cyfarfodydd a chysylltiadau.
- Gweithio gyda Chydlynydd y Prosiect i drefnu ymweliadau gan lunwyr polisi, dylanwadwyr ac eraill i safle CyDA a lleoliadau eraill
- Gyda chyfarwyddyd Cydlynydd y Prosiect, trefnu digwyddiadau hyfforddi a phrofiadau dysgu ymdrochol i ymwelwyr dydd â CyDA
- Pan fo hynny’n briodol, defnyddio neu weithio tuag at ddefnyddio Cymraeg ysgrifenedig ac ar lafar wrth gysylltu gyda grwpiau
- Unrhyw ddyletswyddau priodol eraill a ddiffinnir gan Reolwr y Prosiect a Chydlynydd y Prosiect.
- Sicrhau cydymffurfiaeth gyda pholisïau a gweithdrefnau CyDA gan gynnwys Iechyd a Diogelwch
I ddysgu mwy am y rôl, lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn:
Dylid anfon ceisiadau ymlaen at vacancy@cat.org.uk erbyn y dyddiad cau sy’n nodi teitl y swydd yn y llinell Pwnc.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at vacancy@cat.org.uk
Rhaid llenwi ffurflen gais, ni dderbynnir CV.https://cat.org.uk/vacancies/
Disgrifiad Swydd: Gweinyddwr Prosiect
