Food from the CAT cafe

Cynorthwyydd Arlwyo/Lletygarwch

Mae CyDA yn chwilio am Gynorthwyydd Arlwyo a Lletygarwch i weithio fel rhan o’r tîm arlwyo, gan ddarparu gwasanaeth blaen y tŷ i gwsmeriaid y caffi/bar a helpu i ddarparu a chynnal safon uchel o wasanaeth cwsmeriaid, glendid a chyflwyniad.

Ynghylch CyDA

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol ac addysgiadol  rhyngwladol enwog, yn ganolfan eco sy’n arwain y byd ac yn un o brif ddarparwyr addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, sydd wedi’i lleoli ger Machynlleth ym Mhowys, Canolbarth Cymru.

Mae CyDA yn darparu ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant ar atebion i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae’r prif weithgareddau’n cynnwys canolfan ymwelwyr lle gall pobl weld yr atebion ar waith, cyrsiau byr a digwyddiadau wyneb yn wyneb, ar-lein a phreswyl, hyfforddiant galwedigaethol a graddau ôl-raddedig mewn ystod eang o bynciau’n ymwneud â chynaliadwyedd.

Manylion Swydd:

  • Cyfeirnod: CHA260513
  • Maes Cyfrifoldeb: Bwyty a Chaffi CyDA
  • Atebol i: Rheolwr Arlwyo Cynaliadwy Seiliedig ar Blanhigion
  • Cyfrifol am: Staff Arlwyo
  • Math o gontract: Parhaol
  • Lleoliad: Safle CyDA yn Llwyngwern ger Machynlleth
  • Oriau: Amrywiol – rhan amser  
  • Diwrnodau gweithio: Dros 7 diwrnod ar sail rota, gan gynnwys gyda’r nos a boreau cynnar. Efallai bydd angen gweithio sifftiau hollt, yn ddibynnol ar ofynion busnes.

Cyflog a buddion gweithiwr:

£24,784.50 y flwyddyn pro rata

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn cynnig lwfans gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod y flwyddyn pro rata, yn ogystal â gwyliau banc (7- 9 diwrnod fel arfer), a lwfans ychwanegol adeg y Nadolig (3 diwrnod fel arfer), yn ogystal ag 1 diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn a weithir (hyd at 5 diwrnod).

Mae CyDA hefyd yn cynnig pecyn deniadol o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:

  • Cinio poeth am ddim a diodydd poeth am ddim o’r caffi pryd bynnag y byddwch yn gweithio o ganolfan eco CyDA;
  • Gostyngiad o 40% ar nwyddau manwerthu a brynir oddi wrth CyDA;
  • Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant DPP, cymwysterau ac aelodaeth broffesiynol i’w hariannu gan CyDA;
  • Y cyfle i brynu diwrnodau gwyliau ychwanegol;
  • Cyfraniad pensiwn o 5%;
  • Hawliad mamolaeth a thadolaeth hael a budd-dal marw yn y swydd;
  • 2 awr y mis ar gyfer iechyd a lles cyffredinol a 2 awr y mis ar gyfer hyfforddiant yn y Gymraeg.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Parhaus

Cyfweliadau i’w cynnal: Parhaus (ar safle)

Dyddiad cychwyn disgwyliedig: cyn gynted ag sy’n bosib

Trosolwg o’r Rôl

Nod tîm arlwyo CyDA yw darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf ar gyfer ei holl gwsmeriaid sy’n cynnwys ymwelwyr dydd, grwpiau ysgol, myfyrwyr, pobl ar gyrsiau, gwesteion Gwely a Brecwast a mynychwyr digwyddiadau a chynadleddau. Mae caffi CyDA yn un o’r prif ddarparwyr bwyd llysieuol a chynaliadwy yng Nghymru, ac yn cynnig y gorau o ran bwyd carbon isel, maethlon a blasus.  Mae’r mannau gweithredu cyfredol yn cynnwys y prif gaffi yn ogystal â bar a bwyty adeilad WISE (Sefydliad Addysg Cynaliadwyedd Cymru).

Gan weithio fel rhan o’r tîm arlwyo, rôl y cynorthwyydd yw darparu gwasanaeth blaen y tŷ i gwsmeriaid y caffi/bar a gwesteion CyDA, a helpu i ddarparu a chynnal safon uchel o wasanaeth cwsmeriaid, glendid a chyflwyniad.

Prif Gyfrifoldebau

  • Gan weithio gyda’r tîm Arlwyo, gweini ar gwsmeriaid yn y caffi a’r bar, defnyddio’r til, cyfrif yr arian, glanhau’r ardaloedd hyn ac ailstocio fel y bo angen 
  • Gan weithio gyda’r tîm Lletygarwch, sicrhau bod safon ardderchog o gyflwyniad a glendid yn cael ei chynnal yn yr ardaloedd cyhoeddus cyffredinol ac yn y llety
  • Cynorthwyo gyda digwyddiadau
  • Cydymffurfio â Gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch CyDA
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n ofynnol gan y Rheolwr Arlwyo Cynaliadwy Seiliedig ar Blanhigion.

Dylid anfon CVs at Briony.Rigby@cat.org.uk erbyn y dyddiad cau sy’n nodi teitl y swydd yn y llinell Pwnc.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at briony.rigby@cat.org.uk  

I ddysgu mwy am y rôl, lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn:

Disgrifiad Swydd: Cynorthwyydd Arlwyo/Lletygarwch

Darllenwch y dogfennau isod cyn cwblhau’ch cais: