Mae CyDA yn chwilio am Hyfforddwr/Hwylusydd ar gyfer prosiect Troi’r Llanw / Turning The Tide , fel rhan allweddol o’r gwaith o gyflwyno’r prosiect hwn, gyda chyfrifoldeb dros gynllunio, datblygu a darparu rhaglen hyfforddi sy’n datblygu llythrennedd hinsawdd a sgiliau ar gyfer gweithredu cymunedol ynghylch yr hinsawdd.
Ynghylch CyDA
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, mae’n ganolfan eco flaenllaw ar lefel fyd-eang, ac yn un o ddarparwyr pennaf addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, wedi’i lleoli ger Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru.
Mae CYDA yn cynnig ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant ynghylch datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.
Mae’r prif weithgareddau yn cynnwys canolfan ymwelwyr lle y gall grwpiau weld datrysiadau ar waith, cyrsiau preswyl byr, hyfforddiant galwedigaethol a graddau ôl-raddedig mewn ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd, a chynigir cyrsiau a digwyddiadau ar-lein law yn llaw â chyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb.
Ariannir y rôl hon fel rhan o brosiect Troi’r Llanw / Turning the Tide, a ariannir diolch i Gronfa Weithredu yr Hinsawdd, sef ymrwymiad hirdymor gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynorthwyo cymunedau ar draws y DU i weithredu ynghylch newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol cadarnhaol.

Manylion Swydd:
- Cyfeirnod: TF260623
- Maes Cyfrifoldeb: Darparu hyfforddiant a hwyluso gweithgareddau ar gyfer Prosiect Troi’r Llanw / Turning The Tide
- Yn gyfrifol i: Cydlynydd Prosiect
- Yn gyfrifol am: Dim cyfrifoldebau fel rheolwr llinell
- Math o gontract: Tymor Penodol – 3 blynedd
- Lleoliad: Hyblyg gydag ymweliadau rheolaidd â chanolfan eco CyDA ger Machynlleth, yn ogystal â safleoedd eraill ar draws Cymru
- Oriau: 22.5 awr yr wythnos (0.6 FTE)
- Diwrnodau gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener fel arfer, 9am i 5pm. Efallai y bydd gofyn gweithio rhywfaint gyda’r hwyr ac ar benwythnosau. Ystyrir trefniadau gweithio hyblyg.
Cyflog a buddion gweithiwr:
£ 28,760 y flwyddyn, pro rata (£17,256)
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn cynnig lwfans gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau banc (7-10 diwrnod fel arfer), a lwfans ychwanegol adeg y Nadolig (3 diwrnod fel arfer), yn ogystal ag 1 diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn a weithir (hyd at 5 diwrnod).
Mae CyDA hefyd yn cynnig pecyn deniadol o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:
- Cinio poeth am ddim a diodydd poeth am ddim o’r caffi pryd bynnag y byddwch yn gweithio o ganolfan eco CyDA;
- Gostyngiad o 20% ar nwyddau manwerthu a brynir oddi wrth CyDA;
- Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant DPP, cymwysterau ac aelodaeth broffesiynol i’w hariannu gan CyDA;
- Y cyfle i brynu diwrnodau gwyliau ychwanegol;
- Cyfraniad pensiwn o 5%;
- Hawliad mamolaeth a thadolaeth hael a budd-dal marw yn y swydd;
- 2 awr y mis ar gyfer iechyd a lles cyffredinol a 2 awr y mis ar gyfer hyfforddiant yn y Gymraeg.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am 17 Gorffennaf 2026
Cyfweliadau i’w cynnal: yr wythnos yn dechrau 27 Gorffennaf 2026 (ar safle)
Dyddiad cychwyn disgwyliedig: cyn gynted ag sy’n bosib
Trosolwg o’r Rôl
Mae Troi’r Llanw / Turning The Tide yn brosiect tair blynedd, ledled Cymru (dwyieithog), a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gyda’r nod o normaleiddio gwaith hinsawdd dan arweiniad y gymuned ac ymatebion i newid hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol, gan sicrhau bod lleisiau sydd wedi’i ymyleiddio yn llunio penderfyniadau amgylcheddol, a helpu pobl i deimlo’n gryfach yn wyneb yr argyfwng hinsawdd. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen ochr yn ochr â Cwmpas, Youth Cymru, Mentrau Iaith Cymru, a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST).
Mae rôl yr Hwylusydd Hyfforddiant yn rhan allweddol o’r prosiect hwn, a bydd yn cynorthwyo Cydlynydd y Prosiect ar draws pob agwedd o hyfforddiant ar gyfer prosiect Troi’r Llanw / Turning The Tide, a bydd yn gyfrifol am gynllunio, datblygu a darparu rhaglen hyfforddiant sy’n datblygu llythrennedd hinsawdd a sgiliau ar gyfer gweithredu cymunedol ar yr hinsawdd.
Gan weithio fel rhan o brosiect Troi’r Llanw / Turning The Tide, byddwch yn hyderus wrth baratoi a datblygu deunydd hyfforddiant, gan ddarparu o bell, ar ein safle yn CyDA ac mewn lleoliadau eraill ledled Cymru.
Prif Ddiben a Chyfrifoldebau’r swydd
Mae cyfrifoldebau deiliad y swydd yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i’r rhain:
- Cynorthwyo Cydlynydd y Prosiect ar draws yr holl agweddau hyfforddiant ar y prosiect
- Cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithdai, cyflwyniadau a hyfforddiant ar-lein/rhithwir ac wyneb yn wyneb yn unol ag arweiniad y Rheolwr Hyfforddi
- Mynychu, cefnogi a hwyluso gweithdai a digwyddiadau hyfforddi, gan gynnwys cyfrannu at brosesau’r labordy arloesi
- Ymgymryd â’r holl ddyletswyddau eraill fydd yn sicrhau bod y rhaglen hyfforddi yn rhedeg yn effeithiol ac yn effeithlon
- Cynllunio, paratoi a chyflwyno Prosiect Llythrennedd Carbon (LPC) Prydain Ddi-garbon a hyfforddiant ymwybyddiaeth o garbon, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r CLD a’r LPC (lle bo’n berthnasol).
- Cynllunio ar gyfer a hwyluso dysgu gan gymheiriaid
- Rheoli ac ymateb i ymholiadau am raglenni hyfforddiant
- Gweithio gyda’r Swyddog Cyfathrebu i roi cyhoeddusrwydd i’r prosiect a gweithgareddau’r rhaglen hyfforddiant
- Cysylltu gyda Chydlynydd y Prosiect i bennu anghenion hyfforddi ac amserlennu’r rhaglen hyfforddiant
- Cynnal cronfa ddata o’r holl ddeunyddiau hyfforddiant
- Cydgynhyrchu cynnwys hyfforddiant dwyieithog hygyrch
- Gyda Chydlynydd y Prosiect, rheoli ymholiadau am raglenni hyfforddiant
- Rhannu canfyddiadau a chanlyniadau o’r hyfforddiant gyda’r Swyddog Cyfathrebu a’r Rheolwr Polisi, Adnoddau ac Ymchwil
- Gweithio’n hyblyg gan gynnwys nosweithiau a phenwythnosau pan fydd angen
- Unrhyw ddyletswyddau priodol eraill fel y’u diffinnir gan y Rheolwr Hyfforddi
- Sicrhau y cydymffurfir â pholisïau a gweithdrefnau CyDA gan gynnwys Iechyd a Diogelwch
- Bod yn ymwybodol o amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal i bawb, a’u cefnogi
I ddysgu mwy am y rôl, lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn:
Dylid anfon ceisiadau ymlaen at vacancy@cat.org.uk erbyn y dyddiad cau sy’n nodi teitl y swydd yn y llinell Pwnc.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at vacancy@cat.org.uk
Rhaid llenwi ffurflen gais, ni dderbynnir CV.https://cat.org.uk/vacancies/
Disgrifiad Swydd: Hyfforddwr/Hwylusydd
