Mae CyDA yn chwilio am Reolwr Ymchwil, Adnoddau a Pholisi Prosiect ar gyfer prosiect Troi’r Llanw / Turning The Tide, i gyflawni rôl allweddol wrth sicrhau adnoddau ar gyfer y prosiect, gan gynnwys cyfrannu at waith ymchwil, gwybodaeth a pholisi, a darparu arbenigedd ar draws amrediad o faterion yn ymwneud â chynaliadwyedd.
Ynghylch CyDA
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, mae’n ganolfan eco flaenllaw ar lefel fyd-eang, ac yn un o ddarparwyr pennaf addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, wedi’i lleoli ger Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru.
Mae CyDA yn cynnig ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant ynghylch datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.
Mae’r prif weithgareddau yn cynnwys canolfan ymwelwyr lle y gall grwpiau weld datrysiadau ar waith, cyrsiau preswyl byr, hyfforddiant galwedigaethol a graddau ôl-raddedig mewn ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd, a chynigir cyrsiau a digwyddiadau ar-lein law yn llaw â chyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb.
Ariannir y rôl hon fel rhan o brosiect Troi’r Llanw / Turning the Tide, a ariannir diolch i Gronfa Weithredu yr Hinsawdd, sef ymrwymiad hirdymor gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynorthwyo cymunedau ar draws y DU i weithredu ynghylch newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol cadarnhaol.

Manylion Swydd:
- Cyfeirnod: PRRPM260623
- Maes Cyfrifoldeb: Prosiect Troi’r Llanw / Turning The Tide
- Yn gyfrifol i: Rheolwr Prosiect
- Yn gyfrifol am: Dim cyfrifoldebau fel rheolwr llinell
- Math o gontract: Tymor Penodol – 3 blynedd
- Lleoliad: Gweithio yng nghanolfan eco CyDA ym Machynlleth, Canolbarth Cymru yn rheolaidd, gyda chyfle i wneud rhywfaint o waith hyblyg yn y cartref.
- Oriau: Rhan-amser: 30 awr yr wythnos (0.8 FTE)
- Diwrnodau gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener, gan weithio gyda’r hwyr ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd
Cyflog a buddion gweithiwr:
£28,760 y flwyddyn, pro rata (£23,008)
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn cynnig lwfans gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau banc (7-10 diwrnod fel arfer), a lwfans ychwanegol adeg y Nadolig (3 diwrnod fel arfer), yn ogystal ag 1 diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn a weithir (hyd at 5 diwrnod).
Mae CyDA hefyd yn cynnig pecyn deniadol o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:
- Cinio poeth am ddim a diodydd poeth am ddim o’r caffi pryd bynnag y byddwch yn gweithio o ganolfan eco CyDA;
- Gostyngiad o 20% ar nwyddau manwerthu a brynir oddi wrth CyDA;
- Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant DPP, cymwysterau ac aelodaeth broffesiynol i’w hariannu gan CyDA;
- Y cyfle i brynu diwrnodau gwyliau ychwanegol;
- Cyfraniad pensiwn o 5%;
- Hawliad mamolaeth a thadolaeth hael a budd-dal marw yn y swydd;
- 2 awr y mis ar gyfer iechyd a lles cyffredinol a 2 awr y mis ar gyfer hyfforddiant yn y Gymraeg.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9yb 17 Gorffennaf 2026
Cyfweliadau i’w cynnal: yr wythnos yn dechrau 27 Gorffennaf 2026 (ar safle)
Dyddiad cychwyn disgwyliedig: cyn gynted ag sy’n bosib
Trosolwg o’r Rôl
Mae Troi’r Llanw / Turning The Tide yn fenter tair blynedd ar draws Cymru gyfan, sy’n ceisio ysbrydoli, hysbysu a galluogi ymatebion cymunedol ymarferol i newid hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Rydym yn rhagweld dyfodol lle y bydd gweithredu cymunedol am yr hinsawdd yn rhan o’r brif ffrwd, lle y mae lleisiau ar y cyrion yn cael budd o ac yn siapio penderfyniadau amgylcheddol, a lle y mae pobl yn teimlo’n obeithiol ac yn cael eu grymuso yn wyneb yr argyfwng hinsawdd.
Bydd y Rheolwr Ymchwil, Adnoddau a Pholisi yn cyflawni rôl allweddol ym mhrosiect Troi’r Llanw /Turning the Tide, gan gynnwys cyfrannu at waith ymchwil, gwybodaeth a pholisi.
Bydd deiliad y swydd yn darparu arbenigedd ar draws ystod eang o faterion sy’n ymwnaed â ffyrdd o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, gan gyfrannu at ddatblygiad gweithdai, taflenni ffeithiau, adnoddau, yn ogystal ag ymateb i ymholiadau.
Mae’r rôl yn cynnwys cyfrannu at ddatblygiad a chynllun hyb gwybodaeth ddigidol hefyd, yn ogystal â sicrhau a datblygu cynnwys a pharhau i ddiweddaru tudalennau hyb gwybodaeth ddigidol y prosiect. Bydd deiliad y swydd yn datblygu cynnwys hefyd er mwyn cyfrannu at ddeunydd briffio polisi.
Prif Ddiben a Chyfrifoldebau’r swydd
Bydd deiliad y swydd yn cydweithio’n agos gyda thîm prosiect CyDA a phartneriaid ar draws prosiect tair blynedd Troi’r Llanw / Turning The Tide.
Prif gyfrifoldebau:
- Ymchwilio i faterion allweddol y bydd y Prosiect yn rhoi sylw iddynt
- Cyfrannu at gynllunio a darparu’r hyb gwybodaeth ddigidol
- Sicrhau delweddau ac ychwanegu at, diweddaru a chreu cynnwys ar gyfer hyb gwybodaeth ddigidol
- Darparu cyngor technegol ac arbenigol er mwyn galluogi cymunedau i weithredu prosiectau gweithredu hinsawdd effeithiol – gallai hyn fod ar ffurf tudalennau ar y we, adroddiadau ysgrifenedig, Taflenni gwybodaeth, pecynnau cymorth, cyflwyniadau, ac ati.
- Dadansoddi ac ysgrifennu am allbynnau gweithgarwch y prosiect – gallai hyn fod ar ffurf adroddiadau, tudalennau ar y we, erthyglau, ac ati.
- Rhoi cyhoeddusrwydd i’r prosiect a gweithgareddau, trwy gysylltu â Swyddog Cyfathrebu y Prosiect a thîm marchnata a chyfathrebu CyDA.
- Parhau i ddiweddaru a datblygu tudalennau’r Prosiect ar y we, a datblygu’r rhain yn ôl y gofyn.
- Cynorthwyo datblygiad mentrau’r prosiect
- Rheoli’r holl ymholiadau sy’n ymwneud â’r Prosiect (yn hytrach na cheisiadau hyfforddiant).
- Darparu ymchwil ac arbenigedd ynghylch materion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd er mwyn cynorthwyo’r Prosiect a gwaith ehangach CyDA – gallai hyn gynnwys, er enghraifft, drafftio erthyglau, cynghori am ymatebion i’r cyfryngau, cynghori am ymatebion i ymholiadau, neu gyfrannu at waith polisi.
- Cyfrannu at ysgrifennu cynigion ymgynghori/cyllid ar ffurf grant.
- Gweithio gyda Chydlynydd y Prosiect a’r Swyddog Cyfathrebu i gasglu a dehongli data gwerthuso
- Llunio adroddiadau a chyhoeddiadau, gan rannu canlyniadau mentrau cymunedol
- Gweithio gyda’r swyddog Cyfathrebu i rannu straeon, canlyniadau prosiect ac ati ar yr hyb gwybodaeth ddigidol
- Nodi meysydd lle y gall y prosiect ddylanwadu ar bolisi a llunio briffiau i’w rhannu gyda llunwyr polisi a dylanwadwyr
- Creu cyhoeddiadau er mwyn dylanwadu ar bolisi, darparu gwybodaeth ar gyfer briffiau polisi
- Cyfrannu at gynnal ymweliadau a chyfarfodydd gyda llunwyr polisi a dylanwadwyr
- Sicrhau aliniad gyda blaenoriaethu’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd a strategaeth CyDA
- Unrhyw ddyletswyddau priodol eraill, fel sy’n cael eu diffinio gan Reolwr y Prosiect
I ddysgu mwy am y rôl, lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn:
Dylid anfon ceisiadau ymlaen at vacancy@cat.org.uk erbyn y dyddiad cau sy’n nodi teitl y swydd yn y llinell Pwnc.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at vacancy@cat.org.uk
Rhaid llenwi ffurflen gais, ni dderbynnir CV.https://cat.org.uk/vacancies/
Disgrifiad Swydd: Rheolwr Ymchwil, Adnoddau a Pholisi Prosiect
