Aerial view across the CAT site

Uwch Ddarlithydd ym maes Cynaliadwyedd a Newid Ymddygiad

Mae CyDA yn chwilio am Uwch Ddarlithydd (swydd am flwyddyn, gyda’r posibilrwydd o’i hymestyn) ym maes Cynaliadwyedd a Newid Ymddygiad i weithio yn ein Hysgol Graddedigion i addysgu ac arwain modiwlau ar draws ein cyrsiau MSc llwyddiannus.

Ynghylch CyDA

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, mae’n ganolfan eco flaenllaw ar lefel fyd-eang, ac yn un o ddarparwyr pennaf addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, wedi’i lleoli ger Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru.

Mae CYDA yn cynnig ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant ynghylch datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae’r prif weithgareddau yn cynnwys canolfan ymwelwyr lle y gall grwpiau weld datrysiadau ar waith, cyrsiau preswyl byr, hyfforddiant galwedigaethol a graddau ôl-raddedig mewn ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd, a chynigir cyrsiau a digwyddiadau ar-lein law yn llaw â chyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb.

Manylion Swydd:

  • Maes Cyfrifoldeb: MSc Cynaliadwyedd a Newid Ymddygiad, MSc Bwyd Cynaliadwy ac Adnoddau Naturiol, MSc Cynaliadwyedd ac Ecoleg a/neu MSc Cynaliadwyedd ac Addasu
  • Yn gyfrifol i: Arweinydd Rhaglen
  • Yn gyfrifol am: Dim
  • Math o gontract: Cyfnod penodol – Blwyddyn, rhan-amser
  • Gradd Cyfrifoldeb: 33 (Uwch Ddarlithydd)
  • Lleoliad: Y gweithle yw safle yr elusen ger Machynlleth, canolbarth Cymru. Fodd bynnag, mae’r adran yn agored i weithio gartref rhwng modiwlau ar y safle yn ôl yr angen.
  • Oriau: 21.6 awr (0.6 FTE) yr wythnos yn ddelfrydol, ond mae modd trafod ffracsiwn amser
  • Diwrnodau gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener yn gyffredinol, er y bydd gofyn gwneud rhywfaint o waith gyda’r hwyr ac ar benwythnosau ar adegau.
  • Cyflog a buddion gweithiwr:
    • £40,521 y flwyddyn, pro rata
    • Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn cynnig lwfans gwyliau blynyddol hael o 35 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau banc (9-10 diwrnod fel arfer), a lwfans ychwanegol adeg y Nadolig (3 diwrnod fel arfer), yn ogystal ag 1 diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn a weithir (hyd at 5 diwrnod).
    • Mae CyDA hefyd yn cynnig pecyn deniadol o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:
      • Cinio poeth am ddim a diodydd poeth am ddim o’r caffi pryd bynnag y byddwch yn gweithio o ganolfan eco CyDA
      • Gostyngiad o 40% ar nwyddau manwerthu a brynir oddi wrth CyDA
      • Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant DPP, cymwysterau ac aelodaeth broffesiynol i’w hariannu gan CyDA
      • Y cyfle i brynu diwrnodau gwyliau ychwanegol
      • Cynllun ‘Seiclo i’r Gwaith’ (wedi’i gynllunio)
      • Hawliad mamolaeth a thadolaeth hael a budd-dal marw yn y swydd
      • 2 awr y mis ar gyfer iechyd a lles cyffredinol a 2 awr y mis ar gyfer hyfforddiant yn y Gymraeg.
  • Gweithio o bell: Gweler Lleoliad

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9yb 8 Mehefin 2026

Cynhelir cyfweliadau: yr wythnos yn cychwyn 15 Mehefin 2026 (ar y safle)

Dyddiad cychwyn disgwyliedig: Cyn gynted â phosibl

Trosolwg o’r RÔL

Mae Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd (YGA) yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn rhedeg rhai o’r rhaglenni ôl-raddedig mwyaf blaenllaw yn y DU ym maes cynaliadwyedd.  Mae tîm YGA yn arwain y ffordd wrth ddatblygu addysg amgylcheddol ôl-raddedig.  Mae gwaith YGA yn rhan ganolog o genhadaeth CyDA o roi’r sgiliau a’r wybodaeth i bobl er mwyn eu galluogi i ddarparu datrysiadau ymarferol ar gyfer cynaliadwyedd a thrawsnewid.

Ar hyn o bryd, mae YGA yn cynnig cyfres o raglenni Meistr sy’n seiliedig ar gynaliadwyedd ac addasu i newid amgylcheddol, gan gynnwys yr MSc cyffredinol a’r MRes Cynaliadwyedd ac Addasu (SA), a 4 gradd MSc mwy penodol sy’n canolbwyntio ar Newid Ymddygiad (SBC), Bwyd ac Adnoddau Naturiol (SFNR), Ecoleg (SE), ac Adeiladu Gwyrdd (GB).

Mae modd astudio’r cyrsiau MSc ar y safle trwy dreulio cyfnodau preswyl bloc yn CyDA, trwy drefniant dysgu o bell, neu ‘gyfunol’ fel cyfuniad o’r ddau, yn unol â gofynion myfyrwyr.  Caiff cyrsiau eu dilysu gan Brifysgol Dwyrain Llundain (UEL), neu Brifysgol John Moores Lerpwl (LJMU).

Mae myfyrwyr ar yr holl raglenni hyn yn cael budd o brofiad CyDA ym meysydd adeiladu a phensaernïaeth gynaliadwy, cynhyrchu bwyd, ynni adnewyddadwy, rheolaeth amgylcheddol, a materion amgylcheddol byd-eang.  Mae CyDA yn cynnig amgylchedd unigryw i astudio, gyda mynediad i academyddion blaenllaw ac ymarferwyr o ddiwydiant mewn meysydd perthnasol, a chymysgedd o amgylcheddau lled-naturiol bioamrywiol ar y safle, technolegau ynni adnewyddadwy ac adeiladau bach eu heffaith a ddefnyddir ac a ddangosir law yn llaw â chanolfan ymwelwyr amgylcheddol.

Rydym yn chwilio am unigolyn dynamig a fydd yn dwyn brwdfrydedd a medr i ddarparu ein cyfres o raglenni MSc, gan ganolbwyntio ar reolaeth a darpariaeth rhaglen MSc Cynaliadwyedd a Newid Ymddygiad (SBC) yn bennaf.  Bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos gwybodaeth arbenigol o ddulliau presennol mewn un o’r meysydd canlynol neu fwy:

  • Cyfathrebu, ymgysylltu ac ymgyrchu o fewn cyd-destun cynaliadwyedd
  • Cyd-greu a dulliau cyfranogi
  • Seicoleg ymddygiad amgylcheddol
  • Cyfiawnder hinsawdd a moeseg
  • Menter cymdeithasol a / neu fusnes moesegol
  • Meddwl trwy systemau a’r dyfodol
  • Dulliau arbrofol meintiol a/neu ansoddol

Dylai ymgeiswyr fod yn hyfedrus mewn darlithio a thiwtora personol, mewn darparu cymorth academaidd ar-lein, mewn marcio a rhoi adborth i fyfyrwyr ar lefel Meistr, ac yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i arwain modiwlau cyfunol (dysgu ar y safle ac o bell). Mae bloc darparu ar y safle yn cynnwys un modiwl preswyl dwys pum niwrnod y mis yn CyDA, gyda myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo trwy gyfrwng dulliau dysgu o bell pan fyddant i ffwrdd o CyDA am weddill cyfnod y modiwl.  Fel arfer, mae darparu dysgu o bell yn cynnwys sesiynau addysgu wedi’u hamserlenni, gweithgareddau dysgu fesul cam, ac astudio preifat wedi’i wasgaru dros gyfnod o fodiwl wyth wythnos.  Fel arfer, darparir modiwlau dysgu o bell ar yr un pryd â modiwlau cysylltiedig ar y safle yn unig.

Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle cyffrous i gyfrannu arbenigedd academaidd ar draws gwaith CyDA. Bydd deiliad y swydd yn canolbwyntio ar ddarparu’r cyrsiau MSc YGA yn bennaf, ond byddant hefyd yn cael dewis i addysgu grwpiau sy’n ymweld ac ar ein cyrsiau byr, yn ogystal â chynnig cyngor a mewnbwn am waith ymchwil ehangach CyDA, gwaith cyfathrebu a datblygiad safle CyDA.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl, anfonwch e-bost at Jane Fisher (Arweinydd Rhaglen dros Gynaliadwyedd a Newid Ymddygiad) jane.fisher@cat.org.uk, neu Bennaeth yr Ysgol:  Adrian Watson, adrian.watson@cat.org.uk

Mae CyDA wedi ymrwymo i hyrwyddo cymuned gyfiawn, amrywiol a chynhwysol.  Mae unrhyw faen prawf dethol yn seiliedig ar haeddiant, a’r gallu i wneud y gwaith, beth bynnag fo eich rhyw, eich hil, eich anabledd, eich oedran, eich cyfeiriadedd rhywiol, eich crefydd neu’ch credo athronyddol.

Prif Ddiben a Chyfrifoldebau’r swydd

Yn gyfrifol i Arweinwyr y Rhaglen a Phennaeth yr Ysgol.  Darparu modiwlau, gan sicrhau y bodlonir ansawdd academaidd, nodau a chanlyniadau mewn perthynas â modiwlau.

Mae’r trosolwg o’r prif gyfrifoldebau yn cynnwys y canlynol: –

  • Arwain yr agweddau academaidd a gweinyddol ar y modiwl(au) gan gynnwys asesu, gyda’r adnoddau sydd ar gael fel y cytunir gydag Arweinydd y Rhaglen;
  • Datblygu a diweddaru modiwlau presennol yn ôl y gofyn a datblygu strategaethau addysgu, dysgu ac asesu priodol, gan ddefnyddio amrediad o dechnegau cyflawni er mwyn ennyn brwdfrydedd myfyrwyr ac ymgysylltu â nhw;
  • Cyfrannu at ddatblygiad y rhaglen sy’n gysylltiedig â’r modiwlau trwy ymgynghori ag Arweinydd y Rhaglen a Phennaeth yr Ysgol;
  • Trefnu bod darlithoedd, gweithdai, seminarau, cyflwyniadau a gweithgareddau perthnasol eraill o fewn modiwlau yn cael eu darparu;
  • Monitro canlyniadau modiwlau yn unol â’r hyn sy’n ofynnol gan Arweinydd y Rhaglen;
  • Rhyngweithio gyda myfyrwyr a staff mewn ffordd ragweithiol er mwyn cynnig neu hwyluso canllawiau priodol a sicrhau y bodlonir terfynau amser;
  • Cyfrannu addysgu ac arbenigedd academaidd at agweddau eraill o weithgareddau CyDA gan gynnwys cyrsiau byr ac ymweliadau prifysgol, a meysydd eraill yn ôl y gofyn.

Cyffredinol gan gynnwys arwain modiwlau

  • Sicrhau bod safonau academaidd uchel yn cael eu cynnal, gan sicrhau bod staff academaidd modiwlau yn darparu yn unol â’r safonau gofynnol;
  • Mynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar ansawdd y ddarpariaeth o fewn cwmpas eich lefel cyfrifoldeb, a’u datrys, gan gyfeirio materion mwy difrifol at eraill pan fo hynny’n briodol;
  • Cyfathrebu mewn ffordd effeithiol gyda staff a myfyrwyr sy’n gysylltiedig â modiwlau;
  • Ar y cyd ag Arweinydd y Rhaglen, rheoli’r adnoddau gofynnol er mwyn rhedeg modiwlau;
  • Gweithio gyda staff academaidd a gweinyddol eraill er mwyn sicrhau darpariaeth modiwlau effeithiol a chymorth i fyfyrwyr;
  • Cynnal asesiadau risg a chymryd cyfrifoldeb dros iechyd a diogelwch eraill;
  • Sicrhau bod yr holl fyfyrwyr a’r goruchwylwyr yn ymwybodol o ac yn dilyn rheoliadau Prifysgol a’r gweithdrefnau sy’n berthnasol i bob modiwl;
  • Cydweithio gyda chydweithwyr i weithredu gweithdrefnau asesu;
  • Cyfrannu at achrediad cyrsiau a phrosesau rheoli ansawdd;
  • Bod yn gyfrifol am ofal bugeiliol myfyrwyr o fewn maes penodedig, gan ddefnyddio sgiliau gwrando, rhyngbersonol a bugeiliol er mwyn delio â materion sensitif sy’n ymwneud â myfyrwyr a darparu neu gyfeirio am gymorth yn ôl yr angen;
  • Sicrhau bod y camau a’r rheoliadau priodol yn cael eu dilyn mewn achosion lle y ceir amheuaeth o gamymddwyn academaidd;
  • Cysylltu gyda staff cymorth myfyrwyr mewn perthynas â chadw cofnodion;
  • Dyletswyddau addysgu, gweinyddol a chysylltiedig, yn unol â’r hyn sy’n ofynnol gan Arweinydd y Rhaglen neu Bennaeth yr Ysgol.

Addysgu

  • Darparu darlithoedd, gweithdai, seminarau, cyflwyniadau, sesiynau tiwtorial a gweithgareddau addysgu perthnasol eraill o fewn y modiwl, fel y cytunwyd gydag Arweinydd y Rhaglen;
  • Ymestyn trawsnewid a defnyddio gwybodaeth wedi’i chaffael gan ysgoloriaeth i weithgareddau allanol priodol ac addysgu;
  • Cyfrannu at gynllunio, dylunio a datblygu amcanion a deunyddiau;
  • Defnyddio dulliau addysgu, cymorth dysgu ac asesu priodol;
  • Datblygu a chreu deunyddiau dysgu a lledaenu canlyniadau gweithgarwch ysgolheigaidd;
  • Cynnal gweithgarwch asesu a goruchwylio myfyrwyr;
  • Cyfathrebu am syniadau cymhleth a chysyniadol fel mater o drefn gyda’r rhai sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth gyfyngedig, yn ogystal â gyda chymheiriaid gan ddefnyddio sgiliau ar lefel uchel ac amrediad o gyfryngau;
  • Ymateb mewn ffordd adeiladol i adborth gan fyfyrwyr;
  • Cynnal gwaith ymchwil, gweithgarwch ysgoleigiol a datblygu trwy gytuno gydag Arweinydd y Rhaglen;
  • Datrys problemau sy’n effeithio ar ansawdd darpariaeth modiwlau a chynnydd myfyrwyr, gan gyfeirio materion mwy difrifol at eraill pan fo hynny’n briodol.

Rheoli a datblygu staff

  • Mentora cydweithwyr sydd â llai o brofiad a chynghori am ddatblygiad personol;
  • Gan ddibynnu ar y maes gwaith, efallai y bydd disgwyliad i oruchwylio gwaith eraill;
  • Cydlynu gwaith eraill er mwyn sicrhau y darparir modiwlau yn unol â’r safonau gofynnol.

Bydd y dyletswyddau a’r cyfrifoldebau yn unol â Lefel 3 HERA JNCHES yn fras.  Mae cyfrifoldebau Lefel 3 yn datblygu lefel y galw yn Lefel 2.

Dylid anfon ceisiadau ymlaen at vacancy@cat.org.uk erbyn y dyddiad cau sy’n nodi teitl y swydd yn y llinell Pwnc.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at vacancy@cat.org.uk

Rhaid llenwi ffurflen gais, ni dderbynnir CV.

I ddysgu mwy am y rôl, lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn:

Disgrifiad Swydd: Uwch Ddarlithydd ym maes Cynaliadwyedd a Newid Ymddygiad

Darllenwch y dogfennau isod cyn cwblhau’ch cais: