Mae CyDA’n chwilio am Gogydd i ymuno â’n Tîm Arlwyo i gynorthwyo gyda rhedeg a datblygu ein Caffi a’n gwasanaetha arlwyo i safon uchel ac effeithlon.
Ynghylch CyDA
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol ac addysgiadol rhyngwladol enwog, yn ganolfan eco sy’n arwain y byd ac yn un o brif ddarparwyr addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, sydd wedi’i lleoli ger Machynlleth ym Mhowys, Canolbarth Cymru.
Mae CyDA yn darparu ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant ar atebion i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.
Mae’r prif weithgareddau’n cynnwys canolfan ymwelwyr lle gall pobl weld yr atebion ar waith, cyrsiau byr a digwyddiadau wyneb yn wyneb, ar-lein a phreswyl, hyfforddiant galwedigaethol a graddau ôl-raddedig mewn ystod eang o bynciau’n ymwneud â chynaliadwyedd. Yn CyDA, rydym yn ailddiffinio arlwyo trwy gynnig profiadau coginiol arloesol, blasus ac sy’n seiliedig ar blanhigion. Mae cynaliadwyedd wrth wraidd popeth a wnawn; o sicrhau cynhwysion lleol a thymhorol i waredu cynhyrchion plastig untro. Rydym yn gweini cleientiaid sy’n ymboeni am iechyd, y blaned, a bwyd eithriadol. Rydym yn chwilio am Cogydd profiadol sy’n rhannu’r gwerthoedd hyn er mwyn arwain ein gweithrediadau sy’n tyfu.
Manylion Swydd:
- Cyfeirnod: CHE250923
- Maes Cyfrifoldeb: Bwyty a Chaffi CyDA
- Atebol i: Rheolwr Arlwyo Cynaliadwy Seiliedig ar Blanhigion
- Cyfrifol am: Staff Arlwyo
- Math o gontract: Parhaol
- Lleoliad: Safle CyDA yn Llwyngwern ger Machynlleth
- Oriau: Amrywiol – rhan amser
- Diwrnodau gweithio: Dros 7 diwrnod ar sail rota, gan gynnwys gyda’r nos a boreau cynnar. Efallai bydd angen gweithio sifftiau hollt, yn ddibynnol ar ofynion busnes.
Cyflog a buddion gweithiwr:
£25,155 y flwyddyn pro rata
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn cynnig lwfans gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod y flwyddyn pro rata, yn ogystal â gwyliau banc (7- 9 diwrnod fel arfer), a lwfans ychwanegol adeg y Nadolig (3 diwrnod fel arfer), yn ogystal ag 1 diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn a weithir (hyd at 5 diwrnod).
Mae CyDA hefyd yn cynnig pecyn deniadol o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:
- Cinio poeth am ddim a diodydd poeth am ddim o’r caffi pryd bynnag y byddwch yn gweithio o ganolfan eco CyDA;
- Gostyngiad o 40% ar nwyddau manwerthu a brynir oddi wrth CyDA;
- Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant DPP, cymwysterau ac aelodaeth broffesiynol i’w hariannu gan CyDA;
- Y cyfle i brynu diwrnodau gwyliau ychwanegol;
- Cyfraniad pensiwn o 5%;
- Hawliad mamolaeth a thadolaeth hael a budd-dal marw yn y swydd;
- 2 awr y mis ar gyfer iechyd a lles cyffredinol a 2 awr y mis ar gyfer hyfforddiant yn y Gymraeg.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Parhaus
Cyfweliadau i’w cynnal: Parhaus (ar safle)
Dyddiad cychwyn disgwyliedig: cyn gynted ag sy’n bosib
Trosolwg o’r Rôl
Nod y tîm Arlwyo yw darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf ar gyfer ei holl gwsmeriaid, sy’n cynnwys ymwelwyr dydd, grwpiau ysgol, myfyrwyr, pobl ar gyrsiau, a chynrychiolwyr cynadleddau a digwyddiadau wrth weithredu o fewn polisi masnachu moesegol a chynaliadwy. Mae’r meysydd gweithredu cyfredol yn cynnwys y prif gaffi a derbyniadau bwffe yn adeilad WISE.
Mae’r Cogydd yn gyfrifol am gynorthwyo gyda rhedeg a datblygu’r caffi a’r gwasanaethau arlwyo i safon uchel, effeithlon a phroffidiol, gan dderbyn adborth rhagorol gan gwsmeriaid, wrth weithredu o fewn polisïau amgylcheddol a chaffael CyDA. Mae’r rôl yn cyfuno dyletswyddau arlwyo cyffredinol, yn y gegin a blaen y tŷ, fel ei gilydd.
Prif Gyfrifoldebau
- Cynorthwyo gyda goruchwylio a datblygu’r holl arlwyo
- Cynorthwyo gyda gosod safonau priodol
- Cynorthwyo gydag adolygu a datblygu ansawdd ac ystod y cynnyrch a’r gwasanaethau yn barhaol, cynyddu proffidioldeb a bodlonrwydd cwsmeriaid
- Gofalu bod gan y gwasanaethau arlwyo yn CyDA y nifer priodol o staff
- Cynnal a datblygu safonau uchel wrth baratoi bwyd, gweini a chyflwyno prydau a byrbrydau
- Bod yn greadigol a dyfeisgar wrth gyflwyno bwyd ar gyfer gwahanol gwsmeriaid a’u gwahanol ofynion arlwyo
- Sicrhau bod amrywiaeth dda o brydau a byrbrydau, sydd wedi’u paratoi yn ffres, ar gael i’w gweini ar gownteri’r bwyty
- Cynnal safonau uchel wrth goginio a gweini prydau i gwsmeriaid a grwpiau mawr
- Bod yn amryddawn a dyfeisgar wrth ddarparu ystod eang o wasanaethau arlwyo i gwsmeriaid, gan gynnwys darpariaeth hunanwasanaeth ar gyfer grwpiau, bwffes neu brydau wedi’u harchebu ymlaen llaw, a chymryd rhan mewn cynllunio bwydlenni
- Hwyluso gweithrediad llyfn ac effeithiol caffi CyDA o ddydd i ddydd, sy’n cynnwys:
- gweini, cydgysylltu â chwsmeriaid a’r holl weithrediadau blaen y tŷ
- defnyddio til, gwerthu dros y cownter a chyfrif yr arian
- gweithrediadau’r gegin
- cadw’r ardaloedd arlwyo yn ddiogel ac yn lân
- cydymffurfio â HACCP a’r holl ofynion Iechyd Amgylcheddol
- Cynorthwyo gydag adnewyddu a chynnal lefelau priodol o stoc arlwyo
- Cynorthwyo gyda hyfforddi, datblygu ac ysgogi staff
- Sicrhau cydymffurfiad â pholisïau CyDA gan gynnwys Rheoli Gwastraff ac Iechyd a Diogelwch.
- Cynorthwyo gyda chynnal a chadw strwythur a chyfleusterau’r bwyty, fel rhan o dîm y bwyty
- Unrhyw ddyletswyddau priodol eraill fel y’u diffinnir gan y Rheolwr Arlwyo Cynaliadwy Seiliedig ar Blanhigion
Dylid anfon CVs at Briony.Rigby@cat.org.uk erbyn y dyddiad cau sy’n nodi teitl y swydd yn y llinell Pwnc.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at briony.rigby@cat.org.uk

