Mae CyDA yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu Prosiect ar gyfer prosiect Troi’r Llanw / Turning The Tide, i arwain gweithgarwch cyfathrebu a rhannu gwybodaeth ar gyfer y prosiect, cynhyrchu cynnwys gweledol ac ysgrifenedig dwyieithog o ansawdd uchel ar draws amrediad o gyfryngau, rhannu straeon, ysbrydoli gweithredu a hysbysu polisi.
Ynghylch CyDA
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, mae’n ganolfan eco flaenllaw ar lefel fyd-eang, ac yn un o ddarparwyr pennaf addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, wedi’i lleoli ger Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru.
Mae CyDA yn cynnig ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant ynghylch datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.
Mae’r prif weithgareddau yn cynnwys canolfan ymwelwyr lle y gall grwpiau weld datrysiadau ar waith, cyrsiau preswyl byr, hyfforddiant galwedigaethol a graddau ôl-raddedig mewn ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd, a chynigir cyrsiau a digwyddiadau ar-lein law yn llaw â chyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb.
Ariannir y rôl hon fel rhan o brosiect Troi’r Llanw / Turning the Tide, a ariannir diolch i Gronfa Weithredu yr Hinsawdd, sef ymrwymiad hirdymor gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gynorthwyo cymunedau ar draws y DU i weithredu ynghylch newid hinsawdd a chynnwys mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol cadarnhaol.

Manylion Swydd:
- Cyfeirnod: TF260623
- Maes Cyfrifoldeb: Gwneud gwaith cyfathrebu, rhannu gwybodaeth ac adrodd straeon ar gyfer prosiect Troi’r Llanw er mwyn ysbrydoli gweithredu a hysbysu polisi
- Yn gyfrifol i: Cyd Benaethiaid Marchnata a Chyfathrebu
- Yn gyfrifol am: Dim cyfrifoldebau fel rheolwr llinell
- Math o gontract: Tymor Penodol – 3 blynedd
- Lleoliad: Gweithio yng nghanolfan eco CyDA ym Machynlleth, Canolbarth Cymru yn rheolaidd, gyda chyfle i wneud rhywfaint o waith hyblyg yn y cartref.
- Oriau: 22.5 awr yr wythnos (0.6 FTE)
- Diwrnodau gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener fel arfer, gyda’r gofyn i weithio gyda’r hwyr/ar benwythnosau o bryd i’w gilydd.
Cyflog a buddion gweithiwr:
£25,155 y flwyddyn, pro rata (£15,093)
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn cynnig lwfans gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau banc (7-10 diwrnod fel arfer), a lwfans ychwanegol adeg y Nadolig (3 diwrnod fel arfer), yn ogystal ag 1 diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn a weithir (hyd at 5 diwrnod).
Mae CyDA hefyd yn cynnig pecyn deniadol o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:
- Cinio poeth am ddim a diodydd poeth am ddim o’r caffi pryd bynnag y byddwch yn gweithio o ganolfan eco CyDA;
- Gostyngiad o 20% ar nwyddau manwerthu a brynir oddi wrth CyDA;
- Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant DPP, cymwysterau ac aelodaeth broffesiynol i’w hariannu gan CyDA;
- Y cyfle i brynu diwrnodau gwyliau ychwanegol;
- Cyfraniad pensiwn o 5%;
- Hawliad mamolaeth a thadolaeth hael a budd-dal marw yn y swydd;
- 2 awr y mis ar gyfer iechyd a lles cyffredinol a 2 awr y mis ar gyfer hyfforddiant yn y Gymraeg.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9yb 17 Gorffennaf 2026
Cyfweliadau i’w cynnal: yr wythnos yn dechrau 27 Gorffennaf 2026 (ar safle)
Dyddiad cychwyn disgwyliedig: cyn gynted ag sy’n bosib
Trosolwg o’r Rôl
Mae Troi’r Llanw / Turning The Tide yn brosiect tair blynedd, ledled Cymru (dwyieithog), a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gyda’r nod o normaleiddio gwaith hinsawdd dan arweiniad y gymuned ac ymatebion i newid hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol, gan sicrhau bod lleisiau sydd wedi’i ymyleiddio yn llunio penderfyniadau amgylcheddol, a helpu pobl i deimlo’n gryfach yn wyneb yr argyfwng hinsawdd. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen ochr yn ochr â Cwmpas, Youth Cymru, Mentrau Iaith Cymru, a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST).
Mae rôl y Swyddog Cyfathrebu Prosiect yn rhan allweddol o’r prosiect hwn, a bydd yn arwain gweithgarwch cyfathrebu a rhannu gwybodaeth er mwyn ysbrydoli gweithredu a hysbysu polisi. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar greu cynnwys gweledol ac ysgrifenedig dwyieithog o ansawdd uchel ar draws amrediad o gyfryngau, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, cynnwys fideo, cynnwys ar y we, negeseuon e-bost hyrwyddo, deunyddiau argraffedig, datganiadau i’r wasg, cynnwys blogiau ac erthyglau nodwedd.
Gan weithio fel rhan o brosiect Troi’r Llanw / Turning The Tide, byddwch yn hyderus wrth greu cynnwys ysgrifenedig yn Gymraeg ac yn Saesneg ar gyfer gwahanol blatfformau a chyhoeddiadau, yn ogystal â chofnodi a rhannu dirnadaeth gymunedol, canlyniadau, dysgu a gweithredu arloesol i’w rannu gyda chynulleidfaoedd y prosiect.
Bydd y rôl yn darparu cymorth er mwyn hyrwyddo holl feysydd y prosiect, gan gynnwys gweithio gyda phartneriaid, helpu gyda rhestriadau ar-lein a hysbysebu arall, cynorthwyo gyda digwyddiadau yn CyDA ac mewn mannau eraill.
Bydd rôl y Swyddog Cyfathrebu Prosiect yn gwneud cyfraniad uniongyrchol i ganlyniadau’r prosiect, gan gynnwys cynyddu gwelededd, ymgysylltu gyda ac effaith y prosiect, cynorthwyo gweithgarwch rhannu gwybodaeth, ac ysbrydoli gweithredu a hysbysu polisi.
Bydd gennych chi brofiad o ysgrifennu copi a golygu, a gallu amlwg i addasu eich copi i fod yn addas i wahanol lwyfannau a chynulleidfaoedd, yn ogystal â sgiliau prawfddarllen cadarn a llygad dda am y manylion.
Rydym yn aml yn gweithio yn unol â therfynau amser tynn, felly byddwch yn hapus i weithio’n gyflym ac yn effeithiol i greu cynnwys cadarn ac a fydd yn cael effaith, gan gefnogi’r strategaeth farchnata a chyfathrebu.
Mae hon yn rôl allweddol wrth helpu i gynorthwyo a hyrwyddo cenhadaeth CyDA i ysbrydoli, hysbysu a galluogi dynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.
Prif Ddiben a Chyfrifoldebau’r swydd
Dyletswyddau cyffredinol
- Cyfrannu at waith cynllunio a’r strategaeth farchnata a chyfathrebu.
- Cyfrannu at waith marchnata a chyfryngau ar draws CyDA yn ôl y gofyn.
- Cynnig cymorth a chyflenwi yn lle eraill yn y tîm yn ôl y gofyn.
- Cynnig cymorth gyda dyletswyddau gweinyddol gan gynnwys codio anfonebau, taflenni amser a’r holl waith papur arall.
- Unrhyw ddyletswyddau priodol eraill a ddiffinnir gan Reolwr y Prosiect a’r Cyd Benaethiaid Marchnata a Chyfathrebu
- Cyfrannu at gynllun marchnata a chyfathrebu y prosiect, gan gynnwys Sicrhau a chreu cynnwys o ansawdd uchel i gynorthwyo cynllunio cyfathrebu a marchnata.
Dyletswyddau Penodol y Swyddog Cyfathrebu Prosiect
- Creu ac adrodd straeon ysbrydoledig am effaith y prosiect a thu hwnt.
- Ysgrifennu, golygu copi a phrawfddarllen cynnwys dwyieithog o ansawdd uchel sy’n gysylltiedig â’r prosiect, gan gynnwys blogiau ac erthyglau ar gyfer platfformau allanol ac sy’n eiddo i CyDA.
- Cynllunio a chofnodi cynnwys dwyieithog ar ffurf fideos a lluniau o weithgareddau’r prosiect yn CyDA ac mewn mannau eraill at ddibenion ymgyrchoedd cyfathrebu a hyrwyddo.
- Cyfrannu at waith marchnata a chyfryngau y prosiect yn ôl y gofyn.
- Rheoli a sicrhau cynnwys ar gyfer yr hyb gwybodaeth digidol.
- Cynorthwyo pob agwedd ar hyrwyddo’r prosiect, gan gynnwys mynychu digwyddiadau a ffeiriau, gosod hysbysebion a diweddaru rhestriadau ar-lein, a gwneud gwaith hyrwyddo trwy gyfrwng rhestrau post allanol, taflenni hysbysebu, posteri ac ysgrifennu cyflwyniadau.
- Gweithio gyda Dylunydd Digidol ac Argraffu CyDA er mwyn helpu i greu deunydd hysbysebu argraffedig a digidol.
- Gweithio gyda Swyddog Marchnata Digidol CyDA er mwyn rheoli cynnwys CyDA ar y we.
- Cydweithio’n agos gyda phartneriaid y prosiect er mwyn sicrhau bod gweithgarwch cyfathrebu mor effeithiol ag y bo modd.
- Bod yn ymwybodol o’r materion a’r datrysiadau amgylcheddol diweddaraf.
- Cyflawni tasgau gweinyddol dyddiol er mwyn cynorthwyo gweithgareddau cyfathrebu y prosiect.
I ddysgu mwy am y rôl, lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn:
Dylid anfon ceisiadau ymlaen at vacancy@cat.org.uk erbyn y dyddiad cau sy’n nodi teitl y swydd yn y llinell Pwnc.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at vacancy@cat.org.uk
Rhaid llenwi ffurflen gais, ni dderbynnir CV.https://cat.org.uk/vacancies/
Disgrifiad Swydd: Swyddog Cyfathrebu Prosiect
