Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr CyDA yn chwilio am Ymddiriedolwyr newydd sy’n meddu ar sgiliau penodol. Rydym yn chwilio am unigolion o gefndiroedd amrywiol sy’n teimlo’n angerddol am genhadaeth CyDA ac y mae ganddynt ddiddordeb mewn cefnogi cam datblygu nesaf yr elusen.
Mae hwn yn gyfnod pwysig a heriol i ymuno, wrth i CyDA barhau i roi sylw i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth brys, a hefyd, wrth iddi symud ymlaen gyda chynlluniau i ailddatblygu ei safle eiconig yng Nghanolbarth Cymru a gweithredu ei strategaeth 5 mlynedd er mwyn ehangu ei gwaith allgymorth ac addysg. Mae’r sefydliad yn mynd trwy gyfnod o newid yr arweinyddiaeth weithredol hefyd, gan greu cyfle unigryw i’r Bwrdd gyfrannu at y gwaith o siapio ei chyfeiriad yn y dyfodol.
Estynnir croeso i ymgeiswyr sydd â phrofiad o’r sector preifat, y sector cyhoeddus neu’r sector elusennol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unigolion sy’n gallu gwneud cyfraniad uniongyrchol at gryfhau systemau a phrosesau ariannol a chyfrifyddu, yn ogystal ag adnoddau dynol ac arbenigedd cyfreithiol, er mwyn helpu i dywys yr elusen trwy ei cham nesaf.
Mae’r sgiliau yr ydym yn dymuno eu hychwanegu i’r Bwrdd fel a ganlyn:
- Cyllid/cyfrifyddu, cyfrifydd cymwys yn ddelfrydol
- Adnoddau dynol, cyfraith cyflogaeth a rheoli newid
- Profiad o arwain, llywodraethu a rheoli prosiectau ar gyfer elusen sy’n trawsnewid
- Gwybodaeth am y tirlun gwleidyddol ac economaidd yng Nghymru
Fel rhan o’r broses o adfywio’r Bwrdd, rydym yn chwilio am gadeiryddion newydd ar gyfer rhai o is-bwyllgorau’r Bwrdd. Mae profiad o gadeirio, neu barodrwydd i arwain swyddogaethau allweddol y Bwrdd, yn ddymunol.
Bydd ymddiriedolwyr sy’n ymuno nawr yn cael y cyfle i gyfrannu yn ystod cyfnod o bennu ffocws o’r newydd a chynllunio ar gyfer y dyfodol, gan weithio gyda Bwrdd a thîm arwain ymroddedig i ddatblygu’r cynnydd a sicrhawyd yn ddiweddar a safle CyDA er mwyn cael effaith dros y tymor hir.
I fynegi diddordeb mewn bod yn ymddiriedolwr, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol byr mewn neges e-bost at [email protected] erbyn 30 Tachwedd 2026. Estynnwyd y dyddiad cau o’r dyddiad cau gwreiddiol, sef dydd Gwener 30 Hydref 2026.
Byddwn yn recriwtio dan drefniant treigl ac rydym yn cadw’r hawl i gau’r hysbyseb yn gynnar.
Gallwch ddysgu mwy a gweld y pecyn recriwtio
Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwyr 2026
