Bob blwyddyn, mae cannoedd o fyfyrwyr ysgol o bob cwr o’r DU yn ymweld â Ganolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) i weld atebion cynaliadwy ar waith.
Ers dros bedwar degawd, mae CyDA wedi bod yn ysbrydoli pobl o bob oed i ddychmygu a chreu dyfodol mwy cynaliadwy, ond ychydig o ysgolion all gyfateb i etifeddiaeth Ysgol Solefield yng Nghaint.
Diwrnod ysbrydoledig allan yn CyDA
Bellach yn ei ddeugain flwyddyn, mae taith flynyddol yr ysgol i CyDA wedi dod yn rhan boblogaidd iawn o gwricwlwm Blwyddyn 7, gan gynnig cyfle i gamu allan o’r ystafell ddosbarth a chael profi cynaliadwyedd yn y fan a’r lle.
“Mae dod i CyDA yn caniatáu i fyfyrwyr weld cynaliadwyedd mewn bywyd go iawn,” meddai Kevin Farmery, Pennaeth Gwyddoniaeth Solefield. “Gallaf ddysgu hyn i gyd iddyn nhw yn y labordy gwyddoniaeth, ond yma, maen nhw’n cael ei weld yn dod yn fyw. Mae hynny’n cael effaith wirioneddol. Efallai y byddan nhw’n anghofio diagram neu ddiffiniad, ond flwyddyn yn ddiweddarach, maen nhw’n dal i siarad am yr hyn a welsant a’r hyn y wnaethom yma.”

O ddysgu am systemau ynni adnewyddadwy a dulliau adeiladu effaith isel i archwilio compostio, defnydd dŵr, a chynilo ynni, cyflwynir myfyrwyr i enghreifftiau go iawn o sut y gallwn leihau ein heffaith amgylcheddol a byw’n fwy cynaliadwy.
Gofynnon ni i CyDA deilwra’r diwrnod i ganolbwyntio ar syniadau allweddol fel ynni adnewyddadwy, sut y gall adeiladau gadw gwres, compostio, a thyfu eich bwyd eich hun,” eglura Kevin. “Roedd y daith a gawson ni eleni, dan arweiniad Joel, yn ardderchog. Fe wnaeth dynnu sylw at y ffyrdd ymarferol y mae pobl yn lleihau’r defnydd o ynni mewn cartrefi – fel defnyddio 45cm o inswleiddiwr i leihau’r galw am wresogi gan ddeg gwaith. Dyma’r mathau o syniadau sy’n aros gyda myfyrwyr.”
Yn ogystal â thaith dywys o amgylch safle unigryw CyDA, cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithdy ymarferol ar ynni gwynt – gan gysylltu dysgu yn yr ystafell ddosbarth â datrys problemau yn y byd go iawn. Mae’r profiadau rhyngweithiol hyn wedi’u cynllunio i ennyn chwilfrydedd a rhoi’r offer i bobl ifanc feddwl yn wahanol am y dyfodol.
Mae’r effeithiau’n hir-dymor
“Daeth un myfyriwr yn ôl ataf flynyddoedd ar ôl y daith yma i ddweud ei bod wedi’i ysbrydoli i ddilyn peirianneg gynaliadwy,” cofia Kevin. “Ers hynny mae wedi mynd ymlaen i astudio Peirianneg Gynaliadwy yn y Brifysgol ac mae bellach wedi cymhwyso’n llawn ac yn gwneud yn dda yn y maes.”
Mae’r ymweliad yn ysbrydoli athrawon hefyd. “Bob blwyddyn rwy’n dod, rwy’n dysgu rhywbeth newydd,” medd Kevin. “Ac rwy’n mynd â hynny yn ôl i’r ystafell ddosbarth, gan ei blethu i mewn i sut rwy’n dysgu. Mae hefyd yn dylanwadu ar sut rwy’n byw. Rwyf wedi creu tair ardal gompostio yn fy ngardd, yn tyfu llysiau, ac yn gwrteithio gan ddefnyddio fy nghompost fy hun. Mae’r meddylfryd hwnnw wedi tyfu o fy mhrofiadau yn CyDA.”
Drwy ddarparu gofod ble gall pobl ifanc weld syniadau cynaliadwy ar waith a’u cysylltu â’u bywydau eu hunain, mae CyDA yn helpu ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithredwyr newid. Gyda phob ymweliad, mae’r effeithiau’n lledaenu – i ysgolion, cartrefi, cymunedau a gyrfaoedd.
Dewch a’ch ysgol i CyDA
I archwilio sut y gall eich ysgol elwa o ymweliad i CyDA, gan gynnwys teithiau a gweithdai wedi’u teilwra ar gyfer dosbarth o unrhyw oedran, ewch i cy.cat.org.uk/dewch-i-cyda/grwpiau-a-dysgu/ neu anfonwch e-bost i education@cat.org.uk.

