dŵr

Ystyriaethau Mawr a Gweithredoedd Bychain – gwneud argraff yn ystod cyfnod cymhleth

A oes modd i wyddor cymhlethdod ein helpu i ddeall sut i gydweithio er mwyn creu byd tecach a mwy cynaliadwy?  Mae Jean Boulton, sy’n awdur ac a fydd yn siarad yng Nghynhadledd CyDA, yn archwilio…

Mae ein cymunedau yn cael eu siapio’n gynyddol gan rymoedd byd-eang – o bandemigau a newid hinsawdd i wrthdaro geo-wleidyddol, gwahaniaethu ac effeithiau pellgyrhaeddol polisïau economaidd neoryddfrydol.  Mae rhai o’r heriau hyn – megis dylanwad y rhyngrwyd, y cynnydd yn nifer y digwyddiadau tywydd eithafol, a lledaeniad cyflym clefydau – yn rhai o natur gwirioneddol byd-eang.  Efallai bod eraill, megis effaith y rhyfel yn Wcráin ar argaeledd gwenith, neu effaith y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol ar Gamlas Suez, wedi’u hymwreiddio mewn rhanbarthau penodol, ond eto, maent yn effeithio ar y byd cyfan.

Mae’r argyfyngau a’r amodau byd-eang hyn yn siapio ac yn cymhlethu polisïau llywodraethau cenedlaethol hefyd – mewn perthynas â thwf, trethi, democratiaeth, blaenoriaethau gwario;  maent hefyd yn effeithio ar ymatebion y sector corfforaethol.

Ond er hyn, i nifer ohonom, y man lle’r ydym yn teimlo y gallwn wneud gwahaniaeth yw yn ein cymunedau lleol, lle’r ydym yn byw.

Jean Boulton

Meddwl am Gymhlethdod mewn Byd Cymhleth

Mae Jean Boulton, cyfrannwr rheolaidd yn CyDA ac arbenigwr blaenllaw mewn gwyddor cymhlethdod, yn archwilio’r cwestiynau hyn.  Daeth gwyddor cymhlethdod i’r amlwg yn ystod y ganrif ddiwethaf, o waith ffisegwyr a biolegwyr sy’n ceisio deall sut y mae systemau byw – o organebau i ecosystemau – yn ymddangos, yn sefydlogi, ac weithiau yn colli rheolaeth.  Mae hefyd yn helpu i esbonio sut y gall systemau sy’n cael eu rheoli gan rymoedd pwerus golli amrywiaeth, mynd yn anystwyth, a wynebu chwalfa.

Nid yw’r ddirnadaeth hon yn berthnasol i’r byd naturiol yn unig, ond i’n systemau cymdeithasol hefyd.  Mae’n amlygu pwysigrwydd cysylltiad, perthynas, a chynwysoldeb wrth feithrin cydnerthedd.  Nid yw sefydlogrwydd, yn y safbwynt hwn, yn ymwneud â rheolaeth neu gynllunio o’r brig i lawr – mae’n ddynamig ac yn esblygu’n gyson.

Archwilio Diogelwch Bwyd yn CyDA

Yn ddiweddar, bu Jean yn gweithio gyda grŵp o fyfyrwyr yn CyDA i archwilio diogelwch bwyd.  Yn gyntaf, bu’r myfyrwyr yn trafod byd-olwg cymhlethdod.  Aeth Jean ymlaen i’w cyflwyno i ddull er mwyn cysylltu’r byd-eang a’r lleol ac archwilio’r ffordd y mae’r gorffennol yn siapio’r presennol a’r ffordd y mae’r presennol yn siapio’r dyfodol, er mwyn nodi ffactorau allweddol a datblygu atebion creadigol.

Coleddu Cymhlethdod mewn Bywyd Bob Dydd

Felly, beth mae coleddu cymhlethdod yn ein bywydau bob dydd yn ei olygu?  Yn gyntaf, mae angen i ni ofyn:  beth yw’r patrymau sefydlog yr ydym yn eu gweld o’n cwmpas – mewn diwylliant, perthnasoedd, a ffyrdd o weithio?  Sut mae’r patrymau hyn wedi datblygu, a pha mor sefydlog y maent yn ymddangos?

Ar yr un pryd, mae angen i ni fod yn effro i arwyddion newid – y “sbrigau newydd” neu “graciau yn y ffabrig” sy’n awgrymu trawsnewid neu hyd yn oed chwalfa.  Mae coleddu cymhlethdod yn golygu dal paradocs:  adnabod yr hyn ydyw, gan synhwyro’r hyn y mae’n datblygu i fod hefyd.  Mae athroniaeth Taoaeth yn sôn am fod yn ystyriol o “ddechrau’r dechrau” – gan sylwi ar newidiadau cynnil a phosibiliadau sy’n dod i’r amlwg.

Nid yw deall y presennol – hyd yn oed yn ei natur systemig, rhyng-gysylltiedig – yn ddigon.  Rhaid i ni roi sylw i’r “mân fanylion” hefyd, fel y nododd William Blake.  Mae angen i ni sylwi ar yr hyn sy’n newydd, yr hyn sy’n dirywio, yr hyn sy’n bosibl, a’r annisgwyl.

Cyd-gerdded y Llwybr

Yn ei llyfr, The Dao of Complexity, mae Jean yn archwilio’r cyseinedd rhwng gwyddor cymhlethdod a chosmoleg Taoaeth, a ddaeth i’r amlwg yn y bumed ganrif Cyn yr Oes Gyffredin yn Tsieina.  Syniad canolog yw bod “y llwybr yn cael ei greu trwy gerdded” – rydym yn cyd-greu’r dyfodol hwn trwy ein gweithredoedd a’n bwriadau ar y cyd.  Nid oes un ffordd gywir ymlaen.  Caiff y dyfodol ei siapio gan yr hyn y byddwn yn ei ddewis a’r hyn a wnawn.

Os ydym yn dymuno cael dyfodol cydnerth ar y blaned hon sy’n hynod o ryng-gysylltiedig, rhaid i ni weithredu gan ystyried y cyfan – gyda gofal ar gyfer ein gilydd, ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac ar gyfer y Ddaear.

Yn ystod y cyfnod hwn o begynu, anghydraddoldeb cynyddol, a lle y mae’r hinsawdd yn chwalu yn cyflymu, a system economaidd sy’n seiliedig ar unigoliaeth, nid yw’r negeseuon hyn fyth wedi bod yn fwy perthnasol.

Gweithredu ar y Raddfa Briodol

Nid oedd E.F. Schumacher yn dymuno galw ei lyfr yn Small is Beautiful – roedd yn well ganddo ef ‘Work at the Appropriate Scale’.  Er nad yw mor gofiadwy efallai, mae’n adlewyrchiad mwy cywir o’r her yr ydym yn ei hwynebu efallai.

Rhaid i ni ofyn:

Sut allwn ni weithredu’n lleol gan gadw’r elfen ranbarthol a’r byd-eang mewn cof?

Sut allwn ni ddefnyddio ein grym lleol i ddylanwadu i fyny a chreu undod ar draws cymunedau?

Sut ydym yn sicrhau cydnerthedd a charennydd, gan ddiogelu natur unigryw ein hadnoddau lleol mewn byd lle y gwelir breuder ac anrhefn cynyddol?

Mae’r rhain yn gwestiynau y mae’n rhaid i ni barhau i’w harchwilio gyda’n gilydd.

Awdur

Mae Jean Boulton yn wyddonydd cymhlethdod, yn awdur, yn academydd ac yn Gymrawd Sefydliad Schumacher. Mae hi’n siaradwr gwadd yng Nghynhadledd CyDA.