Arlwyo

Arlwyo

Gyda bwydlen hollol lysieuol neu fegan a llawer o’n cynhwysion ardderchog yn cael eu tyfu yn rhandiroedd CyDA, rydym yn wirioneddol yn deall pwysigrwydd bwyd da! Gellir addasu bwydlenni blasus i ateb anghenion eich grŵp a pharatoir y bwyd i gyd yn ffres ar y safle.

Gall grwpiau ysgolion ac ieuenctid ddewis bwffe syml addas i blant neu gallwn wneud pecynnau bwyd i grwpiau sydd allan yn y maes.

“yn syth o’r pridd i’r plât”

Gyda gerddi sy’n llawn o gynnyrch tymhorol a thîm o arddwyr a gwirfoddolwyr brwd i dyfu a chynaeafu’r cnydau, mae’r gegin yn defnyddio perlysiau, salad a llysiau a ddaw yn syth o’n pridd ni i’ch plât chi. Lle y bo’n bosib, mae unrhyw gynhwysion nad ydynt yn dod yn syth o’n rhandiroedd organig ni ein hunain yn dod o ffynonellau lleol neu fasnach deg organig.