Gweithdy Adeiladu Cynaliadwy
Mae cynhyrchu concrit yn gyfrifol am oddeutu 6% o allyriadau CO2 y byd.
Mae’r gweithdy hwn yn ymchwilio i opsiynau carbon isel y gellir eu defnyddio yn lle concrit a deunyddiau adeiladu cyffredin eraill. Mae’n gwneud defnydd llawn o gasgliad unigryw CyDA o adeiladau cynaliadwy ac mae hefyd yn cwmpasu nodweddion y deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen wrth gynllunio adeiladau.
Gwybodaeth allweddol
- Parhau am 90 munud
- Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 – 4, lefel A gyda gweithgareddau cyfoethogi
- Canolbwyntio ar bynciau STEM
- Mae’r gweithdy’n cynnwys mynediad i safle allanol CyDA ac mae esgidiau a dillad awyr agored sy’n addas ar gyfer gwaith ymarferol yn hanfodol.
- Gellir ymestyn y gweithgaredd drwy ei gysylltu â gweithdai adeiladu eraill megis adeiladu byrnau gwellt a phontydd.
Braslun o’r gweithdy
Beth sy’n digwydd?
Bydd y gweithdy’n cychwyn gyda thaith dywysedig o amgylch yr adeiladau cynaliadwy ar y safle. Anogir disgyblion i feddwl am nodweddion y gwahanol ddeunyddiau sydd eu hangen wrth adeiladu Yna fe’i cyflwynir i ddeunyddiau amgen gydag ôl troed carbon isel y gellir eu defnyddio yn lle’r rhai a ddefnyddir amlaf heddiw, ynghyd â chysyniadau ynni ymgorfforedig ac etifeddiaeth.
Caiff y disgyblion drafod a didoli amryw o ddeunyddiau ynni ymgorfforedig isel. Wedyn cynhelir gweithgaredd ymarferol yn defnyddio pridd wedi ei gywasgu. Mae gan Theatr Sheppard ar safle CyDA y waliau pridd cywasgedig uchaf ym Mhrydain, wedi eu gwneud allan o 320 tunnell fetrig o bridd wedi ei raddio!
Lleoliad
Cynhelir y gweithdy hwn ar brif safle CyDA.
Sgiliau a Chysylltiadau Cwricwlwm
Bydd y gweithdy Adeiladu Cynaliadwy yn galluogi disgyblion i:
- Ennill dealltwriaeth am ffactorau sy’n effeithio’r dewis o ddeunyddiau wrth gynllunio adeiladau.
- Dod yn gyfarwydd â chysyniad ‘ynni ymgorfforedig’ a’r materion etifeddiaeth sy’n codi ar ddiwedd oes adeilad.
- Ennill profiad ymarferol o wneud adeileddau allan o bridd sydd wedi ei raddio a’i gywasgu.
Gweithgareddau Cyfoethogi:
Gellir ymestyn y gweithdy hwn drwy ei gysylltu â gweithgareddau adeiladu eraill.
Adeiladu â Byrnau Gwellt
- Addas ar gyfer lefel A.
- Parhau am 90 munud (hyd at 10 disgybl) – £240
- Parhau am hanner diwrnod (hyd at 10 disgybl) – £400
Adeiladu gyda Phridd
- Addas ar gyfer lefel A.
- Gellir ei gyflwyno fel sesiwn rhagarweiniol (2 awr) neu weithdy hirach.
- Bydd disgyblion yn helpu i adeiladu ffurf ac yn cydweithio gyda’i gilydd i adeiladu wal o bridd wedi ei gywasgu gan ddefnyddio technegau traddodiadol.
- Sesiwn rhagarweiniol £140 (hyd at 15 disgybl).
- Gweithdy hanner diwrnod £280 (hyd at 15 disgybl).
Adeiladu Pontydd
- Gellir ei addasu ar gyfer amryw o grwpiau oed o Gyfnod Allweddol 2 – 4 i lefel A.
- Parhau am 90 munud.
- £60 y sesiwn (hyd at 20 disgybl) ar gyfer gweithgaredd pont top bwrdd.
- £240 y sesiwn (hyd at 12 disgybl) ar gyfer pontydd pren ar raddfa fawr (hanner diwrnod).
- Profir pob cynllun pont hyd at ddinistriad.
- Gweithgaredd ardderchog ar gyfer meithrin gwaith tîm.
Cysylltu â Ni
Cysylltwch â ni i archebu lle neu i ddysgu mwy.