Y Tri Mochyn Bach
Ymchwilio ac archwilio sut i wneud adeilad cynaliadwy i gadw’r moch yn ddiogel!
Mae’r gweithdy rhyngweithiol hwn, sy’n gyfuniad o adrodd straeon a gwyddoniaeth, yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Sylfaenol. Mae’n cynnwys ymweliad â thŷ gwellt CyDA!
Gwybodaeth allweddol:
- Parhau am 1 awr.
- Addas ar gyfer y Cyfnod Sylfaenol (Derbyn, Bl 1, Bl 2).
- Canolbwyntio ar Lythrennedd, Rhifedd, Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd, Datblygiad Creadigol.
- £60 y sesiwn (hyd at 20 disgybl).
Braslun o’r Gweithdy
Beth sy’n digwydd?
Bydd y disgyblion yn archwilio yn y goedwig ar hyd llwybr chwarel. Byddant yn aros mewn llannerch i adrodd chwedl draddodiadol y Tri Mochyn Bach gan ddefnyddio pypedau a deunydd naturiol. Bydd y disgyblion yn ymchwilio i’r deunydd a ddefnyddiwyd yn y stori cyn parhau ar hyd y llwybr i ddarganfod ac archwilio adeiladau a wnaed o wellt a phren sy’n gynaliadwy ac nad ydynt yn cael eu chwythu i lawr!
Lleoliad
Cynhelir y gweithdy hwn ar hyd Llwybr Chwarel, os yw’r tywydd yn caniatau. Mewn tywydd gwael, fe’i gynhelir yn y Theatr Byrnau Gwellt a bydd disgyblion yn archwilio llwybrau a deunydd ar ein prif safle.
Sgiliau a Chysylltiadau Cwricwlwm
Mae’r gweithdy hwn yn galluogi disgyblion i:
- Ddeall nodweddion deunydd cyffredin.
- Archwilio amgylchedd naturiol.
- Ailadrodd chwedl draddodiadol, ar lafar a thrwy ddrama.
- Ymchwilio i ddeunydd cynaliadwy a dysgu am broblemau amgylcheddol a’r atebion iddynt.
Lluniwyd y gweithdy i alluogi athrawon i ddatblygu dealltwriaeth am y byd naturiol a phwysigrwydd gofalu amdano. Bydd disgyblion yn ystyried angen dyn am gysgod a lle diogel ac yn ymchwilio i adeiladu gwyrdd a chynaliadwy fel dewis amgen i adeiladu confensiynol. Bydd hefyd yn gyfle i ddatblygu sgiliau ysgrifennu stori ar ôl dychwelyd i’r ysgol.
Gwybodaeth ymarferol:
- Cynhelir y gweithdy mewn coedwig ac mae esgidiau cryf a dillad glaw yn hanfodol. Mewn tywydd twym dylid gwisgo hetiau haul.
- Gellir addasu lleoliad y gweithdy ar gyfer disgyblion â symudedd cyfyngedig.