Aerial Footage of the CAT site in winter

Strategaeth a Rheolaeth

Home » Strategaeth a Rheolaeth

Gweledigaeth a Chenhadaeth CyDA

Gweledigaeth CyDA yw dyfodol cynaliadwy i’r ddynoliaeth gyfan fel rhan o fyd naturiol ffyniannus.

Cenhadaeth CyDA yw ysbrydoli, hysbysu a galluogi’r ddynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Cynllun Strategol

Mae ein Cynllun Strategol 2020-2025 yn amlinellu rôl unigryw CyDA, ein ffyrdd o weithio a’n blaenoriaethau allweddol wrth i ni weithio gyda’n gilydd i wireddu’r weledigaeth a’r genhadaeth hon.

Aerial view across the CAT site towards hills

Sut rydym yn cael ein rhedeg

Mae Elusen Canolfan y Dechnoleg Amgen Cyf yn elusen addysgol gofrestredig sydd wedi ymrwymo i ymchwilio i atebion cadarnhaol i newid hinsawdd, ac i’w rhannu.

Mae gwaith CyDA yn digwydd diolch i dîm o weithwyr a gwirfoddolwyr profiadol ynghyd â chymuned ehangach o fyfyrwyr, graddedigion, ymwelwyr, aelodau a chefnogwyr – i gyd wedi ymroddi’n llwyr i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Wrth wraidd y sefydliad mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr, sy’n dod ag ystod eang o brofiad i’n helpu i oruchwylio ein pwrpas cyffredinol.

Mae’r Bwrdd yn gweithio’n agos gydag Uwch Dîm Rheoli CyDA er mwyn arwain ein staff a’n gwirfoddolwyr ymroddedig wrth gyflawni ein cenhadaeth.

Mae Memorandwm ac Erthyglau Sefydlu CyDA yn rhoi mwy o fanylion am ein hamcanion elusennol a sut y rheolir y sefydliad.

Cwestiynau Cysylltiedig

Sut yr ariennir ni

Mae CyDA yn dibynnu ar haelioni cefnogwyr unigol ac ar grantiau a rhoddion gan ymddiriedolaethau a sefydliadau am tua hanner ein hincwm blynyddol craidd.

Caiff gweddill ein hincwm craidd ei sicrhau trwy gyfrwng amrediad o weithgareddau, gan gynnwys cyrsiauymweliadau grŵpllogi’r lleoliad a llety, a phryniannau o’n Siop Eco.

Am ragor o wybodaeth am sut y cawn ein hariannu a sut rydym yn gwario’r incwm hwn, gallwch lawrlwytho ein cyfrifon statudol:

Looking across the CAT site