Mae hwn yn gyfle i unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant, weithio yn ein Tîm Codi Arian gwych a medrus, mewn cyfnod cyffrous o dwf uchelgeisiol. Mae’r rôl yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau a phrofiad codi arian gydag ymddiriedolaethau a sefydliadau.
Ynghylch CyDA
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol ac addysgiadol rhyngwladol enwog, yn ganolfan eco sy’n arwain y byd ac yn un o brif ddarparwyr addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, sydd wedi’i lleoli ger Machynlleth ym Mhowys, Canolbarth Cymru.
Mae CyDA yn darparu ysbrydoliaeth, addysg a hyfforddiant ar atebion i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.
Mae’r prif weithgareddau’n cynnwys, cyrsiau byr a digwyddiadau wyneb yn wyneb, ar-lein a phreswyl, hyfforddiant galwedigaethol a graddau ôl-raddedig mewn ystod eang o bynciau’n ymwneud â chynaliadwyedd,
Mae ein Gwasanaeth Gwybodaeth rhad ac am ddim yn cynnig cyngor i unigolion, ac mae ein tîm Prydain Di-garbon yn cyhoeddi gwaith ymchwil ac yn gweithio’n uniongyrchol gyda chynghorau, cymunedau a sefydliadau eraill i’w helpu i drawsnewid systemau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol cymhleth.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i ymuno â’r sefydliad, yn enwedig ar gyfer codwr arian sy’n canolbwyntio ar ymddiriedolaethau a sefydliadau. Yn ddiweddar, dechreuodd Canolfan y Dechnoleg Amgen ar gyfnod cyffrous yn ei datblygiad, gan lansio ymgyrch codi arian cyfalaf gwerth £20 miliwn i adfywio ein canolfan ymwelwyr. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i ddeiliad y swydd gefnogi gwaith ar geisiadau am gyllid proffil uchel, gan ennill profiad amhrisiadwy i ddatblygu eu nodau gyrfa
Manylion y Swydd
- Cyfeirnod: FOFT240326
- Oriau: Amser llawn: 37.5 awr yr wythnos.
- Atebol i: Rheolwr Codi Arian
- Cyfrifol am: Goruchwylio gwirfoddolwyr
- Lleoliad: Hyblyg: gweithio gartref gydag ymweliadau rheolaidd â chanolfan eco CAT ger Machynlleth.
- Diwrnodau gweithio: O ddydd Llun i ddydd Gwener fel arfer, mae’r oriau craidd rhwng 10am a 4pm. Gweithio ar benwythnosau a gyda’r nos o bryd i’w gilydd.
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9yb 19 Ebrill 2024
- Cyfweliadau i’w cynnal: wythnos yn dechrau 22 Ebrill 2024 (ar safle)
- Dyddiad dechrau disgwyliedig: cyn gynted ag sy’n bosib
Cyflog a buddion gweithiwr:
£24,886 y flwyddyn
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) yn cynnig lwfans gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau banc (9-10 diwrnod fel arfer), a lwfans ychwanegol adeg y Nadolig (3 diwrnod fel arfer), yn ogystal ag 1 diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn a weithir (hyd at 5 diwrnod).
Mae CAT hefyd yn cynnig pecyn deniadol o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:
- Cinio poeth am ddim a diodydd poeth am ddim o’r caffi pryd bynnag y byddwch yn gweithio o ganolfan eco CAT;
- Gostyngiad o 40% ar nwyddau manwerthu a brynir oddi wrth CAT;
- Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant DPP, cymwysterau ac aelodaeth broffesiynol i’w hariannu gan CAT;
- Cyfle i ddilyn 2 gwrs byr CAT y flwyddyn yn rhad ac am ddim;
- Y cyfle i brynu diwrnodau gwyliau ychwanegol;
- Cynllun ‘Seiclo i’r Gwaith’ (wedi’i gynllunio);
- Cyfraniad pensiwn o 5%;
- Hawliad mamolaeth a thadolaeth hael a budd-dal marw yn y swydd;
- 2 awr y mis ar gyfer iechyd a lles cyffredinol a 2 awr y mis ar gyfer hyfforddiant yn y Gymraeg.
Trosolwg o’r Rôl
Mae hwn yn gyfle i unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant, weithio yn ein Tîm Codi Arian gwych a medrus, mewn cyfnod cyffrous o dwf uchelgeisiol. Mae’r rôl yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau a phrofiad codi arian gydag ymddiriedolaethau a sefydliadau.
Mae Tîm Codi Arian Canolfan y Dechnoleg Amgen yn gyfrifol am godi arian hanfodol ar gyfer gwaith craidd a phrosiect y Ganolfan, gan unigolion, ymddiriedolaethau a sefydliadau, ffynonellau statudol, grwpiau a sefydliadau. Mae hyn yn hanfodol i’r Ganolfan allu cyflawni ei chenhadaeth elusennol – i ysbrydoli, i roi gwybodaeth ac i alluogi pobl i weithredu ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan hanfodol yn y tîm hwn.
Er mwyn llwyddo i godi arian gan ymddiriedolaethau a sefydliadau, bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos gydag aelodau eraill o’r tîm ac yn cael eu cefnogaeth, gan gynnwys Rheolwr y Tîm Codi Arian, y Rheolwr Codi Arian ar gyfer Rhoddwyr a Chymynroddion Mawr a’r Pennaeth Rhaglenni a Chyllid Strategol. Gallant hefyd gefnogi aelodau’r tîm hyn os oes angen i godi arian o ffynonellau statudol, corfforaethol, grŵp neu unigol, gan gynnwys drwy helpu i drefnu digwyddiadau a gweminarau, ac efallai y bydd angen iddynt ddarparu gofal i gefnogwyr a chymorth gweinyddol i Swyddog Codi Arian arall.
Er mwyn ymgysylltu a chyflwyno strategaethau llwyddiannus ar gyfer codi arian gan ymddiriedolaethau a sefydliadau, bydd deiliad y swydd yn ymchwilio i ffynonellau perthnasol o incwm; yn atgyfnerthu’r wybodaeth hon am gyllid a phrosiectau ac yn darparu cefnogaeth ar gyfer gosod a monitro cyllidebau prosiectau; yn diweddaru’r llif prosiectau; yn ymchwilio, yn ymgysylltu ac yn datblygu cysylltiadau gyda darpar-roddwyr ac yn sicrhau stiwardiaeth; yn cyflwyno rhaglen dreigl o geisiadau; ac yn monitro a gwerthuso adborth. Byddant hefyd yn sicrhau bod rhoddwyr yn cael diolch ac yn cael y gydnabyddiaeth briodol, a sicrhau cydymffurfiaeth a pholisïau a gweithdrefnau Canolfan y Dechnoleg Amgen, gan gadw cofnodion a rheoli unrhyw ofynion adrodd.
Prif Gyfrifoldebau
Ymddiriedolaethau a sefydliadau:
- Gweithio gyda’r Rheolwr Codi Arian a’r Pennaeth Rhaglenni a Chyllid Strategol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau a chynlluniau codi arian gan ymddiriedolaethau a sefydliadau, gan gynnwys drwy archwiliad o ymddiriedolaethau a sefydliadau.
- Darparu cefnogaeth i arwain staff wrth ddatblygu prosiectau, gan gynnwys pennu cyllidebau, monitro ac adrodd
- Ymchwilio i ragolygon cyllido ymddiriedolaethau a sefydliadau.
- Cynnal a datblygu llif prosiectau ymhellach a rhaglen dreigl o geisiadau.
- Ymgysylltu, datblygu a chynnal perthynas gref ag ymddiriedolaethau a sefydliadau a chyrff cyllido statudol.
- Ymchwilio, cwblhau a chyflwyno ceisiadau grymus am gyllid, gan gysylltu’n agos â staff perthnasol yn y Ganolfan a, lle bo hynny’n berthnasol, sefydliadau partner.
- Sicrhau stiwardiaeth briodol dros gefnogwyr.
- Sicrhau bod cyllidwyr yn cael diolch a bod eu cefnogaeth yn cael ei chydnabod yn briodol.
- Sicrhau bod y broses ar gyfer adrodd ar grantiau yn cael ei monitro a bod timau’n deall eu rolau a’u cyfrifoldebau ar ôl sicrhau cyllid.
- Sicrhau bod ceisiadau am gyllid yn cael eu monitro a’u gwerthuso’n briodol.
- Sicrhau bod data a chofnodion yn cael eu diweddaru a bod staff yn dilyn arferion da.
- Cynorthwyo gyda hyfforddiant, datblygiad a chymhelliant staff, gan sicrhau bod yr holl staff yn derbyn hyfforddiant cynefino, iechyd a diogelwch a gofal cwsmeriaid digonol.
- Darparu cefnogaeth ar gyfer rheoli cyllidebau codi arian, gan gynnwys codio anfonebau ac incwm a monitro incwm a gwariant.
- Cyfrannu at adroddiadau Dangosyddion Perfformiad Allweddol rheolaidd.
- Cynnal gwybodaeth gywir a chyflawn am gronfeydd data codi arian yr ymddiriedolaethau.
Prosesu data a rheoli cyfathrebiadau:
- Rhoi cymorth i aelodau’r tîm os oes angen i godi arian gan ffynonellau statudol, corfforaethol, grŵp neu unigol, gan gynnwys drwy helpu i drefnu digwyddiadau a gweminarau.
- Darparu gofal i gefnogwyr a chefnogaeth weinyddol i’r Swyddog Codi Arian.
- Unrhyw ddyletswyddau priodol eraill fel y’u diffinnir gan y Rheolwr Codi Arian.
Dylid anfon ceisiadau ymlaen at vacancy@cat.org.uk erbyn y dyddiad cau sy’n nodi teitl y swydd yn y llinell Pwnc.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at vacancy@cat.org.uk
Rhaid llenwi ffurflen gais, ni dderbynnir CV.