Gwahoddiad i fynegi diddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr CYDA
Home » Gwahoddiad i fynegi diddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr CYDA
Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr CyDA yn ceisio datganiadau o ddiddordeb mewn bod yn ymddiriedolwr gan bobl sydd â phrofiad ym maes codi arian, cyfrifeg, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, tirlun gwleidyddol Cymru, cyfathrebu a/neu reolaeth sefydliadol.
Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol sy’n adnabyddus ar draws y byd, ac yn ganolfan eco flaenllaw yn y byd, ac yn un o ddarparwyr pennaf addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, sydd wedi’i lleoli ger Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru.
Mae ein Hymddiriedolwyr yn cynnig trosolwg strategol hanfodol o’n gwaith, nad yw fyth wedi bod mor bwysig ag y mae ar yr adeg hon lle y gwelir angen dybryd i gynnig datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.
Mae’r Bwrdd yn ceisio datganiadau o ddiddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr CyDA gan bobl sydd â phrofiad ym maes codi arian, cyfrifeg, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, tirlun gwleidyddol Cymru, cyfathrebu a/neu reolaeth sefydliadol. Siaradwyr Cymraeg yn ddymunol iawn.
Law yn llaw â’r sgiliau mwy arbenigol hyn, mae’r Bwrdd hefyd yn chwilio am gyflenwad eang o sgiliau ymddiriedolwyr cyffredinol, gan gynnwys ymrwymiad i weledigaeth a chenhadaeth y sefydliad.
Yn arbennig, byddem yn croesawu datganiadau o ddiddordeb gan ymgeiswyr iau, siaradwyr Cymraeg, a phobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.
Y dyddiad cau er mwyn cael datganiadau o ddiddordeb mewn bod yn ymddiriedolwr yw 31 Awst 2024.
I ddysgu mwy am y rôl a sut i ymgeisio, lawrlwythwch ein Gwybodaeth i Ddarpar Ymddiriedolwyr - 2024