Ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ymweliadau wedi’u trefnu ymlaen llaw yn unig (cyrsiau, digwyddiadau, Gwely a Brecwast, grwpiau, myfyrwyr) – darllen mwy
Ymweld â CyDA

Ymweld â CyDA


Home » Ymweld â CyDA

Mae CyDA ar agor ar gyfer cyrsiau, digwyddiadau arbennig, ymweliadau grŵp a myfyrwyr Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd, ond yn anffodus nid yw ar agor i ymwelwyr cyffredinol ar hyn o bryd.

Yn ystod cyfnod heriol i’r sector elusennau yn y DU, mae costau rhedeg cynyddol a niferoedd is o ymwelwyr i Gymru ar ôl y pandemig yn golygu nad yw hi’n ymarferol yn economaidd i ni barhau i gynnal y ganolfan ymwelwyr yn ei model presennol, er i ni wneud ein gorau glas i geisio cyflawni hynny.

Er bod drysau ein canolfan ymwelwyr ar gau i ymwelwyr cyffredinol am y tro, rydym yn parhau i ddarparu sgiliau gwyrdd ar gyfer y dyfodol trwy gyfrwng holl feysydd arall ein gwaith.

Nid yw hyn yn effeithio ar ein darpariaeth o gyrsiau byr ac Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd, nac ychwaith ar ein Hwb Prydain Di-garbon a’n Labordy Arloesi, sy’n caniatáu i ni barhau i rannu’r wybodaeth, y sgiliau a’r offerynnau gofynnol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a byd natur.

Yn ogystal, rydym yn parhau i groesawu ystod eang o grwpiau i CyDA, gan gynnwys ysgolion a phrifysgolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill.

Pan fydd lle gennym, gallwn gynnig cyfleuster llogi mannau cyfarfod a’r lleoliad a llety Gwely a Brecwast ar gyfer grwpiau ac unigolion.

Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo’n gryf i’n cynlluniau i ailddatblygu canolfan eco CyDA er mwyn creu mannau addysg a sgiliau newydd ac wedi’u hadnewyddu, llety ychwanegol, a phrofiad ysbrydoledig i ymwelwyr. Mae hyn yn golygu pan fyddwn yn ailagor i ymwelwyr cyffredinol, y byddwn yn gallu cyrraedd mwy o bobl. Mae amseriad hyn yn ddibynnol ar gyllid – cadwch olwg ar ein gwefan neu cofrestrwch i gael ein enewyddion am ddiweddariadau.

Am wybodaeth bellach, trowch at ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Os hoffech gefnogi ein gwaith wrth rannu sgiliau gwyrdd ar gyfer y dyfodol, gallwch wneud cyfraniad neu ymaelodi heddiw. Diolch.

Ymweliadau grŵp

Dewch â’ch ysgol, eich coleg, eich prifysgol, eich grŵp cymunedol, diwrnod cwrdd i ffwrdd eich tîm neu’ch grŵp teithio i CyDA.
Archebu ymweliad
spirit level

Cyrsiau byr

Cyfle i ddarganfod am ynni adnewyddadwy, dulliau adeiladu gwyrdd, rheoli coetiroedd, Llythrennedd Carbon, a mwy.
Darganfod mwy
Mae systemau ynni adnewyddadwy ar y safle a gerllaw yn cynnig y cyfle i ddysgwyr gael cipolwg manwl ar ddatrysiadau ar waith.

Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd

Archwilio datrysiadau cynaliadwy a meithrin sgiliau ymarferol ar gwrs Ôl-raddedig CYDA.
Darganfod mwy

Hwb Prydain Di-Garbon a Labordy Arloesi

Cymorth i gynghorau, cymunedau a sefydliadau lleol i weithredu ar newid hinsawdd.
Dysgu mwy
WISE accommodation

Gwely a Brecwast

Arhoswch yn ein hadeilad WISE cynaliadwy sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi’i leoli yng nghalon canolfan eco CyDA.
Archebwch eich lle
Wales Institute for Environmental Education (WISE) building

Llogi’r Lleoliad

Dewch â’ch cynadleddau, eich cyfarfodydd, eich diwrnodau cwrdd i ffwrdd a’ch digwyddiadau i CYDA i fwynhau profiad ysbrydoledig unigryw.
Darganfod mwy

Gwneud cyfraniad i CyDA

Newidiwch y byd gyda ni heddiw. Bydd eich rhodd yn helpu i rannu datrysiadau ymarferol a dysgu ymarferol wrth i ni gydweithio tuag at sicrhau dyfodol mwy diogel, mwy iach a mwy cynaliadwy i bawb. Diolch.