Hanes CyDA
Wedi ei sefydlu ym 1973 yn hen chwarel llechi segur Llwyngwern, mae Canolfan y Dechnoleg Amgen wedi dod ymhell ers ein dechreuad di-nod.
Nawr, wrth grwydro o amgylch yr adeiladau gwyrdd, y gerddi organig a’r coedwigoedd mae’n anodd dychmygu bod y rhan fwyaf o’r safle yn domen o rwbel o’r chwarel llechi 50 mlynedd yn ôl.
Beth oedd yma cynt?
Mynnwch arweinlyfr neu darllenwch yr arddangosfeydd o amgylch y safle i ddysgu am hanes chwarel Llwyngwern a sut oedd pethau yma cyn sefydlu CyDA.
Llwybr y Chwarel
Ar ddiwrnod sych mae’n werth ymweld â hwn. Heblaw am gael crwydro drwy goedwigoedd prydferth byddwch hefyd yn gallu gweld olion yr hyn a arferai fod yma – adeiladau ac olion peiriannau heb sôn y chwarel ei hun.
Darllenwch fwy am lwybr y chwarel
Lleisiau o hen chwarel segur
Wedi ei sefydlu yn wreiddiol fel cymuned fwriadol, yn yr arddangosfa hon gallwch weld pa mor bell mae CyDA wedi datblygu, a dysgu am yr heriau a wynebai gwirfoddolwyr ac aelodau cynnar y gymuned.
Arddangos Gweledigaeth am Ddyfodol Cynaliadwy
Nod CyDA ers y dyddiau cynnar oedd nid yn unig tynnu sylw at faterion amgylcheddol ond hefyd canolbwyntio ar ddwyn ynghyd, profi ac arddangos technolegau newydd, atebion ynni a thechnegau adeiladu ‘gwyrdd’.
Sefydlwyd y ganolfan ymwelwyr ym 1975 gan alluogi CyDA i arddangos ein gweledigaeth am ddyfodol mwy cynaliadwy i fwyfwy o bobl. I lawer, eu hymweliad â CyDA oedd eu cyfle cyntaf i weld ‘technoleg amgen’ megis tyrbinau gwynt a phaneli solar ffotofoltaidd ar waith, a rhoddodd lwyfan ehangach i CyDA wrth i ni geisio dangos bod cymdeithas gynaliadwy yn bosibl.

Lledaenodd CyDA’r neges hon i’r Llywodraeth hefyd, ac ym 1977, lluniwyd Strategaeth Technoleg Amgen ar gyfer y DU a’i chyflwyno i Weinyddiaeth Ynni Tony Benn.
Addysg
Ers y dyddiau cynnar mae CyDA wedi cydweithio gydag ysgolion, grwpiau ysgol ac ymwelwyr gan ddarparu addysg am ystod eang o bynciau yn ymwneud a chynaladwyedd. Yn y blynyddoedd diweddaf, rhoddwyd mwy o ffocws ar addysg yn hytrach nag arbrofi â thechnolegau amgen a’u profi.

Mae hyn yn rhannol yn dangos lle’r ydym yn sefyll fel cymdeithas. Mae’r technolegau i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn bodoli, y broblem yw nad ydym wedi dod ynghyd i weithredu’r newidiadau angenrheidiol.
Y dyfodol
Gweledigaeth CyDA ar gyfer byd lle’r ydym i gyd yn troedio’n ysgafn ar ein planed.
Gweledigaeth CyDA yw dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr holl ddynoliaeth fel rhan o fyd naturiol ffyniannus. Mae CyDA yn ysbrydoli, hysbysu a galluogi pobl i chwarae rhan wrth greu’r dyfodol hwn.
Trwy ein canolfan ymwelwyr, cyrsiau byr, Ysgol Raddedig a phrosiect Prydain Di-garbon, rydym yn darparu’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i gyflymu’r trawsnewidiad i ddyfodol sy’n ddiogel o ran yr hinsawdd.
Ymunwch â ni, a dewch yn rhan o’r newid hwn.
Mae dyfodol gwell yn bosib, ond rhaid i ni gyd helpu i’w greu.