Adeiladu Gwyrdd

Home » Dewch i CyDA » Grwpiau a Dysgu » Adeiladu Gwyrdd

Dysgwch fwy am sut y gall newid ein hymagwedd tuag at adeiladu ein helpu i leihau allyriadau carbon deuocsid a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Crwydrwch o gwmpas gan edrych ar ein harddangosfeydd rhyngweithiol er mwyn dysgu mwy am y newidiadau all helpu i gynyddu effeithlonrwydd ynni a lleihau’r effaith a gaiff eich cartref ar yr amgylchedd.

Gwell Adeiladu

Dysgwch fwy am sut y gallwn ddylunio ac adeiladu cartrefi mwy effeithlon. Mae gennym arddangosfeydd ar ddeunyddiau adeiladu bioddiraddadwy ac adnewyddadwy a’r gwahanol dechnegau y gellir eu defnyddio, ynghyd â chyngor ar sut i ddefnyddio’r haul i wresogi’n cartrefi mewn modd goddefol.

Ôl-ffitio a Gwresogi

Does dim rhaid dechrau o’r newydd bob tro. Mae llawer o newidiadau y gellir eu gwneud i’n cartrefi cyfredol i’w gwneud yn fwy ynni effeithiol a chyfforddus i fyw ynddynt.

Holwch yn y ganolfan ymwelwyr i ddysgu mwy am insiwleiddio eich cartref, neu edrychwch ar rai o’r dewisiadau mwy ynni effeithlon ac amgylchedd-gyfeillgar ar gyfer gwresogi eich cartref a thwymo eich dŵr – o losgwyr biomas, i bympiau gwres i wres solar uniongyrchol.

Adeiladau CyDA

Mae gennym, ar y safle, rai enghreifftiau o adeiladau cain a chyfforddus a dyluniwyd ac a adeiladwyd mewn modd amgylchedd-gyfeillgar.

Pan sefydlwyd CyDA roedd nifer o hen adeiladau cerrig ar y safle ers cyfnod y chwarel llechi. Roedd nifer mewn cyflwr gwael ac roedd angen eu hailadeiladu gan ddefnyddio llechi lleol.

Wrth i CyDA dyfu nid oedd yr adeiladau hyn yn ddigon i ateb ein hanghenion, felly penderfynwyd defnyddio’r cyfle hwn i arbrofi gydag amryw o dechnegau adeiladu amgylchedd-gyfeillgar ac i ymchwilio i sut y gellid dylunio cartrefi ac adeiladau mwy ynni effeithlon.

Mathau o Adeiladau

Dros y blynyddoedd, rydym wedi arbrofi gydag amrywiaeth helaeth o dechnegau a deunyddiau adeiladu yma yn CyDA.

Lle y bo’n bosib rydym wedi defnyddio deunyddiau o ffynonellau lleol a rydym hefyd wedi ceisio defnyddio deunyddiau sydd ar gael ledled y wlad fel bod pobl eraill yn gallu dysgu wrth ein harbrofion.