Amrywiaeth, Chynhwysiant a CyDA

Amrywiaeth, Chynhwysiant a CyDA


Home » Amrywiaeth, Chynhwysiant a CyDA

Un o’n blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd nesaf yw gwella amrywiaeth a chynhwysiant ar bob lefel ar draws y sefydliad. Amlinellir yr ymrwymiadau allweddol gan ein Hymddiriedolwr Sally Carr ac mae hi’n esbonio pam ei fod mor hanfodol i genhadaeth CyDA.

Yn ddiweddar mae CyDA wedi bod yn adnewyddu ei strategaeth sefydliadol, gan nodi’r weledigaeth, y genhadaeth a’r blaenoriaethau strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf, yn ogystal â disgrifio nifer o’r egwyddorion allweddol sy’n sail i’n gwaith. Un o’r rhain yw bod CyDA yn “Gynhwysol – rydym yn credu ym mhŵer trawsffurfiol amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb.” O’i roi yn ei gyd-destun, mae’r strategaeth yn cynnwys y paragraff canlynol:

“Mae’r mudiad amgylcheddol yn y DU yn cael ei reoli gan un ddemograffeg: y dosbarth canol gwyn. Nid oes gobaith i unrhyw un sefydliad allu newid yr amryw wreiddiau systemig i’r sefyllfa ar ei ben ei hun; fodd bynnag, un o’n hamcanion allweddol yn y pum mlynedd nesaf yw gwella amrywiaeth a chynhwysiant ar bob lefel ymysg ein staff ac ar draws cynulleidfaoedd allweddol. Bydd hyn yn ein galluogi i fanteisio ar, ac ymgysylltu ag ystod ehangach o leisiau wrth i ni greu mudiad dros newid.”

Mae’n werth nodi yma nad ydym yn honni mai pobl gwyn dosbarth canol yw’r unig rai sy’n ymgysylltu â gwaith amgylcheddol, ond bod gwaith amgylcheddol sy’n cael ei wneud gan grwpiau eraill yn cael ei anwybyddu yn aml gan sefydliadau sy’n cael ei dominyddu gan y ddemograffeg hon. Un enghraifft o grŵp o’r fath yw Wretched of the Earth, grŵp â’i wreiddiau ymhlith “pobl frodorol, du, brown ac unigolion ar wasgar sy’n mynnu cyfiawnder hinsawdd ac sy’n gweithredu mewn undod â’n cymunedau, yma yn y DU ac yn y De Byd-eang”.

Gyda digwyddiadau haf 2020 a’r sylw cynyddol gan y cyfryngau i fudiad Black Lives Matter, gwelwyd bod angen i bob adran o gymdeithas weithredu i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â hiliaeth systematig.

Yn CyDACAT, mae hyn wedi bod yn destun trafodaethau lu rhwng a chyda staff, rheolwyr ac ymddiriedolwyr yn ogystal â myfyrwyr o’n hysgol raddedigion, ein haelodau a’n cefnogwyr. Er bod CyDA CAT wedi croesawu amrywiaeth ac wedi anelu i fod yn gynhwysol bob amser, rydym yn cydnabod fod angen i ni fod yn fwy rhagweithiol, nid yn unig mewn perthynas â hiliaeth, ond o ran amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob maes. Mae hyn yn cwmpasu’r holl nodweddion a warchodir, megis hil, oed, cred, rhywedd ac anabledd, ond yn ogystal, pobl o wahanol gefndiroedd a safbwyntiau.

Yn yr amser sydd ohoni rydym yn adnewyddu ein hymrwymiad i weithredu ar bedair lefel:

1. Cynyddu cyrhaeddiad a chynrychiolaeth

Byddwn yn darganfod ffyrdd o gynyddu nifer y grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ymhlith ein holl randdeiliaid, yn cynnwys ymddiriedolwyr, staff, myfyrwyr, aelodau ac ymwelwyr.

Un ffordd y gallwn ymdrin â hyn yw defnyddio rhwydweithiau a sianeli a fydd yn ein helpu i sicrhau bod hysbysebion a hyrwyddiadau yn debygol o gael eu gweld gan gynulleidfaoedd amrywiol. Er enghraifft, yn ddiweddar bûm yn trafod â Malcolm John sy’n arwain ymgyrch o fewn Cymdeithas y Cadeiryddion i gynyddu amrywiaeth ymhlith ymddiriedolwyr elusennau, am ffyrdd y gallem ehangu’r cynulleidfaoedd sy’n debygol o weld ac ymateb i swyddi gwag i ymddiriedolwyr.

Cam pwysig arall fydd adolygu geiriad hysbysebion swydd i’w gwneud yn fwy deniadol i wahanol grwpiau. Gallwn edrych ar ddarparu cyfleoedd i bobl o grwpiau a dangynrychiolir i ddarganfod mwy am CyDA trwy raglenni neu ddyddiau penodol.

Fel sefydliad sydd wedi’i leoli yng Nghymru, hoffem gynyddu’r niferoedd staff – yn benodol ar lefelau uwch – sy’n dod o’r ardal leol ac sy’n siaradwyr Cymraeg rhugl. Un ffordd o fynd i’r afael â hyn fyddai rhoi mwy o bwyslais ar hyfforddiant a datblygu gweithwyr, fel eu bod yn gallu symud ymlaen o fewn y sefydliad a chymryd swyddi uwch.

2. Sicrhau amgylchedd sy’n galluogi ac yn gynhwysol

Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau ein bod yn creu amgylchedd sy’n galluogi ac yn gynhwysol i bawb. Gall hyn olygu newidiadau i gynllun ffisegol – er enghraifft, ers rhai blynyddoedd mae gennym doiledau yn y adeilad a chaffi ac yn adeilad WISE, wedi’u dynodi’n “niwtral o ran rhywedd”, i ddarparu ar gyfer pobl o ryw anneuaidd. Bydd angen cadw hygyrchedd mewn cof wrth wneud datblygiadau newydd ar y safle.

Mae hyfforddi a datblygu staff yr un mor bwysig, fel bo pawb yn cael ei drin gyda pharch ac mewn ffyrdd yr hoffent gael eu trin. Byddwn yn cynnwys hyfforddiant amrywiaeth a chynhwysiant fel rhan sylfaenol o anwythiad staff newydd, ynghyd â chynnig cyrsiau gloywi parhaus i staff presennol.

3. Cynnwys perthnasol

Byddwn yn parhau i adolygu cynnwys negeseuon addysgol CyDA, boed hynny ar arddangosfeydd ar y safle, teithiau a darlithoedd i ymwelwyr, cyrsiau byrion, rhaglenni i grwpiau ysgolion neu gyrsiau i raddedigion.

Rydym am sicrhau ein bod yn cynrychioli materion sy’n berthnasol i bobl o bob rhan o gymdeithas, ac nad ydym yn gwneud rhagdybiaethau sy’n ymddangos fel petaent yn eithrio rhai pobl.

Rai blynyddoedd yn ôl, rwy’n cofio cymryd rhan mewn sesiwn yn ystod un o gyrsiau byr Prydain Carbon Sero CyDA ar y ffyrdd y gellid lleihau effeithiau egni a CO2 yn y cartref. Hanner ffordd trwy’r sesiwn, cododd cyfranogwr ei llaw gan ddweud: “Mae hyn i gyd yn wych os ydych yn berchen ar eich tŷ eich hun, ond beth am y rhai ohonom sy’n rhentu – beth ydyn ni i fod i’w wneud?” Rydym yn ymwybodol iawn fod angen i negeseuon CyDA fod yn berthnasol i ystod eang o sefyllfaoedd y mae pobl yn byw a gweithio ynddynt.

4. Tynnu sylw at yr angen am gyfiawnder hinsawdd

Mae’n bwysig ein bod yn deall y cyswllt rhwng hiliaeth systemig a chyfiawnder amgylcheddol a hinsawdd er mwyn medru mynd i’r afael â cheisio atebion i newid hinsawdd.

Mae gan CyDA hanes sy’n mynd yn ôl ddegawdau o gynnwys cyfiawnder hinsawdd a thegwch byd-eang yn ei raglen addysg, drwy’r gwaith gydag ysgolion ac athrawon, yn ogystal â grwpiau hŷn – ystyriwyd bod ei weithgareddau yn y maes hwn yn arloesol ar y pryd.

Yn fwy diweddar, roedd, adroddiad CyDA yn 2017 ar Zero Carbon Britain: Making it Happen yn cynnwys adran oedd yn sôn yn benodol am y cyswllt rhwng anghydraddoldeb byd eang a newid yn yr hinsawdd.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Ysgol yr Amgylchedd i Raddedigion CyDA wedi bod yn addysgu mwy am y cysylltiadau rhwng newid hinsawdd, hiliaeth ac anghydraddoldeb byd-eang, ac mae hwn yn faes y byddwn yn parhau i roi pwyslais arno yn ein holl waith addysgiadol.

Pam ein bod am wneud hyn? Wel, un o’r rhesymau yw mai dyma’r peth iawn i’w wneud o safbwynt moesegol ac mae’n golygu bod ein hymrwymiad i werthfawrogi pob unigolyn a lleisiau amrywiol yn cael ei roi ar waith. Yr un mor bwysig, dyma’r unig ffordd y gall CyDACAT fod fwyaf effeithiol fel sefydliad. Ar un llaw, bydd mwy o amrywiaeth staff, ymddiriedolwyr, myfyrwyr ac aelodau yn dod â chyfoeth o syniadau a barn. Bydd hyn yn arwain at fwy o greadigrwydd a darlun llawnach o’r materion. Ar y llaw arall, bydd yn ein helpu i ymestyn allan ymhellach o ran ysbrydoli, hysbysu a galluogi pobl o bob cefndir i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth – mewn geiriau eraill – cyflawni cenhadaeth CyDA.

Byddem wrth ein boddau yn clywed gennych os ydych yn awyddus i helpu CyDA i barhau ar ei siwrnai amrywiaeth a chynhwysiant, yn enwedig os oes gennych arbenigedd, syniadau neu gysylltiadau a allai fod yn fuddiol yn eich barn chi.

Cysylltwch â ni i rannu eich barn

Gair am yr awdur

Mae Sally yn Is-Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr CyDA. Cyn ymuno â’r Bwrdd, roedd yn arwain ein tîm codi arian, a chyn hynny roedd wedi bod yn gwirfoddoli yn CyDACAT am flynyddoedd yn ystod ei gwyliau. Mae ei chefndir mewn seicoleg trefniadaeth ac mae ganddi 20 mlynedd o brofiad mewn arweinyddiaeth a hyfforddi datblygiad tîm.