
Hwb a Labordy Arloesi Prydain Di-garbon
HWB A LABORDY ARLOESI
Cefnogi cynghorau, cymunedau a sefydliadau eraill i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.
Mae Hwb a Labordy Arloesi Prydain Di-garbon yn helpu i droi datganiadau am yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth yn gamau gweithredu. Gydag atebion technolegol ar gael yn rhwydd, mae momentwm yn cynyddu yn ein trefi a’n dinasoedd i gyrraedd sero net cyn gynted â phosib.
Rydym yn rhoi’r wybodaeth, yr hyder a’r sgiliau i gynghorau, cymunedau a sefydliadau eraill i drawsnewid systemau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol cymhleth a sicrhau allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2040. Gwnawn hyn drwy ystod o gyrsiau hyfforddi, digwyddiadau, adroddiadau ymchwil manwl, prosesau labordy arloesi a hwb adnoddau ar-lein sy’n rhad ac am ddim. Rydym yn integreiddio ein dysgu ar draws y gweithgareddau hyn i’w gwella’n barhaus ac rydym yn rhannu’r wybodaeth orau sydd ar gael gyda’r rhai yr ydym yn gweithio gyda hwy a rhyngddynt.

Hyfforddiant a Digwyddiadau
Archwiliwch sut y gallwn greu cymdeithas fodern di-allyriadau. Mae ein cyrsiau yn cael eu datblygu a’u diweddaru’n gyson i ddod â’r syniadau a’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Labordy Arloesi
Dod â grwpiau aml-randdeiliaid ynghyd i archwilio ac arbrofi gyda ffyrdd newydd o wneud pethau fydd yn gwneud i sero net ddigwydd.

Pob Adroddiad
Mae ein holl adroddiadau Prydain Di-garbon yn canolbwyntio ar atebion ac yn archwilio’r rhwystrau posib i gyrraedd Prydain Di-garbon, a sut y gellir eu goresgyn. Mae’r adnoddau hyn ar gael yn Saesneg yn unig.

Ysgol y Graddedigion
Dewch i archwilio atebion cynaliadwy a datblygu sgiliau ymarferol ar gwrs Ôl-raddedig CyDA. Ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd – bydd y Gymraeg ar gael yn fuan.

GRWPIAU CYMUNEDOL
Archwiliwch sut y gall cymunedau gymryd y camau nesaf ar eu taith tuag at drawsnewidiad cyfiawn a gweithredu gwersi ein hymchwil Prydain Ddi-garbon ar lefel leol.
Cwrdd â’r Tîm
Amanda Smith
Rheolwr Hyfforddiant Prydain Di-garbon
Rachel Tuckett
Innovation Lab Manager
An experienced facilitator, bringing over 10 years’ experience in the UK Civil Service, Rachel is committed to helping organisations deliver a just transition.
John Anderson
Hyfforddwr/Hwylusydd Prydain Di-garbon
Newyddion diweddaraf o CyDA
-

Wrth i’r argyfwng hinsawdd ddyfnhau, a all twf economaidd traddodiadol barhau i ddarparu cynnydd cymdeithasol? Yn y blog yma, mae Myfi Fenwick yn archwilio hyn,…
-

O ddydd Gwener 21 i ddydd Sul 23 Awst, bydd CyDA yn agor ei drysau unwaith eto ar gyfer ein Cynhadledd CyDA flynyddol, sef penwythnos…
-

Ymwelodd Aelodau o’r Senedd ar gyfer Gwynedd Maldwyn, Siân Gwenllian AS, Elwyn Vaughan AS, a Mabon ap Gwynfor AS â Chanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA)…

Cysylltwch â Ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â ni a bydd aelod o’r tîm yn dod i gysylltiad â chi.







