Llety

Llety

Mae llety CyDA wedi’i leoli yn adeilad Sefydliad Addysg Cynaliadwyedd Cymru (WISE) sef cyfleuster eco arobryn a ddyluniwyd yn gelfydd yng nghanol ein Canolfan Ymwelwyr.

Mae’r 24 ystafell wely pâr a dwbl en-suite yn cynnig golygfeydd godidog o Barc Cenedlaethol Eryr. Mae’r ystafelloedd ar y llawr cyntaf yn rhannu teras gardd sy’n golygu y gallwch gael y mwynhad mwyaf o fod yng nghanol cefn gwlad Cymru. Mae gan bob ystafell wely gawod a basin golchi solar-thermol, ac fe’u gwresogir gan y boeleri biomas ar safle CyDA.

Mae llety ychwanegol ar gael ar y safle sy’n cynnig gwahanol opsiynau. Gall Eco Gabannau CyDA ddal hyd at 18 o bobl ymhob caban ac mae gan ein tŷ hunan-adeiladu yng nghanol y ganolfan 16 o welyau. Mae’r ddau opsiwn hyn yn cynnig cyfleusterau hunanarlwyo.

Cael bwyd o’r caffi

LLYSIEUWYR BALCH

Mae brecwast, cinio a phrydau nos ar gael yng Nghaffi CyDA, caffi poblogaidd a chyfforddus sy’n gweini bwyd cyflawn llysieuol. Defnyddir cynhwysion a gynhyrchir yn lleol lle bo’n bosib, ac mae ein garddwyr yn dod â chynnyrch a dyfir yn ffres yng ngherddi CyDA i’r gegin yn ddyddiol.

Cyfleusterau

Mae adeilad WISE yn lleoliad gwbl hygyrch gyda rampiau a lifftiau ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yn ogystal ag ystafelloedd gwely pwrpasol.

Mae wifi ar gael am ddim trwy’r lleoliad a’r ystafelloedd gwely.